Ffordd o fyw
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Rydyn ni’n gwybod fod hyn yn wahanol iawn i'r wythnos Freshers arferol. Fel arfer, ar hyn o bryd basech chi’n cwrdd gyda phobl eraill ar eich cwrs, ymuno â chymdeithasau neu’n dod i adnabod eich cymdogion dros ginio. Tra nad oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i adfer yr arferion yma, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn sicrhau ein bod ni’n ddiogel ac yn cymryd cyfrifoldeb er mwyn ceisio atal y firws rhag lledaenu. Dyma fach o gyngor am sut i aros yn ddiogel mewn preswylfeydd:
- Ble’n bosib, manteisiwch o drawsgludiadau heb gyswllt. Er gall y gost ychwanegol peri gofid, os bosib, ystyriwch ddefnyddio trawsgludiadau ar gyfer bwyd parod neu siopa bwyd yn lle mynd i'r siopau. Bydd hyn yn lleihau eich amlygiad i'r firws, ac mae’n llai o drafferth na mynd i'r siop gan fod y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr yn cynnig systemau trosgludo. Gallech wneud archeb gyda gweddill eich fflat er mwyn rhannu’r gost trawsgludiad.
- Diheintiwch fannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Mae dolennau drws, switshis golau, tapiau a dolennau peiriannau yn y gegin ymysg rhai o’r mannau sy’n cael eu cyffwrdd fwyaf. Trefnwch amserlen gyda gweddill eich fflat er mwyn rhannu’r tasgau a chadwch digon o nwyddau glanhau. Defnyddiwch y linc Sefydliad Iechyd y Byd am gymorth ar sut i lanhau’n effeithiol.
- Glanhewch eich dyfeisiau. Yn ogystal â mannau sy’n cael eu cyffwrdd llawer, mae angen glanhau a diheintio eich ffôn a’ch cyfrifiadur yn aml. Mae’r fideo hon gan y BBC yn dangos sut i ddiheintio eich ffôn symudol gan ddefnyddio sebon a dŵr:
- Does dim tystiolaeth bod angen diheintio eich bwydydd. Yn ôl y Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth y DU, does dim tystiolaeth bod coronafirwsau’n cael eu lledaenu trwy fwyd. Er hynny, dylech wastad golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr cyn i chi baratoi bwyd, a sicrhewch fod yr adnoddau a’r arwynebedd paratoi wedi eu glanhau hefyd.
- Os oes angen gwaith cynhaliaeth yn eich fflat, arhoswch ar wahân. Os oes problemau sy’n golygu fod angen cymorth gan y tîm cynhaliaeth, y tîm diogelwch neu weithwyr tu hwnt i'r rhwydwaith prifysgol, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw pellter diogel. Mae’n syniad da glanhau’r mannau mae’r staff wedi cyffwrdd.
- Byddwch yn ymwybodol o wybodaeth gan ffynonellau swyddogol. Fel yr ydych wedi gweld, mae canllawiau a deddfau’n newid trwy’r amser er mwyn ymateb i ddatblygiad y pandemig, felly sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r newyddion diweddaraf o ran beth sy’n ddiogel a’r hyn y gallech ei wneud. Dilynwch newyddion gan ffynonellau swyddogol, fel Llywodraeth Cymru/DU a Sefydliad Iechyd y Byd.
Gallech ddarllen mwy o ganllawiau am gadw eich cartref yn lân ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
- Darllen Nesaf
-
Departure Information for Halls of Residence
Perlau Cudd Caerdydd
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
- Poblogaidd
-
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref