Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd

Posted 4 years ago

Cyfleusterau chwaraeon a gynigir gan Brifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o gyfleusterau dan do ac awyr agored, a gall unrhyw un eu llogi neu eu defnyddio drwy ymuno â chymdeithasau chwaraeon y Brifysgol. Er bod y cyfleusterau chwaraeon ar wasgar ar draws y campws, mae’r rhan fwyaf ohonynt yng nghanolfan chwaraeon Prifysgol Caerdydd, sef y “Pentref Hyfforddiant Chwaraeon”, sydd ger neuaddau preswyl Gogledd Tal-y-bont.

Cyfleusterau yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon:

Mae cyfleusterau dan do ac awyr agored ar gael. Gellir defnyddio’r cyfleusterau gyda’r nos gyda’r llifoleuadau sydd yno.

Cyfleusterau chwaraeon dan do: 

Mae’r ganolfan chwaraeon yng Ngogledd Tal-y-bont, ac mae ganddi gyfleusterau ar gyfer pob math o chwaraeon, gan gynnwys criced dan do, badminton, sboncen, gymnasteg, pêl-droed dan do a phêl-fasged. Mae rhan fwyaf y cymdeithasau chwaraeon yn hyfforddi yma. Gall unrhyw fyfyriwr logi’r cyrtiau yn unigol hefyd, felly gallwch fynd i chwarae eich hoff chwaraeon ar unrhyw adeg (Ffigur 7).

Cyfleusterau chwaraeon awyr agored:

Os ydych yn dwlu ar chwaraeon awyr agored, mae gan Brifysgol Caerdydd amrywiaeth o gaeau a chyrtiau awyr agored. Mae ganddi ddau gae pêl-droed 3G, cae AstroTurf hoci, cwrt pêl-fasged a phêl-law awyr agored sydd ar gael i’w llogi ar unrhyw adeg (Ffigur 8).Y peth gorau yw bod modd parcio’n rhad ac am ddim yn y ganolfan chwaraeon, ac felly nid oes yn rhaid i chi dalu i barcio er mwyn chwarae chwaraeon. Er y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr i’r cyfleusterau chwaraeon hyn, gall unrhyw un eu llogi ac nid o reidrwydd gan fyfyrwyr yn unig. Felly, mae'n arfer gorau archebu'r cyrtiau ymlaen llaw neu fel arall ni fyddwch bob amser yn gallu chwarae ar yr amser o'ch dewis yn y fan a'r lle.

Cyfeiriad a manylion llogi:

Derbynfa’r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Meysydd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd:

Mae hefyd gan Brifysgol Caerdydd gae chwaraeon 33 erw sydd â maes parcio mawr. Er bod y cyfleuster chwaraeon hwn ychydig yn bell o’r prif gampws, mae’n llawn o’r holl gyfleusterau hanfodol h.y. ystafelloedd newid a lluniaeth. Felly, mae’n gyfleus mynd yno i chwaraeon gêm pêl-droed neu rygbi lawn. Mae caeau glaswellt a 3G ar gael ar gyfer chwarae gyda ffrindiau neu eu defnyddio gan gymdeithasau chwaraeon ar gyfer hyfforddiant a gemau cystadleuol gyda phrifysgolion eraill. 

Cyfeiriad a manylion llogi:

Derbynfa’r caeau chwaraeon

  • sport@caerdydd.ac.uk
  • +44 (0)29 2077 7377
  • Caeau Chwarae Prifysgol Caerdydd, Heol Mendip, Llanrhymni, CF3 4JN

Cyfleusterau iechyd, ffitrwydd a champfa ym Mhrifysgol Caerdydd:

Campfa’r Pentref Chwaraeon:

Mae Campfa Prifysgol Caerdydd y tu mewn i’r ganolfan chwaraeon, ac mae’n llawn o’r peiriannau ac offer hyfforddi mwyaf modern. 

Stiwdio 49:

Mae Stiwdio 49 yn gyfuniad unigryw o ddosbarthiadau aerobeg, ioga a dawns mewn un man. Cynigir digonedd o ddosbarthiadau ffitrwydd bob mis mewn grwpiau, neu gallwch logi un ar eich cyfer chi eich hun, hefyd. Mae lleoliad y stiwdio yn wych oherwydd ei bod hi’n agos at Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd.

