Ffordd o fyw
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Ap SafeZone
Mae’r ap SafeZone yn rhaglen am ddim sy’n gallu rhybuddio tîm diogelwch Prifysgol Caerdydd a’r gwasanaethau argyfwng os ydych chi mewn perygl neu’n teimlo’n anniogel. Gallech lawr lwytho’r ap o Google Play neu Apple Store. Mae’r rhaglen yn gweithio trwy anfon eich lleoliad i'r gwasanaethau diogelwch pan rydych yn nodi rhybudd neu’n mewnbynnu manylion eich lleoliad. Mae gwahanol rybuddion y gallech nodi, e.e.. argyfwng, cymorth cyntaf neu alw am gymorth. Gallech ddarganfod mwy o wybodaeth ac atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml yma: https://www.safezoneapp.com/faqs

Derbyn nwyddau glanweithiol ac atgenhedlu am ddim
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cynllun dosbarthu nwyddau atgenhedlu ac ymwybyddiaeth iechyd rhywiol o’r enw Cerdyn-C am bobl rhwng 13 a 25 blwydd oed. Trwy’r cynllun gallech dderbyn condomau yn wythnosol am ddim o ganolfannau amrywiol yng Nghaerdydd. Am fwy o wybodaeth ac er mwyn darganfod lleoliad eich canolfan agosaf, ewch i'r wefan: http://www.cccymru.co.uk/outlets/find/.
Ar hyn o bryd does dim cynllun dosbarthu nwyddau glanweithiol am ddim ym Mhrifysgol Caerdydd. Er hynny, mae dosbarthwr tamponnau am ddim yn Undeb y Myfyrwyr ar yr ail lawr ger y dderbynfa.

Cynllun Tacsi Diogel
Mae’r cynllun tacsi diogel yn bartneriaeth rhwng Undeb y Myfyrwyr a chwmni Dragon Taxis. Gallech gymryd taith gartref, i orsaf heddlu neu i ysbyty hyd yn oed os nad oes arian arnoch chi, wedyn gallech dalu’n hwyrach. Gallech ddefnyddio’r cynllun yma tra rydych chi mas ac yn teimlo’n anniogel. Sicrhewch eich bod yn rhoi eich enw, eich rhif myfyriwr a gofynnwch am ‘Cynllun Tacsi Diogel Prifysgol Caerdydd’ pan rydych yn galw i archebu tacsi. Bydd rhaid i chi ddangos eich cerdyn myfyriwr. Am fwy o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio, cliciwch yma: https://www.cardiffstudents.com/city-life/community/safe-taxi-scheme/

Diogelwch tân a thrydanol ym mhreswylfeydd
Er i'r pynciau yma cael eu trafod mewn mwy o fanylder yn ystod eich cyflwyniad r-lein ar wefan y preswylfeydd, dyma grynodeb o’r wybodaeth allweddol. Gallech ddarllen mwy o wybodaeth trwy chwilio am ‘Eich iechyd a diogelwch ym mhreswylfeydd’ ar yr Intranet.
- Dylai eich nwyddau trydanol bod yn ddiogel i'w defnyddio. Os oes angen, trefnwch brofion i wirio hyn (PAT) yn y dderbynfa (neu o fewn eich ysgol academaidd).
- Os ydych yn fyfyriwr o dramor, mae’n debygol bydd angen addasydd ar gyfer eich plygiau. Sicrhewch eich bod yn prynu rhai sy’n ddiogel. Tra ein bod yn argymell prynu addaswyr cyn i chi gyrraedd, gallech eu prynu ar ôl i chi lanio: yn y maes awyr, o dderbynfa eich neuadd breswyl neu o amryw o siopau yng Nghaerdydd.
- Ni chaniateir gwresogyddion cludadwy yn eich ystafell.
- Ar adegau, efallai byddech yn clywed y larwm tân yn seinio yn eich neuadd breswyl. Pan mae hyn yn digwydd, dylech adael yr adeilad ar unwaith a chwrdd yn y man cwrdd agosaf. Ymgyfarwyddwch gyda lleoliad eich man cwrdd agosaf a chofiwch i beidio cymryd eich eiddo gyda chi.
- Nid oes gennych ganiatâd i ddefnyddio nwyddau penodol fel canhwyllau a llosgwyr arogldarth yn eich neuaddau preswyl gan eu bod yn berygl tân. Os ydych yn ansicr o’ch hawl i ddefnyddio eitem benodol, gofynnwch wrth y dderbynfa.
- Sicrhewch fod drysau sydd wedi cael eu labeli gyda ‘drws tân’ yn aros ar gau/heb gael eu gwthio ar agor a bod y cyfarpar diogelwch tân yn aros fel y roedd wrth i chi gyrraedd y fflat. Mae torri’r rheolau yma’n gallu arwain at ddirwy i unigolion ac o bosib, i'r fflat gyfan.

Topics
- Darllen Nesaf
-
Cwrdd â’r tîm: Cydlynwyr Bywyd Preswyl
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Tal-y-bont
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y De
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Neuadd y Brifysgol
Fy mhrofiad i o Ogledd Tal-y-bont
Fy mhrofiad i o Lys Cartwright
Byw ar Gampws y De
Byw yn Campws y Gogledd
Fy Mhrofiad Neuadd y Brifysgol
Fy Ngofod Cymdeithasol: Cartwright a Roy Jenkins
- Poblogaidd
-
Byw cymunedol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref
Mynd o Le i Le
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Syniadau ar gyfer addurno eich ystafell
Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright
Perlau Cudd Caerdydd