Llety
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Os byddwch mewn llety myfyrwyr, byddwch yn aros mewn fflatiau/tai a rennir sy'n cynnwys rhannu ceginau a thoiledau (mae hyn yn wahanol ar gyfer ystafelloedd ensuite a stiwdios). Gan fod y cyfleusterau blaenorol yn cael eu rhannu fel arfer â myfyrwyr eraill, rwy'n siŵr bod gennych rai cwestiynau yn barod ynglŷn â'r darlun cyfan. Dyma sawl cwestiwn a ofynnir yn aml, rydym wedi'u hateb ar eich cyfer chi!
1. Pwy sy'n glanhau'r toiledau/cegin yn y tŷ neu'r fflat?
Mae'r tîm glanhau yn galw heibio unwaith yr wythnos i lanhau pob ardal a rennir: ceginau, toiledau a chynteddau. Os ydych yn byw mewn ystafell ensuite neu stiwdio, eich toiled (a/neu'r gegin) yw eich cyfrifoldeb eich hun. Ni fydd y tîm glanhau yn gyfrifol am ei lanhau (eu glanhau).
2. Sut i rannu cegin?
Dylai bod digon o le yn y gegin ar gyfer pob person sy'n aros yn y tŷ/fflat: cwpwrdd bach a mawr a silff yn yr oergell a'r rhewgell. Peidiwch â rhoi eich eiddo mewn mwy na'r nifer o gypyrddau/silffoedd a rannwyd yn gyfartal. Os ydych yn gweld nad yw rhywun yn ei ddefnyddio a bod gennych lawer o eiddo, gallwch ofyn iddynt yn garedig os gallwch gadw eich pethau yno dros dro.

3. Beth yw Oriau Tawel?
Mae hon yn rheol a osodwyd gan Breswylfeydd sydd yn y bôn yn gosod amser lle y disgwylir i fyfyrwyr aros yn dawel. Mae hyn oherwydd y gallai rhai myfyrwyr fod ar leoliadau ac yn gorfod codi'n gynnar neu gall rhywun fod yn ceisio mynd i gysgu. Yr amser i gadw'r sŵn i lawr yw rhwng 11PM a 7AM bob dydd. Ystyriwch eich cymdogion cymaint ag y gallwch chi!
4. Pwy sy'n mynd â'r biniau allan?
Pan fydd y biniau bron yn llawn yn y ceginau a'r toiledau, eich cyfrifoldeb chi yw mynd â nhw allan. Er mwyn ei gwneud hi'n deg i bawb, rydym yn awgrymu eich bod yn llunio rota biniau ac yn ei rannu ymysg eich gilydd. Os nad ydych yn gwneud hynny o fewn y cyfnodau amser a nodwyd gan y preswylfeydd, yna bydd y glanhawyr yn dyrannu myfyrwyr ar hap a chodir tâl ar fflat/tŷ cyfan os na ellir gadw at reolau.

5. Sut i gadw'r gegin yn lân?
Er mwyn cael cegin neis a thaclus, rydym yn argymell eich bod yn glanhau ar eich ôl yn gyson. Os ydych yn coginio ac yn tywallt neu'n gollwng rhywbeth ar ddamwain. Er bydd y tîm glanhau yn gofalu am y gegin, os bydd mewn cyflwr gwael, ni fyddant yn ei glanhau a byddant codi tâl arnoch hefyd. Fel arfer, byddant yn anfon llythyrau rhybuddio ac os bydd y broblem yn parhau yna codir tâl. Fodd bynnag, os bydd yn digwydd eto, codir tâl o £30 ar y fflat/tŷ.
6. Sut i rannu ystafelloedd ymolchi?
Y toiled yw'r cyfleuster a rennir a ddefnyddir mwyaf aml wrth fyw'n gymunedol. Er mwyn cynnal ystafelloedd ymolchi glân a hylan, mae'n rhaid i chi lanhau ar eich ôl. Gadewch nhw'n barod ar gyfer eich cyd-letywyr yn y cyflwr yr hoffech chi eu defnyddio nhw eich hunain. Byddwch yn ymwybodol o faint o amser rydych yn ei dreulio yn y gawod gan efallai y bydd eraill am ei defnyddio hefyd.
7. Os bydd gen i broblem gydag un o'm cyd-letywyr, beth ddylwn i wneud?
Ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich problem gyda rhywun sy'n byw gyda chi, dylech bob amser roi gwybod i rywun wrth dderbynfa eich llety. Byddant yn ceisio ei ddatrys cyn gynted â phosibl a byddant hefyd yn cyfeirio at wasanaethau cymorth os bydd angen. Os yw'r mater yn effeithio arnoch chi neu les eich cyd-letywyr, gallwch hefyd gysylltu â Cyswllt Myfyrwyr am gymorth.
8. A yw'n iawn i ddefnyddio eiddo pobl eraill?
Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gadael eu hoffer coginio, platiau, bwyd ac ati yn y gegin, peidiwch â'u defnyddio. Os ydych chi a'ch cyd-letywyr wedi cytuno i ddefnyddio eiddo eich gilydd, mae hynny'n wych! Fodd bynnag, os gwnaeth rhywun grybwyll i chi beidio â defnyddio eu heitemau, peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn dal dig yn eich erbyn. Maen well ganddynt beidio â rhannu'r hyn y maent yn berchen arnynt am lawer o resymau.

Topics
- Darllen Nesaf
-
Departure Information for Halls of Residence
Perlau Cudd Caerdydd
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
- Poblogaidd
-
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref