Llety
Sut i ddefnyddio...Next Bike
Beicio yw un o'r dulliau mwyaf effeithiol o deithio. Os nad ydych wedi dod â'ch beic gyda chi am ba bynnag reswm, mae NextBike ar gael i chi. Mae digon o ddociau ar gael yn agos i lety'r brifysgol, a mwy. Rwy'n siŵr eich bod wedi clywed am hyn, ond os rydych yn cofrestru fel myfyriwr rydych yn cael y 30 munud cyntaf yn rhad ac am ddim. Os rydych fel arfer yn cerdded i'ch darlithoedd ond mae angen i chi gyrraedd yna ar frys ar gyfer unrhyw fater, gallech bob amser beicio yna gan ddefnyddio NextBike. Gallwch hefyd ddefnyddio eu gwasanaeth mor hir ag y dymunwch.
Drwy ddilyn y camau canlynol, dylech fod yn barod i ddefnyddio NextBike:
- Lawrlwythwch yr ap NextBike ar eich ffôn symudol. Fel arall, ewch i nextbike.net er mwyn cofrestru ar-lein.
- Llenwch y ffurflen gofrestru wrth sicrhau eich bod yn defnyddio ebost Prifysgol Caerdydd.
- O'r gwymplen, dewiswch Brifysgol Caerdydd fel partner.
- Peidiwch â dewis opsiwn i danysgrifio.
- Ychwanegwch opsiwn i dalu. Bydd yn costio£1, a fydd yn cael ei gredydu i'ch cyfrif.
- Mae eich cyfrif bellach yn barod!
Ar y pwynt hwn, mae eich cyfrif wedi'i sefydlu ac rydych yn barod i rentu eich beic cyntaf. Ar ôl 30 munud cyntaf o bob dydd, bydd yn costio £1 am bob 30 munud ychwanegol.
I ddefnyddio'r beic, dilynwch y camau hyn:
- Agorwch yr ap NextBike ar eich ffôn symudol.
- Dewiswch ‘Rhentu Beic’.
- Dylai pob beic fod â chôd QR a rhif. Gallwch naill ai galluogi'r ap i ddefnyddio eich camera i sganio côd QR y beic neu deipio'r rhif mewn eich hun.
- Dylai'r beic gael ei ddatgloi ac rydych yn barod i fynd.
Os hoffech ddychwelyd y beic ar ôl ei ddefnyddio:
- Gosodwch yr olwyn flaen yn y doc yn gadarn.
- Sleidiwch y bar drwy'r olwyn.
- Sleidiwch y fforc blaen nes iddo glicio.
- Gwasgwch unrhyw fotwm ar sgrîn y beic.
- Cliciwch ar ‘End’.
- Gellir gwneud hyn hefyd drwy'r ap.
Topics
- Darllen Nesaf
-
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
Canllaw Llys Cartwright
Beth yw’r pethau gorau am fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd?
Llwybrau rhedeg Caerdydd
- Poblogaidd
-
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Canllaw Llys Cartwright
Sut i...lanhau eich fflat
Ryseitiau dau gynhwysyn
Sut i...olchi dillad
Pethau i'w cofio mewn neuaddau
Cefnogaeth y tu allan i’r Brifysgol
Sut i ddefnyddio...Next Bike
Sut i...Siopa Bwyd