By
Lauren RLC
Posted 7 months ago
Sat 04 May, 2024 12:05 PM
Oes gennych chi unrhyw eitemau di-angen yr hoffech chi eu rhoi i elusen?
Mae Prifysgol Caerdydd wedi partneru â’r British Heart Foundation (www.bhf.org.uk) fel rhan o'u hymgyrch ‘Pack for Good’ mewn prifysgolion. Byddan nhw’n derbyn dillad ac eitemau di-angen drwy gweddill y flwyddyn academaidd a'r cyfnod symud allan.
Bydd blychau rhoddion a mannau casglu ar gael ledled eich neuadd breswyl; bydd posteri gwybodaeth yn cael eu harddangos yn fuan yn eich llety a'ch mannau cymunedol i nodi eich man rhoi agosaf, a gallwch chi hefyd ofyn i’ch tîm Preswylfeydd.
Os oes gennych chi unrhyw o’r eitemau isod yr hoffech chi eu rhoi, bydden ni’n ddiolchgar o’u derbyn:
- Dillad/siacedi
- Ategolion
- Esgidiau
- Llyfrau
- Pethau trydanol bach (sy’n gweithio)
Does dim modd i ni dderbyn yr eitemau isod am resymau diogelwch a hylendid:
- Duvets/Gobenyddion
- Pethau sy’n fudr neu wedi torri
- Bwyd
- Cyllyll
Os oes gennych chi unrhyw eitemau eraill sydd heb eu rhestru, neu sy'n rhy fawr i'r mannau casglu, cysylltwch â'ch tîm Preswylfeydd am ragor o wybodaeth.
Ar ran yr elusen BHF diolch i chi am eich cefnogaeth!