Cyfeiriad a manylion llogi:

  • Derbynfa Stiwdio 49
  • sport@caerdydd.ac.uk
  • +44 (0)29 2087 6706
  • Stiwdio 49, 49 Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol:

Mae’r cyfleuster yn addas iawn i’r rhai hynny sydd am gadw eu hunain mewn cyflwr da ond nid ydyn nhw o reidrwydd eisiau codi pwysau trwm. Mae'r peiriannau'n canolbwyntio'n bennaf ar cardio ac mae ystod eang iawn o opsiynau i ddewis ohonynt. Unwaith eto, mae mewn lleoliad gwych yng nghanol Cathays. 

Cyfeiriad a manylion llogi:

  • Derbynfa’r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol
  • sport@caerdydd.ac.uk
  • +44 (0)29 2087 0540
  • Y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AY:

Cyfleusterau chwaraeon lleol eraill yng Nghaerdydd.

Mae 60 o gymdeithasau chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleusterau chwaraeon. Weithiau, mae’n anodd dod o hyd i adeg lle mae’r cyfleusterau’n rhydd. Felly, o dan yr amgylchiadau hyn, mae Caerdydd yn ffodus iawn oherwydd bod ganddi lwyth o glybiau a chyfleusterau chwaraeon lleol hefyd. Dyma rai ohonynt:

Canolfan Hamdden Maindy

Mae Canolfan Maindy yn cynnig y pwll nofio agosaf i Dalybont, ond fel Cymun Gwell hefyd mae chwaraeon llawer o ddosbarthiadau ffitrwydd, hyfforddiant personol a thrac beicio hyd yn oed!

Manylion cyfeiriad a threfnu:

Ffordd y Goron
Caerdydd
CF 14 3AJ

Ffôn: 02920 529230

Clwb Tenis Lawnt Caerdydd

Dyma glwb tenis gorau Cymru ac mae’n addas i chwaraeon o bob oed a safon sydd eisiau dysgu, chwarae a chystadlu mewn amgylchedd cymdeithasol sy’n addas i’r teulu. Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn chwarae fan hyn, ac mae clwb chwaraeon tenis Prifysgol Caerdydd hefyd yn defnyddio’r cyrtiau yn y clwb tenis. Felly, gall myfyriwr naill ai chwarae gyda chlwb Caerdydd neu ymuno â’r clwb lleol er mwyn hyfforddi a mwynhau’r chwaraeon.

Cyfeiriad a manylion llogi:

The Castle Grounds,
Heol y Gogledd,
Caerdydd
CF10 3EW

Ffôn: 029 2023 1216

Cyfeiriad a manylion llogi:

Cyfeiriad: Uned 4, Ffordd Dominion, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 1RF

Ffôn: 07968 321875

Campfa a phwll nofio rhyngwladol Caerdydd:

Mae Pwll Rhyngwladol Caerdydd yn bwll nofio maint pwll y gemau Olympaidd. Prin yw’r dinasoedd sydd â phwll nofio maint pwll y Gemau Olympaidd. Mae hefyd campfa sydd â mwy na 70 o orsafoedd, pwll i ddysgwyr, pwll hamdden, spa iechyd, man i feicio mewn grŵp ac i gynnal digwyddiadau clwb preifat. Felly, mae popeth yno mewn un man ac mae’n rhywle gwych. Gellir prynu aelodaeth am fis neu dalu bob mis i ddefnyddio’r cyfleusterau. Yn olaf ond nid y lleiaf, mae modd parcio am ddim ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Cyfeiriad a manylion llogi:

Cyfeiriad:

Uned 4,
Ffordd Dominion,
Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 1RF

Ffôn: 07968 321875

Campfa a phwll nofio rhyngwladol Caerdydd:

Mae Pwll Rhyngwladol Caerdydd yn bwll nofio maint pwll y gemau Olympaidd. Prin yw’r dinasoedd sydd â phwll nofio maint pwll y Gemau Olympaidd. Mae hefyd campfa sydd â mwy na 70 o orsafoedd, pwll i ddysgwyr, pwll hamdden, spa iechyd, man i feicio mewn grŵp ac i gynnal digwyddiadau clwb preifat. Felly, mae popeth yno mewn un man ac mae’n rhywle gwych. Gellir prynu aelodaeth am fis neu dalu bob mis i ddefnyddio’r cyfleusterau. Yn olaf ond nid y lleiaf, mae modd parcio am ddim ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos.