Sut i fanteisio ar ein digwyddiadau

Posted 3 years ago

Mae Bywyd Preswyl yn rhan mor enfawr o fywyd prifysgol

Mae gennym ni gymaint o ddigwyddiadau cyffrous yn dod i'ch ffordd!

Wrth fyw yn un o breswylfeydd y Brifysgol am y tro cyntaf erioed, gall fod yn anodd dod i adnabod myfyrwyr yn eich llety. Felly, mae eich Tîm Bywyd Preswyl yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol i bob myfyriwr yn rhad ac am ddim. Diben y digwyddiadau hyn yw dod â myfyrwyr o lety/campws penodol at ei gilydd er mwyn iddynt ddod i adnabod ei gilydd yn well. Fel arfer, rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd sawl diwrnod yr wythnos, megis lolfeydd coffi, nosweithiau chwarae gemau bwrdd a nosweithiau wafflau (i fyfyrwyr Llys Cartwright yn unig). Mae Cynorthwywyr Bywyd Preswyl (RLAs) hefyd yn cynllunio a chynnal digwyddiad drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau crefft, digwyddiadau chwaraeon a llawer o fwyd am ddim! Hefyd, rydym yn cynnal digwyddiadau ychydig yn fwy sawl tro bob mis. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys themâu amlddiwylliannol megis noson gyri a gwleddoedd o’r Dwyrain Canol, yn ogystal â brunches arholiadau a digwyddiadau i'ch helpu drwy gyfnodau astudio anodd.

Mae'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn bersonol, fodd bynnag, rydym yn dal i gynnal rhai digwyddiadau ar-lein! I gael mynediad i unrhyw un o'n digwyddiadau, bydd angen i chi gofrestru ar Eventbrite. Mae’r broses gofrestru hon yn ein helpu ni i gael amcangyfrif da o nifer y myfyrwyr y dylem ddisgwyl er mwyn trefnu'r digwyddiadau yn well. Mae’r broses yn syml iawn ond mae’n hanfodol. 

a group of people posing for a photo

Camau i ddefnyddio Eventbrite:

  1. Ewch i reslifecu.eventbrite.com 
  2. Edrychwch drwy’r digwyddiadau rydym yn eu cynnal. 
  3. Dewiswch y digwyddiad sydd o ddiddordeb i chi.
  4. Llenwch y manylion (defnyddiwch eich cyfeiriad ebost yn y brifysgol).
  5. Hwrê! Mae gennych eich tocyn yn awr.

Dylech nawr dderbyn e-bost yn cynnwys yr wybodaeth ofynnol er mwyn cael mynediad i ddigwyddiad penodol. Os yw hwn yn ddigwyddiad ar-lein, bydd yn cynnwys dolen uniongyrchol i alwad Zoom neu Barti Netflix.

Gallwch hefyd glicio 'Dilynwch' ar ein tudalen Eventbrite i dderbyn diweddariadau am ein digwyddiadau sydd ar y gweill, felly rydych chi bob amser yn gwybod beth sy'n digwydd!

Mae ein holl ddigwyddiadau hefyd yn cael eu hysbysebu yma ar ein tudalen Browzer yn yr adran Digwyddiadau. Bydd pob un yn cynnwys dolen i Eventbrite i brynu eich tocyn.

Os oes gennych ragor o gwestiynau am unrhyw un o'n digwyddiau, byddwn yn hapus i'w ateb. Anfonwch eich ymholiad i ResidenceLife@cardiff.ac.uk! Mae hefyd gennym dudalen Instagram lle rydym yn rhoi cynnwys o’n digwyddiadau ac unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill. Enw defnyddiwr y dudalen Instagram yw ResidenceLifeCU, felly dilynwch ni!