Cefnogaeth
Chwilio am gyngor ar frys
Os oes angen cefnogaeth frys neu y tu allan i oriau gwaith arnoch chi neu unrhyw un arall, dyma wybodaeth am bwy y dylech gysylltu â nhw.
Mewn argyfwng
Ffoniwch +999 ac i roi gwybod i Ddiogelwch, deialwch +44 (0)29 2087 4444 os yw’r sefyllfa’n ymwneud â’r canlynol: perygl uniongyrchol, bwriad i gyflawni hunanladdiad, cario arf, bygwth niwed, peri anaf corfforol, lladd myfyriwr neu gyflawni terfysgaeth.
Os ydych chi’n pryderu amdanoch eich hun neu eraill
Ffoniwch +44 (0)29 2251 8888 a dewis Opsiwn 1 neu ebostio concernedaboutastudent@caerdydd.ac.uk os bydd y sefyllfa’n ymwneud â’r canlynol: perygl i chi eich hun neu i eraill, ymddygiad afreolaidd, newidiadau ymddygiad, ymddieithrio, personau ar goll neu ddigartrefedd.
Byddant yn ateb eich ymholiad, lle bo modd, o fewn un diwrnod gwaith rhwng 10:00 a 16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) yn ystod y tymor yn unig.
Os byddwch yn anfon ebost atyn nhw gyda phryder ar ôl 16:00 ni fydd hwn yn cael sylw tan y diwrnod gwaith canlynol.
I gael cefnogaeth 24/7 gan Galw Iechyd Cymru, ffoniwch +44 (0)845 46 47 neu ewch i Galw Iechyd Cymru.
Datgelu profiad o drais neu gam-drin
Ffoniwch +44 (0)29 2251 8888 a dewis Opsiwn 1 neu ebostio disclosureresponseteam@caerdydd.ac.uk os bydd y sefyllfa’n ymwneud â’r canlynol: ymosodiad rhywiol, treisio, trais domestig, stelcian, aflonyddu neu drosedd atgasedd.
Os yw’r profiad yn digwydd yn awr ac rydych mewn perygl ar hyn o bryd, cyfeiriwch at y cyngor brys uchod. Os ydych wedi profi math o drais rhywiol yn ystod y 72 awr ddiwethaf, cysylltwch â’r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau i gael cyngor ac arweiniad ar unwaith.
Angen cymorth (ond heb fod mewn argyfwng)
Ewch i cymorth Cwnsela, Iechyd a Lles os yw’r sefyllfa’n cynnwys: trallod emosiynol, meddwl am hunanladdiad, straen a phryder, iselder ysbryd, unigrwydd neu iechyd meddwl.- Darllen Nesaf
-
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
Canllaw Llys Cartwright
Beth yw’r pethau gorau am fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd?
Llwybrau rhedeg Caerdydd
- Poblogaidd
-
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Canllaw Llys Cartwright
Sut i...lanhau eich fflat
Ryseitiau dau gynhwysyn
Sut i...olchi dillad
Pethau i'w cofio mewn neuaddau
Cefnogaeth y tu allan i’r Brifysgol
Sut i ddefnyddio...Next Bike
Sut i...Siopa Bwyd