10 awgrym i’ch helpu i ofalu am eich lles

Posted 7 months ago

Ystod gwyliau’r haf!

(Profiad personol yw'r holl wybodaeth yn yr erthygl hon ac ni ddylid ei thrin yn gyngor proffesiynol.) Mae gan dîm Bywyd Myfyrwyr ystod o adnoddau ar y pwnc hwn i chi Adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yw’r rhain ac ynddyn nhw mae awgrymiadau gan ymarferwyr sydd â myfyrwyr mewn golwg. Cewch ragor o wybodaeth yma.)

Gan fod y tywydd yn mynd yn llai tywyll o dipyn i beth ac mae aseiniadau ac arholiadau diwedd y flwyddyn yn prysur agosáu, bydd llawer ohonon ni’n dechrau breuddwydio am yr hyn y byddwn ni’n ei wneud unwaith y bydd yr haf ar ei anterth. P'un a fyddwch chi'n treulio amser yn dal i fyny gyda theulu a ffrindiau, yn teithio, yn gweithio, a/neu bopeth arall sydd i’w wneud, mae'n bwysig o hyd eich bod yn gofalu amdanoch chi eich hun.

Er mai cyfnod o ryddid, ymlacio a chyfleoedd newydd yw gwyliau’r haf, heb arferion rheolaidd y brifysgol, weithiau byddwn ni’n dechrau teimlo ychydig yn ansicr a’n bod wedi ein llethu. Yr hyn sy'n bwysig yw caniatáu’r amser i brosesu'r flwyddyn sydd newydd fynd heibio, a hynny er mwyn gorffwys ac adfer yn sgil gorludded academaidd tra eich bod â’ch traed ar y ddaear o hyd ac yn cadw ychydig o strwythur er mwyn peidio â chael eich gorlethu mewn ffyrdd eraill.

Ac felly, dyma rai awgrymiadau ynghylch sut i wneud hynny! Gofalu am eich lles yr haf hwn, bod yn garedig wrthoch chi eich hun, a mwynhau’r gwyliau rydych chi’n eu haeddu! Er bod yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol drwy gydol y flwyddyn, hwyrach eu bod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod y cyfnod hir hwn o wyliau, oherwydd fel arall mae’n bosibl y byddwn ni’n dechrau teimlo ychydig yn ddigyfeiriad. Bydd pobl yn cael pob math gwahanol o wyliau’r haf, felly ni waeth beth yw eich amgylchiadau, rwy’n gobeithio y bydd o leiaf un peth yn ddefnyddiol ar y rhestr hon!

1. Dal ati i gadw eich arferion

Mae creu arferion iach sy’n helpu’r meddwl a'r corff yn rhoi rhywbeth ichi ymfalchïo ynddo’n gyson heb yr angen i ddibynnu ar gael eich dilysu’n academaidd. Pan fyddwch chi’n mynd i rywle gwahanol, yn enwedig os byddwch chi’n mynd yn ôl i rywle cyfarwydd, gartref er enghraifft, peth rhwydd iawn yw ailgydio yn yr hen arferion. Os ydych chi o’r farn eich bod wedi magu arferion newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol sy'n fwy effeithiol, ceisiwch eu defnyddio gartref dros yr haf! Er mai cael digon o gwsg, symud bob dydd, yfed digon o ddŵr a bwyta deiet cytbwys yw sylfeini lles, y pethau lleiaf sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn ein diwrnod, megis gwneud eich gwely, brwsio eich dannedd neu ymestyn y corff pan fyddwch chi'n codi!

2. Cadwch mewn cysylltiad â'ch anwyliaid

Heb gyfrifoldebau bywyd prifysgol, mae'n well gan rai ohonon ni fod yn fwy cymdeithasol, a rhai ohonon ni’n llai felly. Os ydych chi’n fwy allblyg, ceisiwch orffwys rywfaint o’r amser hefyd. Os ydych chi’n llai allblyg, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymdeithasu â phobl eraill o hyd yn ystod yr adegau pan fyddwch chi'n blaenoriaethu amser i chi eich hun - hyd yn oed os mai dim ond 15 munud yw hi! Ar wahân i ddal i fyny a threulio amser gyda'r bobl rydyn ni heb gael llawer o gyfle i'w gweld drwy gydol y flwyddyn academaidd, mae hefyd yn bwysig cadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau prifysgol pan fyddwch chi’n dychwelyd adref fel nad ydych chi’n teimlo'n ynysig pan fyddwch chi’n dychwelyd yn yr hydref (os na fyddwch chi’n eu gweld dros yr haf, hynny yw). Er y bydd yn anodd weithiau os na allwch chi weld eich gilydd wyneb yn wyneb, mae siarad ar hyd y fideo’n rheolaidd yn opsiwn da, ac os ydych chi eisiau gwthio’r cwch i’r dŵr go iawn, beth am ysgrifennu llythyr atyn nhw!

3. Trefnwch rywbeth i edrych ymlaen ato

Hwyrach mai rhywbeth bach bob dydd fydd hyn a/neu rywbeth ychydig yn fwy ond yn llai aml! Mae cael ychydig o gyffro yn hynod o bwysig i’n lles, felly p’un a ydych chi’n gwneud hyn yn rhan o’ch trefn arferol ac yn cael rhywbeth bach melys ar ôl cinio bob dydd a bath i ymlacio bob wythnos, neu os ydych chi’n cynllunio taith hir ac unigryw yn ystod yr haf, hwyrach y bydd hyn yn eich helpu’n fawr i astudio!

4. Ceisiwch roi cynnig ar bethau newydd yn aml

Fel y soniais i, mae cael rhywfaint o gyffro yn hynod o bwysig i'n lles. Dyma ffordd arall o wneud hynny pan fyddwch chi wedi diflasu rywfaint neu'n ddiegni, fel sy’n digwydd weithiau os na fydd strwythur bywyd prifysgol yno i'n cadw ar flaenau ein traed! Ar wahân i bethau enfawr fel awyrblymio, mynydda, teithio i le newydd, ac ati..., gallech chi wneud rhywbeth llawer llai fel rhoi cynnig ar fyrbryd newydd, dilyn llwybr gwahanol i'r gwaith neu wrth fynd â'r ci am dro, neu hyd yn oed dechrau llyfr neu sioe deledu newydd. Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd, mae unrhyw beth yn cyfrif, ac yn aml byddwn ni’n gwneud hyn yn anfwriadol beth bynnag, felly man a man inni wneud yr ymdrech i'w droi’n weithgaredd rheolaidd, neu hyd yn oed bob dydd!

5. Gwnewch o leiaf un peth caredig dros rywun bob dydd, neu ei ddweud wrtho.

Er bod bod yn glên wrth bobl eraill yn digwydd yn bennaf gan ein bod ni eisiau helpu i wella eu bywydau, fel y trafodwyd yn y bennod enwog honno o Friends (pan maen nhw’n trafod a yw gweithredoedd da ac anhunanol yn bodoli), mae’n bosibl hefyd bod gweld yr effaith gadarnhaol rydyn ni wedi’i chael ar rywun yn gallu ein helpu i deimlo ein bod wedi cyflawni rhywbeth. Felly helpwch ffrind i goginio swper, dywedwch rywbeth clên wrth y dyn neu’r fenyw yn y siop pan fyddwch chi’n talu am eich bwyd, neu prynwch ei hoff siocled i'ch ffrind ar eich ffordd draw i'w gweld, a hynny heb ddisgwyl rhywbeth yn gyfnewid, ac rwy'n gwarantu y byddwch chi'n teimlo'n dda amdanoch chi eich hun!

6. Mwynhewch rywfaint o amser yn yr awyr agored

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cael o leiaf 15 munud y dydd yn yr awyr agored i wella eich lles corfforol a meddyliol, ond mae hefyd yn hwyl, yn enwedig yn yr haf! P’un a fyddwch chi’n mynd am dro ar eich pen eich hun a gwrando ar y synau o’ch cwmpas, yn mwynhau bod gyda’ch anwyliaid yn yr ardd neu’n eistedd ar fainc yn y parc yn gwylio pobl yn mynd a dod, mae bod yng nghanol byd natur yn ffordd wirioneddol ardderchog i ymlacio pan fyddwch chi ddim yn gallu cael gwared â’r meddyliau sydd wedi bod yn chwyrlïo o amgylch eich pen.

