Llety
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Am fod y cyfnod arholiadau wedi dechrau i bron pawb, mae bellach yn
bwysicach nag erioed nodi strategaethau personol i ddelio â'r gwaith dwys sydd
o’n blaenau, a all achosi llawer o straen. Dyma ychydig o awgrymiadau syml ond
effeithiol sy'n ymwneud ag agwedd ar ein bywyd rydym yn tueddu i’w hanwybyddu
neu, o bosibl, ei hesgeuluso ar adegau fel hyn: bwyd.
I ddechrau, ychydig o symptomau ac achosion
Mae'r symptomau straen mwyaf cyffredin yn amrywio o
gur pen i insomnia, yn ogystal ag amrywiadau hwyl neu orbryder. Gall y mathau
gwaethaf o straen arwain at bwysedd gwaed uchel, a all yn ei dro gynyddu'r risg
o ddioddef o glefydau cardiofasgwlaidd peryglus.
O safbwynt meddygol, straen yw ymateb yr organeb
i straenachoswr.
Y straenachoswyr hyn yw'r holl amodau allanol hynny a allai gael effaith ar ein
lles seicolegol a/neu gorfforol, fel cyfnodau hir o waith dwys a blinedig neu
ddigwyddiadau trawmatig yn seicolegol neu’n gorfforol. Pan fyddwn yn destun yr
ysgogiadau hyn, mae ein horganeb yn ymdopi drwy ddechrau bod yn effro i
beryglon am gyfnod estynedig, sy’n arwain at gynhyrchu hormonau fel cortisol ac
adrenalin. Mae'r rhain yn effeithiol am gyfnod byr, ond maent yn achosi pwysedd
gwaed uchel ac yn dargyfeirio adnoddau pwysig o'n system imiwnedd.
Mae meddwl am straen yn y ffordd hon yn bwysig iawn,
gan y gallwn adennill rheolaeth ar rai o'r amodau allanol hyn. Mae cwsg yn sicr
yn un. Mae’r ffordd rydym yn bwyta yn un arall. Yn aml, mae cysylltiad rhwng y
ddau.
Nawr,
ychydig o bethau a all helpu
Ar wahân i ddeiet cytbwys, mae sawl math o fwyd y
gallwn ddibynnu arno mewn cyfnod o straen. Mae effeithiolrwydd y mathau hyn o
fwyd i’w briodoli i’w heffaith ar rai agweddau allweddol ar gydbwysedd cemegol
ein horganeb.
Er y gallai pethau fel cacennau, a melysion yn gyffredinol, helpu yn y tymor byr, mae eu heffaith ar ein horganeb yn wrthgynhyrchiol iawn. Mae bwyd sy’n uchel ar y mynegai glycemig yn cynhyrchu inswlin ac, yn ei dro, cortisol, un o'r prif hormonau sy'n achosi teimladau o straen.
Mae llysiau, ffrwythau, cnau, grawnfwydydd a siocled (sy’n cynnwys o leiaf 80% o goco) i gyd yn ysgogi adwaith cadarnhaol yn ein horganeb.
Mae'r rhain i gyd yn helpu ein corff i gynhyrchu endorffinau, sy'n ein helpu i gysgu ac yn helpu i reoli ein hwyliau. Mae grawnfwydydd grawn cyflawn yn cynnwys llawer o fitamin B, sy'n bwysig i gynnal ein system nerfol.
Mae cnau’n cynnwys braster annirlawn ac amlannirlawn, sy'n dda i'n horganeb ac yn helpu i leihau colesterol. O ran lleddfu straen, mae cnau almon, er enghraifft, yn cynnwys magnesiwm, calsiwm a seleniwm, sydd i gyd yn rheolyddion straen sy'n gallu lleddfu pryder.
Gall diodydd gael effaith gref ar ein lles, hefyd. Gallai diodydd egni, a diodydd sy’n cynnwys caffein yn gyffredinol, ein helpu i gadw’n effro ond, yn y pen draw, maent yn parhau ac yn gwaethygu’r tensiwn rydym yn ei deimlo. Gallant arwain at ddiffyg cwsg a chylchoedd cythreulig a all fod yn anodd eu torri.
I'r gwrthwyneb, mae te gwyrdd, er enghraifft, yn ddiod nad yw’n cynnwys caffein ond sy’n cynnwys gwrthocsidyddion defnyddiol. Mae te rooibos, sydd â phriodweddau tebyg, hefyd yn helpu i leihau pwysedd gwaed.
Yn olaf, mae pryd rydym yn bwyta yn gallu cael effaith ar ein lles. Gall ein helpu i dreulio bwyd a helpu i gysoni cylchoedd cysgu. Yn yr achos hwn, mae’r awgrym yn syml, ond nid yw bob amser yn hawdd ei wneud pan fydd ein holl sylw ar adolygu a gorffen gwaith mewn pryd. Mae'n bwysig bwyta prydau maethlon, fel brecwast, yn gynnar yn y dydd er mwyn sicrhau nad ydym yn cyrraedd diwedd y dydd yn teimlo’n newynog. Gall hyn arwain at orfwyta, a allai gael effaith ar ansawdd ein cwsg.
Nodwch mai fy safbwyntiau i yw’r rhain ac nid safbwyntiau’r Tîm Bywyd Preswyl. Os hoffech gael adnoddau hunangymorth neu gymorth pellach ar les neu straen, ewch i Adnoddau hunangymorth – Mewnrwyd y myfyrwyr – Prifysgol Caerdydd
Topics
- Darllen Nesaf
-
Departure Information for Halls of Residence
Gweithdai Dydd Mercher Lles
Perlau Cudd Caerdydd
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
- Poblogaidd
-
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Pump Ffordd i Ymlacio