Llety
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Er nad yw'n effeithio ar bethau fel y gwnaeth yn 2020, mae COVID-19 yn dal i fod yn real iawn i lawer o bobl, ac mae'n bwysig iawn i bob un ohonom fod yn ofalgar bod yna bobl sy'n dal i boeni'n fawr am ei ddal, a firysau eraill hefyd. Heblaw, mae Ffliw Freshers yn dal i fod yn beth, felly mae bob amser yn ddefnyddiol i fod yn barod gyda ffyrdd o gadw'ch hun yn ddiogel!
Dyma fach o gyngor am sut i aros yn ddiogel mewn preswylfeydd:
- Ble’n bosib, manteisiwch o drawsgludiadau heb gyswllt. Er gall y gost ychwanegol peri gofid, os bosib, ystyriwch ddefnyddio trawsgludiadau ar gyfer bwyd parod neu siopa bwyd yn lle mynd i'r siopau. Bydd hyn yn lleihau eich amlygiad i'r firws, ac mae’n llai o drafferth na mynd i'r siop gan fod y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr yn cynnig systemau trosgludo. Gallech wneud archeb gyda gweddill eich fflat er mwyn rhannu’r gost trawsgludiad.
- Diheintiwch fannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Mae dolennau drws, switshis golau, tapiau a dolennau peiriannau yn y gegin ymysg rhai o’r mannau sy’n cael eu cyffwrdd fwyaf. Trefnwch amserlen gyda gweddill eich fflat er mwyn rhannu’r tasgau a chadwch digon o nwyddau glanhau. Defnyddiwch y linc Sefydliad Iechyd y Byd am gymorth ar sut i lanhau’n effeithiol.
- Glanhewch. Eich. Dyfeisiau. Yn ogystal â mannau sy’n cael eu cyffwrdd llawer, mae angen glanhau a diheintio eich ffôn a’ch cyfrifiadur yn aml. Mae’r fideo hon gan y BBC yn dangos sut i ddiheintio eich ffôn symudol gan ddefnyddio sebon a dŵr.
- Does dim tystiolaeth bod angen diheintio eich bwydydd. Yn ôl y Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth y DU, does dim tystiolaeth bod coronafirwsau’n cael eu lledaenu trwy fwyd. Er hynny, dylech wastad golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr cyn i chi baratoi bwyd, a sicrhewch fod yr adnoddau a’r arwynebedd paratoi wedi eu glanhau hefyd.
- Os oes angen mynd at eich fflat ar gyfer gwaith cynnal a chadw, gallwch barhau i gadw pellter cymdeithasol i fod yn ddiogel. Mae glanhau unrhyw fannau sydd wedi eu cyffwrdd ar ôl i'r staff adael yn syniad da hefyd.
- Byddwch yn ymwybodol o wybodaeth gan ffynonellau swyddogol. Fel yr ydych wedi gweld, mae canllawiau a deddfau’n newid trwy’r amser er mwyn ymateb i ddatblygiad y pandemig, felly sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r newyddion diweddaraf o ran beth sy’n ddiogel a’r hyn y gallech ei wneud. Dilynwch newyddion gan ffynonellau swyddogol, fel Llywodraeth Cymru/DU a Sefydliad Iechyd y Byd.
Gallwch ddarllen mwy am ganllawiau ar gyfer cadw'ch cartref yn lân ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Am ragor o wybodaeth, gallwch ymweld â gwefan Coronavirus i gael yr holl ddiweddariadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
Topics
- Darllen Nesaf
-
Fy Mhrofiad De Tal-y-bont
Beth i'w pacio ar gyfer Prifysgol
Canllaw glanhau: Preswylfeydd
Archwilio siopau coffi Caerdydd
5 asgwrn gên yn gollwng heiciau o amgylch De Cymru
Llefydd diddorol i gerdded yng Nghaerdydd a'r cyffiniau
Achub ar deithio: I, o ac yng Nghaerdydd
Sut i arbed ar eich siop archfarchnad
Bywyd mewn neuaddau yn ôl-raddedig
Amgueddfeydd a chestyll yng Nghaerdydd
- Poblogaidd
-
Byw cymunedol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Mynd o Le i Le
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd
Syniadau ar gyfer addurno eich ystafell
Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright