Llety
Cwestiynau Cyffredin am Ymgartrefu
Noder: Gall rhai prosesau newid eleni oherwydd COVID-19, sicrhewch eich bod yn darllen unrhyw ebost rydych yn ei gael gan y brifysgol cyn i chi gyrraedd ac yn ystod yr wythnosau cyntaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd pob Digwyddiad Bywyd Preswyl ar-lein ar gyfer y semester cyntaf.
Ble y gallaf gasglu fy ngherdyn myfyriwr?
Gellir casglu'r Cerdyn Myfyriwr o Undeb Myfyriwr Prifysgol Caerdydd. Gallwch ddod o hyd iddo ym Mhlas y Parc, CF10 3QN. Cymerwch yr holl ddogfennau gofynnol megis eich cynnig diamod, tystiolaeth eich bod wedi ymrestru ac ati. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl gan y bydd angen eich cerdyn myfyriwr i gael mynediad at y rhan fwyaf, os nad pob un, o adeiladau'r brifysgol.
Sut ydw i'n cofrestru gyda Meddyg Teulu?
Ar ôl cael eich allweddi ar gyfer eich ystafell, byddwch yn cael ffurflen i'w llenwi ar gyfer cofrestru gyda Meddyg Teulu a byddwch yn cael gwybod y bydd cynrychiolydd o'r swyddfa meddyg teulu agosaf yn dod ar ddyddiad penodol i gasglu'r ffurflen ac i ateb eich cwestiynau i gyd. Bydd y tro hwn o gwmpas yr wythnosau cyntaf ar ôl symud i mewn i'ch ystafelloedd. Os nad ydych wedi cael y ffurflen, ewch at dderbynfa eich llety a gofynnwch am un.
Sut i agor Cyfrif Banc Myfyriwr?
Er mwyn agor cyfrif banc myfyriwr, bydd angen i chi fynd i gangen banc. Mae swyddfa Banc Santander yn Undeb y Myfyrwyr. Bydd angen Llythyr Banc arnoch y gallwch ei gael drwy SIMS. Gofynnir am ryw fath o gerdyn adnabod, megis pasbort, trwydded yrru ac ati.

Sut ydw i'n cysylltu dyfeisiau â rhwydwaith Wi-Fi'r Brifysgol?
Ar gyfer dyfeisiau megis ffonau symudol a gliniaduron, ewch i intranet.caerdydd.ac.uk, mewngofnodwch a chwiliwch am 'Eduroam' yn y bar offer. Dewiswch ‘Connect to the wireless network’ yna dewiswch eich dyfais. Hefyd, dylai bod poster yn eich cegin ar yr hysbysfwrdd sy'n dangos cyfeiriadau o gysylltu ag Eduroam. O ran consol gemau, mae'n anoddach gan nad yw'r fewnrwyd yn dangos canllawiau ar gyfer cysylltu Xbox neu PlayStation.
Dilynwch y camau hyn i gysylltu consolau â'r fewnrwyd:
- Mae angen Cebl Ether-rwyd arnoch. Ni ellir cysylltu consolau drwy'r opsiwn di-wifr ar y campws
- Cyn gwneud unrhyw gam arall, bydd angen i chi ddod o hyd i Gyfeiriad MAC (LAN) eich consol. Mae hyn ar gael o dan Osodiadau'r Rhwydwaith
- Pan fyddwch yn dod o hyd o'r Cyfeiriad MAC, ewch i https://reslan.cf.ac.uk/gaming/. Llenwch y manylion er mwyn cofrestru eich consol ar y rhwydwaith
- Gadewch y consol am hyd at 48 awr yna gallwch symud ymlaen at y cam nesaf
- Cysylltwch eich consol gyda'r Cebl Ether-rwyd â'r porth ether-rwyd yn eich ystafell. Fel arfer mae uwch ben y ddesg
- Trowch eich consol ymlaen a dewiswch yr opsiwn o gysylltu drwy LAN/Gwifr
- Profwch y cysylltiad â’r we
- Efallai y bydd gwall ond ar y pwynt hwn bydd eich consol wedi'i gysylltu â'r fewnrwyd, ond ni allwch gael mynediad at y we i chwarae gemau eto
- Agorwch y porwr ar eich consol, teipiwch unrhyw beth yn y bar offer a chwiliwch amdano
- Cliciwch 'Yes' yn yr opsiwn a fydd yn codi a chewch eich ailgyfeirio at y dudalen sefydlu. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn a llenwch y manylion gofynnol
- Dylai eich consol fod wedi cysylltu nawr. Os nad yw, ceisiwch ailddechrau eich consol a gweld os bod hynny'n gweithio
- Os ydych yn profi problemau o hyd, cysylltwch â'r gymdeithas gemau yn https://www.facebook.com/CGSHelpGroup
Lle gallaf gwrdd â phobl newydd?
Mae'r Tîm Bywyd Preswyl yn cynnal digwyddiadau ar y safle ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yn yr un llety fel y gallant ddod a chwrdd ag eraill. Rydym yn gweini coffi, te, bisgedi ac ati, i gyd yn rhad ac am ddim. Os nad ydych yn brysur a hoffech gwrdd â phobl newydd, dewch i fan cymdeithasol eich llety! Mae ymuno â chymdeithasau yn ffordd newydd arall o gwrdd â phobl, yn enwedig pobl sydd â diddordebau tebyg. Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr yn CardiffStudents.com ac ewch ati i chwilio am gymdeithasau y byddech yn hoffi ymuno â nhw.
Sut y gallaf deithio o gwmpas y Campws?
Os nid cerdded yw eich dewis o ran teithio o gwmpas, nid yw hynny' broblem. Mae NextBikes yn wych i fyfyrwyr gan fod digonedd o ddociau beiciau o gwmpas. Pan rydych yn cofrestru â nhw, rydych yn cael 30 munud cyntaf o bob dydd yn rhad ac am ddim! Opsiwn arall byddai defnyddio bysiau lleol. Rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho ap Cardiff Bus i gael llwybrau ac amserlenni bysiau. Os rydych yn byw mewn Neuadd y Brifysgol, mae gennych fynediad at fws sy'n codi pobl yno ac sy'n gollwng pobl mewn sawl lleoliad gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr, Adeiladau’r Frenhines, Ysgol Newyddiaduraeth, ac ati.

Beth i'w wneud yn ystod pythefnos cyntaf y brifysgol?
Yn ystod yr wythnosau cyntaf o symud i Gaerdydd, bydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnal llawer o ddigwyddiadau. Mae Cyfnod Glas Caerdydd yn dechrau ac mae llawer mwy yn ei ddilyn. I gael rhagor o wybodaeth am ba ddigwyddiadau a gynhelir, ble a phryd, ewch i CardiffStudents.com. Mae'r wythnosau cyntaf hefyd yn berffaith i ymuno â chymdeithasau. Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr i chwilio am gymdeithasau sydd o ddiddordeb i chi.
Rwyf wedi colli fy allwedd/cerdyn i fy ystafell. Beth ddylwn ei wneud?
Ymdrinnir â cholli allwedd a cherdyn yn wahanol. Ewch at dderbynfa eich llety a rhowch wybod iddynt. Os collir allwedd, y gost am allwedd newydd yw £20 gan gynnwys £10 am gloi eich hun allan. Ar gyfer cerdyn ystafell a gollwyd, y gost yw £10 gan gynnwys £10 am gloi eich hun allan.
Mae pobl yn bod yn swnllyd yn hwyr yn y nos, beth ddylwn i ei wneud?
Os bydd rhywun yn bod yn swnllyd rhwng 11 PM a 7 AM ffoniwch y swyddogion diogelwch bob amser. 02920874444 yw eu rhif. Byddant yn mynd ac yn gofyn i bobl barchu eu cymdogion.
Topics
- Darllen Nesaf
-
Departure Information for Halls of Residence
Perlau Cudd Caerdydd
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
- Poblogaidd
-
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref