Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com
a checklist and a red pen

Llety

Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref

By ResLife 15 Sep 2020

Helo ’na, fyfyriwr newydd! Yn gyntaf, llongyfarchiadau i chi am ennill lle i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn falch iawn ohonoch! Dylech chi fod hefyd. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i’r Brifysgol ac i’r preswylfeydd! Fel rhan o’n hyfforddiant ymsefydlu, rydym wedi creu’r rhestri wirio hon sy’n cynnwys yr hyn fydd ei angen arnoch YN EICH YSTAFELL NEWYDD i’w gwneud mor gartrefol a phersonol a phosibl! 

a door mat that says home

Yn bwysig iawn, peidiwch ag anghofio dod â phethau i addurno eich ystafell a’i gwneud hi’n rhywle personol! Mae gennych chi ystafell eich hun! (I lawer ohonoch chi, efallai mai dyma fydd y tro cyntaf na fyddwch yn rhannu ystafell). Felly, os ydych wedi breuddwydio am gael ystafell eich hun i’w haddurno fel y mynnoch, dyma eich cyfle ch (os ydych yn dilyn canllawiau Preswylfeydd) ! Wrth gwrs, gallwch brynu pethau newydd i’ch ystafell chi, ond rydym hefyd yn creu y byddai’n hyfryd pe baech yn dod â phethau o’ch ystafell gartref a’u rhoi yn eich ystafell yn y Brifysgol! Gall hyn eich helpu chi i ymgartrefu, i ymlacio ac i deimlo’n gartrefol.

Dogfennau pwysig:

  • Pasbort, Cerdyn adnabod, Trwydded yrru
  • Llythyr derbyn i’r Brifysgol 
  • Cynnig preswylfeydd
  • Cadarnhad ynghylch cyrraedd
  • Manylion cyfrif banc 
  • Dogfennau cyllid myfyrwyr a benthyciad (fel arfer ar gyfer myfyrwyr cartref)
  • Llythyrau ysgoloriaeth a bwrsariaeth
  • Rhif Yswiriant Gwladol 
  • Rhif y GIG 
  • Cofnodion iechyd a brechiadau, gan gynnwys copïau presgripsiwn
  • Dogfennau yswiriant megis dogfennau talu iechyd cenedlaethol (i fyfyrwyr rhyngwladol) 
  • Cardiau gostyngiadau i fyfyrwyr a theithio (cerdyn teithio 16-25, cerdyn trenau UCM) 
a person holding a box

Ar gyfer eich ystafell: 

  • Dwfe a gorchudd 
  • Gobennydd a gorchudd 
  • Blanced (i gadw’n gynnes pa fydd hi’n oer!)
  • Dillad gwely (2 yn ddymunol er mwyn cael un sbâr ar bob adeg) 
  • Basged ddillad 
  • Hongwyr dillad 
  • Bachau dros y drws (gall y rhain fynd dros ddrws eich ystafell ymolchi os oes gennych ensuite) i hongian eich siacedi neu dywelion ychwanegol. Os nad oes gennych ensuite, gallwch gael bachau wal gludiog y gallwch eu tynnu i lawr. Byddwch yn ofalus i beidio â hongian gormod oherwydd gall niweidio'r drws os yw'n rhy drwm!
  • Sliperi/flip-flops (yn enwedig os ydych yn rhannu ystafell ymolchi)
  • Ymbarél 
  • Pinnau (i roi nodiadau a phapurau ar yr hysbysfwrdd yn eich ystafell)
  • Lamp ddesg
  • Estyniad ceblau trydanol (dim ond rhai mathau o ganiateir felly gwiriwch â'ch derbynfa!)
  • Cloc larwm (mae cael cloc larwm wrth erchwyn eich gwely yn golygu eich bod yn llai tebygol o ddefnyddio'ch ffôn cyn i chi gysgu a phan fyddwch chi'n deffro!)
  • Plygiau clustiau
  • Posteri, mapiau, lluniau (i'w rhoi ar hysbysfyrddau yn unig)
  • Goleuadau bach (un o'r ychwanegiadau mwyaf poblogaidd i ystafelloedd myfyrwyr, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael y rhai sy'n rhedeg ar fatri gan mai dyna'r rhai a ganiateir mewn neuaddau!)

