Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com

Sylwch: mae'r lluniau yma wedi eu gymerid cyn covid a pellter cymdeithasol.

Cymraeg
a plate of food on a table

Ffordd o fyw

Figaniaid ar gyllideb

By ResLife 20 Sep 2020

Mae bod ar gyllideb yn arferol i chi, fyfyrwyr. Mae’n stereoteip dweud bod llysiau’n ddrud a bod angen i chi fwyta llawer ohonynt nes eich bod yn llawn. Yn gyntaf, i beidio â gwario gormod, mae angen i chi siopa mewn llefydd fel Lidl neu Aldi. Dyma rai ryseitiau figan a fydd yn costio llai na £5. 

1. Bolognese sbageti figan

a plate of food on a table

Pwy sydd ddim yn hoffi sbageti? Yn draddodiadol, defnyddir cig eidion mân i wneud Bolognese. I gael fersiwn i figaniaid, gallwch ddefnyddio pecyn o lysiau cymysg wedi’i rhewi neu gig mân soia (oddeutu £2). Mae’r sbageti’n costio tua 20c, a gallwch gael jar o saws pasta am 75c. Mae hyn yn gwneud tua gwerth 4 diwrnod o fwyd.

2. Fajitas ffa cymysg

Cooked Food On Blue Plate

Mae ffa yn cynnwys llawer o brotein, ac mae eu bwyta mewn prydau bwyd figanaidd bron yn hanfodol er mwyn cael digon o brotein a chadw’n iach. Mae tin o ffa cymysg tua 70c, ac mae pecyn o rotillas oddeutu £1. Gallwch brynu pecyn o gymysgedd blas fajita sy’n llai na £1. Eich dewis chi fydd ychwanegu unrhyw beth arall. Gallwch ychwanegu pupurau, winwns, leim a jalapenos hyd yn oed. 

3. Cyri tatws melys gyda sbigoglys a chorbys

Cooked Rice and Curry Food Served on White Plate

Ar gyfer y rysáit hon, winwns, tatws melys, sbigoglys a thin o gorbys fydd eich cynhwysion sylfaenol. Edrychwch am becyn o gymysgedd sbeisys oherwydd bydd yn cynnwys yr hyn sydd ei angen arnoch ac yn rhatach o lawer na phrynu pob math o sbeisys ar wahân – y byddech yn ei ddefnyddio ar gyfer un rysáit yn unig.

4. Tsili figanaidd

Meat Dish

Tin o ffa cymysg a passata tomato (saws) yw eich cynhwysion sylfaenol ar gyfer y rysáit hon. Gallwch ychwanegu unrhyw sbeisys yr hoffech: jalapenos neu foron. Gallwch hyd yn oed ychwanegu cig mân soia i ychwanegu mwy o brotein ato.

Pynciau Poblogaidd in Ffordd o fyw