7. Mynnwch osgoi technoleg am hyn a hyn o amser

Weithiau, bydd yr amser a dreuliwn o flaen sgrin yn mynd yn ddwys iawn yn sgil yr holl gyfrifoldebau academaidd gwahanol drwy gydol y flwyddyn, felly (oni bai eich bod ei angen at ddibenion ymrwymiadau eraill), ceisiwch osgoi technoleg cymaint â phosib! Yn lle hynny, defnyddiwch ryddid yr haf i orffwys, ymlacio, mwynhau'r tywydd hyfryd (gobeithio), neu i wneud rhai o'r pethau eraill ar y rhestr hon!

8. Gosodwch nod i chi eich hun cyn mynd yn ôl i'r brifysgol

Fel yn achos pob dim, hwyrach mai rhywbeth bach neu fawr fydd hyn, ond ni waeth beth fyddwch chi'n ei ddewis, bydd y bwriad a’r ymdrech i weithio tuag at y nod hwn yn peri ichi deimlo'n wirioneddol falch ohonoch chi eich hun. Boed yn ddysgu coginio pryd o fwyd newydd, cyrraedd y lefel nesaf o ran dysgu iaith yn Duolingo, neu redeg marathon, mae'r cyfan yn cyfrif! Fel y soniais i, bydd pobl yn cael pob math gwahanol o wyliau’r haf, felly bydd gosod nod sy’n hylaw (ac, yn bwysicaf oll, yn bleserus) ac yn gweddu i’ch ffordd o fyw yn eich helpu i deimlo’n fodlon eich byd!

9. Dywedwch diolch wrth bobl yn rheolaidd

Does dim rhaid ichi ysgrifennu hyd yn oed os nad yw hynny'n teimlo'n iawn ichi! Y cwbl sydd ei angen yw meddwl am 3 pheth o leiaf (hwyrach mai pethau mawr neu fach fydd y pethau hyn neu’n bethau bersonol neu rywbeth ehangach), rydych chi'n ddiolchgar amdanyn nhw pan fyddwch chi'n deffro yn y bore a/neu'n clwydo gyda’r nos (neu drwy gydol y dydd os ydych chi'n teimlo eich bod eisiau gwneud hynny!), ac rwy'n gwarantu y byddwch chi'n teimlo'n fwy positif ac yn llawn bywyd!

10. Os bydd popeth arall yn methu, gwnewch unrhyw bethsy’n gynhyrchiol

Prif nod yr ymarfer hwn yw eich bod yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth bach bob dydd, felly yn bendant does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth enfawr! Efallai mai rhywbeth eithaf beunyddiol a dibwys fydd hyn fel golchi’r llestri, golchi’r dillad neu gael gwared ar y sbwriel, cyn belled â'i fod yn rhywbeth y gallwch chi ei dynnu oddi ar y rhestr o’r pethau i'w gwneud, a bydd hyn yn cael gwared â rhywfaint o’r straen ac felly'n creu mwy o le ichi feddwl am y pethau sy'n bwysig ichi go iawn! Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn nad ydych chi'n mynd i ryw berorasiwn niweidiol am fod yn gynhyrchiol gan fod angen cryn dipyn o orffwys ar bawb, p'un a yw hi'n haf neu beidio. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gosod terfyn ar yr amser sydd i fod yn 'gynhyrchiol' os yw'r cyfan yn mynd yn drech na chi!

Yn bwysicaf oll, gwrandewch ar yr hyn y mae eich meddwl a'ch corff yn ei ddweud wrthoch chi! Fel dw i wedi’i ddweud sawl gwaith, gallwch chi wneud mwy neu lai o unrhyw un o'r pethau hyn gan ddibynnu ar eich anghenion a'ch teimladau eich hun, felly peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar bethau gwahanol i weld a yw'n gweithio i chi. Yn y pen draw, peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi eich hun i wneud unrhyw beth sy ddim yn gweithio o gwbl! Fel yn achos pob dim, yr hyn sy’n bwysig yw cael y cydbwysedd iawn!

Pob hwyl ar eich arholiadau a’ch aseiniadau, a gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r haf ac yn gallu ymlacio rywfaint!

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ofalu am eich lles eich hun, ewch i Fewnrwyd y Myfyrwyri gael gafael ar gyfoeth o adnoddau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol. Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, ebostiwch studentconnect@caerdydd.ac.uk a bydd y tîm yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth sy’n addas i chi.