Pethau i'w cofio mewn neuaddau

Posted 3 years ago

Fy nghyngor

I lawer o fyfyrwyr, byw mewn neuadd yw’r tro cyntaf iddynt fyw oddi cartref a rhannu mannau gyda phobl eraill yr un oedran â nhw. Isod ceir rhai awgrymiadau ac argymhellion o bethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi wrth fyw mewn neuaddau. Gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i chi; hoffwn pe bawn i wedi dysgu rhai ohonynt o'r dechrau! 

Rhannu cegin 

Cofiwch wneud y canlynol: 

  • Sicrhau bod gennych gwpwrdd cyffredin. Bydd hyn yn gwneud i’ch fflat deimlo’n fwy cartrefol (mae rhannu’n bwysig) ac yn helpu i arbed arian ar yr hanfodion megis blawd, reis, olew a sbeisys. Gallwch brynu llwyth ohonynt gyda’i gilydd a rhannu’r costau. 
  • Cadw amserlen lanhau/gwagio biniau. Er bod y gwaith o ddyrannu tasgau weithiau'n digwydd yn ddidrafferth, mae'n debygol y bydd cael strwythur dyletswyddau yn helpu i sicrhau bod tasgau'n cael eu gwneud yn rheolaidd ac yn helpu i osgoi drwgdeimlad yn hwyrach. 
  • Darllen ein herthygl ‘sut i rannu cegin’

Peidiwch â gwneud y canlynol: 

  • Tybio bod bwyd heb ei labelu ar gael i chi ei ddefnyddio.  Os yw rhywbeth yn edrych fel pe bai allan o le neu nad yw'n perthyn i unrhyw un yn y fflat, mae bob amser yn well gofyn yn gyntaf cyn ei ddefnyddio. Gall hyn helpu i osgoi gwrthdaro yn hwyrach ac mae hefyd yn golygu os byddwch yn gadael eich bwyd eich hun allan y bydd pobl yn gwybod i ofyn yn gyntaf. 
  • Casglu mygiau/platiau/cyllyll a ffyrc yn eich ystafell. Mae pob un ohonom wedi’i wneud: mae un cwpanaid o goffi ar eich desg yn troi’n bum plât dros nos. Fodd bynnag, yn enwedig os ydych chi a'ch cyd-letywyr yn rhannu eitemau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â nhw yn ôl i'r gegin yn rheolaidd ac yn glanhau'r pethau roeddech chi'n eu defnyddio. Bydd hefyd yn gwneud mwy o le ar eich desg. 
a group of people sitting at a table

Rhannu ystafell ymolchi 

Cofiwch wneud y canlynol: 

  • Trefnu rota glanhau. Mae’r rhesymeg yr un peth ag uchod. Ar wahân i hyn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael yr ystafell ymolchi yn lân ar eich ôl i'r person nesaf ei ddefnyddio. 
  • Prynu diaroglydd. Credwch chi fi, bydd hyn yn achub bywydau. 

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Gadael poteli gwag o bethau ymolchi o gwmpas. Gwnewch yn siŵr eich bod yn taflu poteli gwag a phapur tŷ bach sydd wedi dod i ben, neu gall achosi annibendod.  
  • Defnyddio pethau ymolchi/eitemau eich cyd-letywyr. Wrth gwrs, oni bai eich bod wedi trafod hyn ymlaen llaw a’u bod nhw wedi cytuno. 
a close up of a sink

Eich ystafell 

Cofiwch wneud y canlynol: 

  • Agor eich ffenestr yn rheolaidd. Mae awyr iach yn gwneud byd o wahaniaeth, felly gwneud yn siŵr eich bod yn awyru eich ystafell yn aml. 
  • Glanhau’n aml. Dylid glanhau’r llwch a/neu ddiheintio eich desg, bwrdd ger y gwely, droriau ac unrhyw arwynebau eraill yn rheolaidd, yn enwedig mannau lle mae pobl yn eu cyffwrdd yn aml megis dolenni a switshis golau. Cofiwch hefyd hwfro eich ystafell yn rheolaidd. 
  • Caw basged/bag o ddillad brwnt. Trwy gael rhywle ar wahân i’ch dillad brwnt (na, nid ar y gadair), gall eich helpu chi i gadw golwg ar a oes angen i chi olchi dillad, ac mae hefyd yn sicrhau nad yw dillad glân yn cael eu cymysgu â rhai budr. Nid oes angen i chi gael basged golchi dillad o reidrwydd – bydd unrhyw fag mawr cadarn yn gwneud y tro. 
  • Golchi eich tywelion a dillad gwely o leiaf unwaith bob pythefnos. Gall cryn dipyn o facteria a budreddi dyfu ar dywelion a dillad gwely nad ydyn nhw’n cael eu golchi’n ddigon aml. Efallai y byddai hefyd yn syniad da cael dwy set o bob un, fel y gallwch eu newid a golchi popeth unwaith bob mis. 

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Rhoi posteri y tu allan i’r hysbysfwrdd. Gall hyn ddifrodi’r paent ar y wal – gwiriwch gyda’r dderbynfa ymlaen llaw os nad ydych yn siŵr a yw eitem addurno’r ystafell yn iawn i’w ddefnyddio. 
  • Rhoi gormod yn eich ystafell. Er bod ystafelloedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhesymol o ran maint, gallant lenwi’n gyflym iawn. Po fwyaf o bethau y byddwch chi'n dod â nhw gyda chi, y lleiaf y bydd yn teimlo'n gyffredinol. Cofiwch ystyried ddwywaith a oes gwir angen i chi brynu eitem ar gyfer eich ystafell ac a oes gennych le i’w storio. 
a person sitting on a bed

Cymdeithasu 

Cofiwch wneud y canlynol: 

  • Dod i adnabod eich cyd-letywyr. Byddwch chi'n byw gyda nhw am y flwyddyn academaidd, ond yn ystod y cyfnod hwn gyda COVID-19, efallai y byddwch hefyd yn eu gweld yn fwy na'r arfer (oherwydd y cyngor i aros y tu fewn). Ceisiwch siarad â nhw a darganfod pa ddiddordebau a allai fod gennych.
  • Sefydlu grŵp i sgwrsio gyda’ch fflat. Mae’n haws o lawer cyfathrebu pan fydd pawb yn y fflat yn derbyn yr un wybodaeth a bod y drafodaeth gyfan yn cael ei chynnal mewn un lle. 

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Bod yn swnllyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda’r nos yn ystod yr oriau tawel, yn enwedig pan mae eich cytundeb llety yn nodi i gadw’r lefelau sŵn yn isel. Serch hynny, yn gyffredinol mae'n syniad da bod yn ystyriol o'ch cyd-letywyr a pheidio â gwneud llawer o sŵn. Nid yw hyn i ddweud na ddylech chwarae cerddoriaeth yn eich ystafell na chanu yn y gawod bob hyn a hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ystyried eich cyd-letywyr – dyna’i gyd.