Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com

Sylwch: mae'r lluniau yma wedi eu gymerid cyn covid a pellter cymdeithasol.

Cymraeg
Cardiff bay

Llety

Perlau Cudd Caerdydd

By KristinaRLC 01 Jun 2021

Mae Caerdydd yn ddinas llawn atyniadau cudd gwych, ond efallai na fydd twristiaid yn ymweld â llawer ohonynt oherwydd eu pellter o ganol y ddinas. Er y gallant fod ymhell o brif atyniadau twristaidd y ddinas, nid yw hyn yn golygu eu bod llai o bwys na Chastell Caerdydd â’i waith brics Rhufeinig, er enghraifft.

Mae Caerdydd heddiw yn enwog fel prifddinas drawiadol Cymru. Mae’n ddinas sydd â sawl arcêd, castell mawr yn y canol a chanolfan siopa ffansi. Mae’r farchnad Fictoraidd yn enwog iawn, hefyd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i Gaerdydd na'r castell, Heol y Frenhines a Bae Caerdydd. 

Yma, byddaf yn rhestru 10 atyniad yng Nghaerdydd a'r cyffiniau a fyddai'n apelio at bobl o bob oedran.

1.  Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan 

Fel arfer, mae amgueddfeydd yn adeiladau dan do sy'n dangos arteffactau hanesyddol gwych o wahanol oesoedd. Fodd bynnag, mae arddangosfa Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn ymestyn i’r awyr agored, hefyd. Ym mharc yr amgueddfa mae cynifer â 40 o adeiladau unigryw sy’n rhychwantu 6,000 o flynyddoedd o gyfnodau gwahanol o hanes pensaernïol a ffyrdd o fyw yng Nghymru. Mae'r amgueddfa'n eich gwahodd i fynd i mewn i wahanol adeiladau er mwyn gweld crefft law a ffordd o fyw pentrefwyr Celtaidd, ymsefydlwyr Llychlynnaidd a gwerinwyr Cymreig canoloesol, i enwi ond ychydig. Nid yw'n syndod, felly, y cafodd ei dewis hefyd fel yr amgueddfa orau yn y DU yn 2019.

2. Castell Sain Ffagan 

Mae tir yr amgueddfa a nodir uchod y tu mewn i furiau Castell Sain Ffagan. Mae'r castell yn cael ei weinyddu gan blasty mawr o'r 16eg ganrif sydd â muriau castell uchel o’i gwmpas ac arfwisgoedd trwm o’r cyfnod y tu mewn iddo. Mae'n un o’r adeiladau gorau o oes Elisabeth yn y DU, ac mae ei gerddi hardd yn ychwanegu at ei geinder diddiwedd.

3. Ynys Echni 

Tua 6km oddi ar arfordiroedd Caerdydd mae ynys fach o’r enw Ynys Echni. Mae gan yr ynys hanes cyfoethog iawn o ystyried ei maint. Mae wedi llochesu sawl gwareiddiad gwahanol, ac rydym wedi dod o hyd i dystiolaeth artiffisial o’r oes efydd ymlaen. Roedd disgyblion Sant Cadoc yn ymwelwyr rheolaidd â’r ynys hefyd yn ystod y 5ed ganrif AD. Dechreuodd ei hanes diweddar ers i'r 1700au ag adeiladu’r goleudy. Arweiniodd hynny at gyfnod newydd o adeiladu ar yr ynys. Yn y 1800au, cafodd llawer o amddiffynfeydd milwrol eu hadeiladu ar yr ynys oherwydd ei lleoliad strategol ym Môr Hafren, gan gynnwys llwyfannau magnel er mwyn amddiffyn y môr. Cafodd Cenhadaeth Môr Hafren ei chreu bryd hynny, hefyd. Ar ôl i amddiffynfeydd Palmerston gael eu hadeiladu, cafodd ysbyty heintiau ei adeiladu yn y 1890au, a ofalodd am gleifion â cholera o borthladd Caerdydd.

4. Dyffryn 

Ychydig i'r gogledd o bentref Dyffryn, sydd i'r gorllewin o Gaerdydd, mae dwy siambr gladdu hynafol sy’n dyddio’n ôl i gyfnod mor bell â 6000 BC. Mae i siambrau Llwyneliddon a Tinkinswood nodweddion tebyg a hen iawn, a chawsant eu cynllunio mewn ffordd debyg i’r tirnod enwog, Côr y Cewri. Mae siambr gladdu Tinkinswood yn pwyso 40 tunnell i gyd. Mae’n digwydd bod y maen capan mwyaf ledled Ewrop, hefyd. Fodd bynnag, mae’r ddwy siambr gladdu ar ochrau gwahanol i Dŷ Dyffryn a’i gerddi botanegol cain a mawreddog mewn arddull Tsieineaidd ac arddulliau dwyreiniol eraill. Mae'r caeau, sy’n llawn ffowntenni, hefyd mewn arddull Tsieineaidd, ac mae’r gerddi’n cynnwys cerfluniau o dduwiau Japaneaidd a duwiau sawl diwylliant arall. Mae’r tŷ, a adeiladwyd ym 1595, yn cael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’n cael ei ystyried yn drysor Prydeinig cenedlaethol.