*Mae'r mwyafrif o welyau yn welyau sengl ond gall hyn fod yn wahanol ar draws safleoedd.

*O ran dillad gwely, oni bai eich bod yn archebu pecyn dillad gwely o'r Brifysgol, ni fydd gan eich ystafell unrhyw ddillad gwely ynddi pan fyddwch yn cyrraedd heblaw am y fatres.

*Fyfyrwyr rhyngwladol, fe’ch cynghorir i brynu pecyn dillad gwely ar-lein gan y Brifysgol. Mae’n cynnwys: 1 x cynfas gwely, 1 x gobennydd 1 x gorchudd gobennydd, 1 x dwfe 1 x gorchudd dwfe, 1 x tywel dwylo, 1 x tywel corff. Os byddwch yn prynu un, yna fe gewch y pecyn wrth gyrraedd gan dderbynfa eich preswylfa, neu bydd eisoes wedi’i rhoi yn eich ystafell. Fe'ch cynghorir yn arbennig i gael pecyn dillad gwely os ydych chi'n mynd i gyrraedd Caerdydd yn hwyr gyda'r nos oherwydd erbyn hynny byddai'r siopau wedi cau ac ni allwch fynd allan i brynu dillad gwely. Nid ydych eisiau treulio eich noson gyntaf yng Nghaerdydd yn cysgu ar fatres yn unig!

a bed with a note book on it

Ar gyfer eich ystafell ymolchi:

  • Brwsh dannedd, past dannedd
  • Siampŵ, gel cawod 
  • Deodorant 
  • Sebon
  • Tywelion (i’r dwylo a’r corff) 
  • Gwn llofft (yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn rhannu ystafell ymolchi mewn fflat)    
  • Papur tŷ bach
  • Deunyddiau glanhau’r ystafell ymolchi (menig rwber, glanhawyr hylif i’r tŷ bach)

*Dylai eisoes fod brwsh tŷ bach yn eich ystafell ymolchi. 

3 towels rolled up

Ar gyfer eich cegin: 

  • Cyllyll a ffyrc ((llwyau bwrdd, llwyau te ac ati)
  • Plât, powlen, cwpan/mwg
  • Cyllell miniog, crafwr, gratiwr
  • Agorwr caniau, agorwr poteli
  • Sbatwla, llwy bren, lletwad
  • Colandr, hidlwr
  • Bwrdd torri
  • Sosban, padell ffrio
  • Dysgl rhostio yn y ffwrn, hambwrdd pobi 
  • Menig ffwrn  
  • Papur ffoil tun (neu bapur pobi), haenen lynu 
  • Cynwysyddion storio/Tupperware (yn arbennig o bwysig os ydych eisiau coginio ar gyfer sawl diwrnod a storio bwyd neu i bacio’ch cinio pan fyddwch yn y Brifysgol). 
  • Hambwrdd bach 
  • Sbwng a hylif golchi llestri
  • Sgwriwr llestri metel (i gael gwared ar saim)
  • Tyweli te

*Fyfyrwyr rhyngwladol: er mai eich dewis chi ydyw, nid ydym yn eich cynghori i ddod ag offer cegin, cyllyll a ffyrc a llestri o'ch mamwlad a'u pacio yn eich bagiau. Mae nifer o lefydd lle gallwch siop ar gyfer y math yna o eitemau yng Nghaerdydd pan fyddwch yn cyrraedd, gan gynnwys IKEA a Wilko. Yn bendant bydd yn arbed rhywfaint o le yn eich bagiau! 

jars in a kitchen

Bydd yr eitemau canlynol EISOES ar gael yn eich cegin/fflat: 

  • Haearn smwddio a bwrdd smwddio
  • Hwfer trydanol 
  • Brwsh a phadell lwch
  • Mop a bwced
  • Microdon
  • Tegell 
  • Tostiwr 
  • Biniau gwastraff, bwyd ac ailgylchu cyffredinol
a vacuum cleaner

Pynciau Poblogaidd in Llety