Ffordd o fyw
Sut i greu calendr ar-lein
Pam mae hyn yn bwysig?
Gyda chynifer o gyfarfodydd, apwyntiadau, darlithoedd a digwyddiadau’n cael eu cynnal, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf, gall fod yn hawdd iawn colli trywydd neu anghofio am bethau os nad ydynt wedi’u nodi ar bapur. Yn wir, mae cynllunwyr papur pert a chalendrau hefyd yn opsiwn; ond, mae risg bob amser o’u colli neu eu hanghofio pan fyddwch eu hangen. Os ydych yn defnyddio calendr ar-lein, gallwch gael trosolwg o’r diwrnodau/amseroedd sydd gennych yn rhydd a chael negeseuon i’ch atgoffa am gyfarfodydd pwysig. Mae gan y rhan fwyaf o galendrau ar-lein fersiwn ar gyfer ffonau symudol, sy’n golygu y gallwch gael mynediad at eich digwyddiadau a’u haddasu o’ch ffôn, gan wneud yn siŵr nad ydych yn methu dim.
Beth yw’r opsiynau?
Mae eich darlithoedd a seminarau eisoes wedi’u lanlwytho ar galendr personol o’r enw FyAmserlen, y gallwch gael mynediad ato ar Dysgu Canolog neu drwy chwilio am FyAmserlen ar y fewnrwyd. Er bod y calendr hwn yn ddefnyddiol iawn, ni allwch ei olygu nac ychwanegu digwyddiadau personol iddo, ond gallwch ei gynnwys mewn calendrau eraill fel bod modd cael eich cynlluniau addysgu a phersonol mewn un man. Mae dadansoddiadau cam wrth gam o sut i wneud hyn ar gyfer pob math o galendr ar y fewnrwyd. Chwiliwch am ‘cysylltu apiau calendr.’
Google Calendar – gallwch ddefnyddio a chreu cyfrif Google am ddim, a bydd modd i chi wedyn ddefnyddio’r ap calendr. Mae’n ap amlbwrpas lle gallwch ychwanegu digwyddiadau gyda manylion: hyd, lleoliad, nodiadau ac ati. Gallwch gysylltu lliwiau â digwyddiadau, creu calendrau a rennir ar wahân a chael negeseuon atgoffa. Os ydych yn cael gwahoddiadau i ddigwyddiadau ar Gmail, caiff y rhain eu cynnwys yn awtomatig ar Google Calendar. Felly, nid oes angen i chi eu nodi â llaw eich hun. Gallwch gynnwys FyAmserlen hefyd fel calendr ar wahân. Mae rhai problemau wedi bod gyda gweld y calendrau a fewnforiwyd ar yr ap ffôn, ond maen nhw’n gynyddol fwy prin.
Microsoft Outlook – mae gan y calendr hwn fantais ychwanegol ei fod yn cysylltu â’ch cyfrif ebost Prifysgol Caerdydd, felly caiff unrhyw wahoddiadau am ddigwyddiadau a gewch eu cynnwys ynddo. Gallwch hefyd greu ac ychwanegu eich digwyddiadau eich hun, anfon gwahoddiadau penodol i aelodau eraill Prifysgol Caerdydd a chael negeseuon atgoffa i’ch ebost. Mae’r calendr wedi’i gynnwys yn yr ap Outlook ar y ffonau. Rydych yn defnyddio’r ap i ddarllen ac anfon ebyst o’ch cyfrif Prifysgol Caerdydd. Gallwch hefyd ei gysylltu â FyAmserlen. Fodd bynnag, anfantais yw, gan ei fod wedi'i gysylltu â'ch cyfrif prifysgol a bod eich tanysgrifiad i Outlook trwy'r brifysgol, efallai yr hoffech ystyried yn fanylach a ydych am roi gwybodaeth a chynlluniau personol arno, yn enwedig gan y byddwch yn colli mynediad i'ch cyfeiriad ebost pan fyddwch chi'n gadael y brifysgol.
Apple Calendar – mae’r ap hwn yn fwy agos at Google Calendar na Microsoft Outlook o ran natur ymarferol a phreifatrwydd, gan ei fod yn gysylltiedig â’ch cyfrif Apple. Os ydych yn defnyddio Mac neu iPhone, dylai fod eisoes wedi’i gynnwys yn eich dyfeisiau, ac ni fydd yn gweithio ar ddyfeisiau Android na Windows. Mae modd hefyd ei gysylltu â FyAmserlen.
- Darllen Nesaf
-
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
Canllaw Llys Cartwright
Beth yw’r pethau gorau am fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd?
- Poblogaidd
-
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Canllaw Llys Cartwright
Sut i...lanhau eich fflat
Ryseitiau dau gynhwysyn
Sut i...olchi dillad
Pethau i'w cofio mewn neuaddau
Cefnogaeth y tu allan i’r Brifysgol
Sut i ddefnyddio...Next Bike