5. Castell Coch 

Ac yntau wedi’i adeiladu gyntaf gan y Normaniaid dros fil o flynyddoedd yn ôl, mae Castell Coch i’w weld yn uchel uwchben pentref Tongwynlais yn edrych dros Afon Taf a Chaerdydd o fryniau Fforest Fawr. Cafodd y castell Normanaidd ei ddinistrio’n wreiddiol ym 1314 yn ystod y gwrthryfel yng Nghymru a’i ailadeiladu’n ddiweddarach ym 1848 gan drydydd Iarll Bute, John Stuart, drwy ddefnyddio olion a chynlluniau canoloesol gwreiddiol y castell. Erbyn hyn, mae'r castell wrth fynedfa llwybr Fforest Fawr, lle gallwch weld canol dinas Caerdydd yn y pellter yn codi o gwm Afon Taf. Bydd ffotograffwyr wrth eu boddau’n tynnu lluniau o’r olygfa banoramig hardd a’r castell hwn.

6. Canolfan Sgïo ac Eirafyrddio Caerdydd 

Heb fod ymhell o ganol dinas Caerdydd mae byd arall wedi’i orchuddio ag eira. Yng Nghanolfan Sgïo ac Eirafyrddio Caerdydd mae llwybr perffaith ar gyfer sgïo ac eirafyrddio i’r rhai sy’n dysgu’r sgiliau hanfodol er mwyn dechrau arni a’r rhai mwy profiadol er mwyn mwynhau eu hunain. Mae amrywiaeth o offer a dillad amddiffynnol yn aros amdanoch. Pam fynd i’r Alpau pan allwch sgïo, eirafyrddio neu diwbio (yn yr haf) yn ninas Caerdydd? Mae'r prisiau'n eithaf rhad, oni bai eich bod yn cael gwersi preifat.

7. Fforest Fawr 

Mae coetiroedd Fforest Fawr yn ymestyn dros sawl bryn a chamlas fach wrth ymyl Afon Taf, ychydig i'r gogledd o Gaerdydd. Mae llwybr y goedwig yn dechrau o bentref Tongwynlais o dan y bryn. Mae’n mynd i fyny drwy Gastell Coch ac yn codi’n gyson, ac mae’r golygfeydd o Gaerdydd oddi uchod yn hardd iawn. Ar hyd y llwybr llawn cerfluniau mae’r agoriad i ogofâu’r tri arth. Mae'r coetiroedd yn lle gwych ar gyfer beicio mynydd neu fynd am dro gyda’r teulu tuag at Ffynnon Taf ar ddiwedd y llwybr i'r gogledd o'r castell.

8. Castell Rhiw'r Perrai 

Ac yntau ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd gerllaw coedwig Coed Craig Ruperra, mae’r castell â phedair ochr dyrog a adeiladwyd ym 1626 yn enwog am fod yn llety i Frenin Siarl y Cyntaf ar ôl Brwydr Naseby, a hynny 20 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu fel ffug gastell. Mae’n cael ei alw’n ffug gastell gan ei fod wedi’i adeiladu fel preswylfa yn lle amddiffynfa filwrol ganoloesol. Er iddo ddioddef sawl tân a chael ei ailadeiladu yn y 18fed a’r 19eg ganrif, cafodd y castell ar ei ffurf bresennol ei ddinistrio unwaith eto gan dân, a hynny tra bod byddin Prydain yn ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

9. Parc Fferm Walnut Tree

Os mai cysylltu â natur, mwynhau ychydig o adloniant, cael picnic a bwydo'r bywyd gwyllt tra byddwch wrthi yw eich dewis ffordd o fwynhau eich diwrnod, dylech wneud eich ffordd i’r tir ffermio arfordirol deheuol hanner ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, lle mae Parc Fferm Walnut Tree yn aros amdanoch. Mae'n lle perffaith ar gyfer diwrnod gyda’r teulu, lle gallwch fynd am dro ochr yn ochr â gwahanol fathau o anifeiliaid, yn ogystal â gofalu am yr anifeiliaid hynny. O lamas i asynnod, ac o draciau go cart i reidiau ceffyl ger y stablau, ni fydd parc y fferm yn siomi hyd yn oed yr unigolyn mwyaf anturus yn eich plith. Hefyd, mae ymwelwyr yn aml yn mynd ar deithiau cerdded gwledig i’r llynnoedd pysgota er mwyn pysgota a chael picnic wrth y marchgaeau, lle mae’r anifeiliaid yn crwydro’n rhydd ar dir sy’n ymestyn dros 80 erw.

10. Ynys y Barri 

A hithau ar yr arfordir ger y Barri, mae Ynys y Barri’n enwog am ei thraethau hardd fel Bae Jackson. Mae’r traeth mwy eiconig, Bae Whitmore, yn enwog am fod yn gartref i ffair Ynys y Barri, sydd â mwy na 30 o reidiau gwahanol fel y cafn boncyffion. O amgylch y ffair, sydd gyferbyn â gorsaf drenau Ynys y Barri, mae llawer o arcedau, siopau a bwytai. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i gyrraedd Ynys y Barri ac olion Castell y Barri ar y trên o orsaf drenau Caerdydd Canolog, ac mae’r tocynnau’n rhad. Mae hefyd yn daith gerdded fer o’r clogwyni creigiog ger Bae Whitmore.







Topics

blog, Caerdydd, Cymru,