Llety
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd
Mae eich cynorthwywyr yng Nghampws y Gogledd yn byw yn yr un neuaddau preswyl â chi a byddent yn cynnal nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Dewch i adnabod eich cynorthwywyr isod!
Enw: Fatima
Lle geni: Manceinion, DU
Cwrs: Peirianneg Sifil
Blwyddyn: Trydydd flwyddyn
Hobïau: Heicio, gwnïo, garddio, celf.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Amyneddgar, optimistaidd, cyfeillgar.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Croeso i Gampws y Gogledd! Mae’n bosib fod byw mewn neuaddau preswyl yn syniad brawychus i gychwyn gyda, felly rydyn ni yma i helpu, ble a phryd bynnag mae angen cymorth arnoch. Rwy’n gobeithio bod y neuadd yn dyfod mwy nag ond ystafell, ond yn rhywle y gallech alw’n gartref.
Enw: Pola
Lle geni: Warsaw, Gwlad Pwyl
Cwrs: Seicoleg
Blwyddyn: Trydydd flwyddyn
Hobïau: Dringo creigiau, gemau bwrdd, darllen llyfrau, seiclo, chwarae gitar, brodio, Disney, gwastraffu amser ar cyfryngau cymdeithasol.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Pinafal ar bitsa.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Gwnewch y mwyaf o’r amser sydd gennych yma ond peidiwch a gorfodi’ch hunain i wneud y pethau rydych yn “credu y dylai pob myfyriwr eu gwneud”. Os oes well gennych chwarae gemau bwrdd gyda ffrindiau na mynd mas a phartio – ewch amdani! Ond os ydych yn bwriadu chwarae gemau bwrdd, anfonwch wahoddiad i mi (plîs, dw i’n unig)?
Enw: Njeri
Lle geni: Nairobi, Kenya
Cwrs: Peirianneg Sifil
Blwyddyn: Ail flwyddyn
Hobïau: Darllen a choginio.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Dewr, hapus, penderfynnol.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Shwmae! Croeso i Gampws y Gogledd! Dw i’n awyddus cwrdd â chi! Mae hyn yn lle ardderchog ac rwy’n gobeithio byddech yn cael profiad hyfryd yma.
Enw: Shafia
Lle geni: Leicester, DU
Cwrs: Pensaernïaeth
Blwyddyn: Ail flwyddyn
Hobïau: Darllen, celf, plannu.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Digymell, anturiaethus, creadigol.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Rwy’n gobeithio y byddech yn creu atgofion melus a ffrindiau am oes yn ystod eich amser yma. Rydw i wastad yn barod i wrando a helpu, peidiwch ofni gysylltu ☺
Enw: Matilde
Lle geni: Amora, Portiwgal
Cwrs: Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth
Blwyddyn: Ail flwyddyn
Hobïau: Darllen, yoga a gwylio YouTube.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Addasadwy, blaenweithgar, optimistaidd.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Rwy’n gobeithio eich bod yn gwybod ein bod ni yma i’ch helpu yn ystod y cyfnod ansicr hon. Mae eich lles a diogelwch yn flaenoriaeth i ni, felly ceisiwch aros yn ddiogel a mwynhewch y flwyddyn! ☺
Enw: Adelina
Lle geni: Galati, Rwmania
Cwrs: PhD Seicoleg
Blwyddyn: Ail flwyddyn
Hobïau: Ffotograffiaeth, coginio, darllen, teithio.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Cyfeillgar, dibynnadwy, datryswr problemau.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Mae bywyd prifysgol gallu fod yn sialens ac yn hwyl. Naill ffordd, byddech chi’n llwyddianus.
Enw: Ona
Lle geni: Gogledd Carolina, UDA
Cwrs: Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Blwyddyn: Trydydd flwyddyn
Hobïau: Darllen, volleyball.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Ymatebol, cyfeillgar, creadigol.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Helo! Croeso i Brifysgol Caerdydd, rwy’n awyddus i gwrdd â chi! Bydd hyn yn flwyddyn ddiddorol iawn ond rydyn ni yma i’ch cefnogi i lwyddo. Dewch i rai o’n digwyddiadau i ddod i adnabod y tîm!
Enw: Giorgia
Lle geni: Croydon, DU
Cwrs: Eidaleg a Japaneaidd
Blwyddyn: Ail flwyddyn
Hobïau: Gemau fideo, anime.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Wedi ymlacio, nosluniol, cogydd ofnadwy.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Rwy’n edrych ymlaen i gwrdd â phawb!
Enw: Thanousha (Tasha)
Lle geni: Kingston upon Thames, DU
Cwrs: Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg
Blwyddyn: Ail flwyddyn
Hobïau: Canu’r piano, yfed tê, pobi.
Describe yourself in three words: Trugarog, blaenweithgar, deinamig.
Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Rwy’n gobeithio y gewch chi flwyddyn gwych! Mwynhewch y cyfnod a chofiwch gofalu am eich hunain 😊
Topics
- Darllen Nesaf
-
Fy Mhrofiad De Tal-y-bont
Beth i'w pacio ar gyfer Prifysgol
Canllaw glanhau: Preswylfeydd
Archwilio siopau coffi Caerdydd
5 asgwrn gên yn gollwng heiciau o amgylch De Cymru
Llefydd diddorol i gerdded yng Nghaerdydd a'r cyffiniau
Achub ar deithio: I, o ac yng Nghaerdydd
Sut i arbed ar eich siop archfarchnad
Bywyd mewn neuaddau yn ôl-raddedig
Amgueddfeydd a chestyll yng Nghaerdydd
- Poblogaidd
-
Byw cymunedol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd
Mynd o Le i Le
Syniadau ar gyfer addurno eich ystafell
Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright