Llety
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Mynd o Le i Le
1. Sut dw i'n cyrraedd fy ysgol o fy llety?
Os nad yw adeilad eich darlithoedd o fewn pellter cerdded o'ch ystafell, gallwch bob amser ddewis beicio. Fodd bynnag, os nad ydych yn berchen ar feic, mae hynny'n hollol iawn gan fod NextBike ar gael. Mae'r cwmni hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd er mwyn darparu gwasanaeth rhentu beic am bris rhatach i'w fyfyrwyr. Mae dociau NextBike ar draws Caerdydd ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn agos at breswylfeydd myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth am sut i'w ddefnyddio, cliciwch yma https://www.nextbike.co.uk/en/cardiff/information/

2. Sut alla'i deithio o gwmpas gwahanol rannau o Gaerdydd/Cymru?
Y dull gorau ar gyfer hyn byddai defnyddio bysiau. Mae bysiau lleol yng Nghaerdydd yn codi pobl o lwyth o lefydd ac yn gollwng pobl bobman bron a bod. Drwy lawrlwytho ap Bws Caerdydd bydd gennych fynediad at lwybrau ac amserlenni'r bysiau. Gallwch brynu'r tocynnau gan y gyrrwr bws gan ddefnyddio arian parod neu daliad digyffwrdd.
3. Sut i deithio o gwmpas y DU o Gaerdydd? (Trenau)
Os hoffech gyrraedd unrhyw le yn y DU mor gyflym â phosibl, eich opsiwn gwell byddai trenau, ond bydd yn ddrytach. Er mwyn cael mynediad at y rhan fwyaf o drenau sy'n mynd trwy Gaerdydd, gorsaf drenau Caerdydd Canolog yw'r lle i fynd. Er ei fod yng nghanol y ddinas, sydd yn weddol bell i ffwrdd o'r rhan fwyaf o lety, mae'n cynnwys y rhan fwyaf o lwybrau. Yr ap y byddwn yn ei argymell yw Trainline. Gallwch gynllunio eich taith yno a phrynu eich tocyn. Pan rydych yn prynu tocyn ar-lein, gallwch ei gasglu o un o'r peiriannau yn yr orsaf.

4. Sut i deithio o gwmpas y DU o Gaerdydd? (Bysiau)
Os nad ydych yn meindio cael taith hirach ac mae well gennych arbed arian arnynt, bysiau yw'r dewis yma. Mae cwmnïau megis Megabus, National Express a Snap Bus yn cynnig sawl llwybr yn mynd o Gaerdydd ar brisiau gwych. I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau'r bysiau y mae'r cwmnïau hyn yn eu darparu, ewch i'w gwefannau drwy chwilio amdanynt ar google. Y brif mannau casglu byddai o Undeb y Myfyrwyr a Gorsaf Fysiau Gerddi Sophia Caerdydd.
5. Beth yw'r ffordd gyflymaf o gyrraedd yn ôl i'ch ystafell neu rywle y mae angen i chi fod?
O le bynnag rydych chi'n dod, tacsis yw'r opsiwn cyflymaf o ran trafnidiaeth. Yng Nghaerdydd, mae llawer o gwmnïau tacsi. Y prif rai yw Uber, Ola a Dragon Taxi. Mae Ola Cabs yn wych gan eu bod yn cynnig llawer o fargeinion i ddefnyddwyr newydd.

6. Beth ydw i'n ei wneud os bydd angen i mi fynd adref, ond nid oes arian gen i?
A: Mae gan ein prifysgol gynllun â Dragon Taxi o'r enw Cynllun Tacsi Diogel. Gall myfyrwyr ddefnyddio hwn os nad oes ganddynt arian parod wrth law ond bod angen tacsi arnynt. Y cwbl y bydd angen i chi ei wneud yw ffonio Dragon Taxi ar 02920333333 a dweud enw'r cynllun. Gofynnir i chi gyflwyno eich cerdyn myfyriwr pan fydd eich tacsi'n cyrraedd. Rhoddir derbynneb y tacsi i chi pan fyddwch yn cyrraedd pen eich taith. O fewn y diwrnodau nesaf, ewch i Undeb y Myfyrwyr ac edrych am y Swyddfa Gyllid a gallwch dalu amdano yno.
7. Sut alla'i gael pris gwell os byddaf yn defnyddio bysiau/trenau'n rheolaidd?
A: Os byddwch yn defnyddio bws neu drên yn fwy na'r arfer, dylech gael Cerdyn Bws ar gyfer y bysiau neu Gerdyn Teithio ar gyfer trenau. Bydd hyn yn rhoi prisiau gwell i chi ar y gwasanaethau hyn os byddwch yn nodi hyn wrth brynu'r tocynnau. Cofiwch y byddwch bob amser yn cael pris gwell os byddwch yn prynu eich tocynnau ar-lein. O fy mhrofiad, os byddwch yn agor cyfrif banc gyda Santander, byddwch yn cael cod sy'n rhoi Cerdyn Teithio i chi am ddim os y byddwch yn ei gofrestru o fewn y dau fis gyntaf o gael y cod hwn.

Gallwch ddod o hyd i fwy o awgrymiadau ar gyfer mynd o gwmpas ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Topics
- Darllen Nesaf
-
Departure Information for Halls of Residence
Perlau Cudd Caerdydd
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
- Poblogaidd
-
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref