Ffordd o fyw
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Mae ffrindiau'n rhan fawr o'n bywydau ni, ac i lawer, gall gwneud ffrindiau newydd godi ofn. Mae dod i'r brifysgol yn bennod cyffrous yn eich bywydau, a rhan o hynny yw symud i rywle newydd heb nabod unrhyw un. Gyda lwc, mae pawb yn yr un cwch, felly dyma gyfle perffaith i chi wneud ffrindiau newydd. Ond os ydych yn teimlo'n ansicr am y peth, dwi yma i'ch helpu.

Mathau o ffrindiau
Does dim ots
os oes gennych eisoes ffrind gorau yn y brifysgol, neu os nad ydych wedi cwrdd
ag unrhyw un eto, mae gwneud ffrindiau newydd yn wych i bawb. Ond cyn i chi
wneud ffrindiau newydd, dylech benderfynu pa fath o ffrindiau yr hoffech eu
cael. Yn fras, mae tri phrif fath o ffrindiau:
1. Y ffrind
Helo-Hwyl Fawr.
Yn aml,
maent yn cael eu galw'n gysylltiadau, a rhain yw'r bobl y byddwch chi'n treulio
amser gyda hwy oherwydd y cyd-destun. Gall hyn fod yn y brifysgol neu'r gwaith,
ond ni fyddwch yn cwrdd y tu allan i'r sefyllfaoedd hynny.
2.
Cyfeillion rheolaidd.
Pobl yr
ydych yn eu hadnabod efallai drwy glwb neu chwaraeon. Efallai y byddwch yn
cwrdd bob hyn a hyn i ddal i fyny neu dreulio amser gyda'ch gilydd.
3. Ffrindiau
go iawn (BFF)
Yma, mae
eich perthynas yn gryf, hyd yn oed os nad ydych yn cwrdd bob dydd. Gallwch
siarad am unrhyw beth, torri'ch bol yn chwerthin a mynd y cam ychwanegol i'ch
gilydd.
Gall eich
ffrind nesaf fod yn eich priodas, neu rywun yr ydych am dreulio amser gyda nhw
bob hyn a hyn. Beth bynnag yw lefel y cyfeillgarwch, mae pob lefel yn bwysig.

Ffyrdd i wneud ffrindiau
1.
Dechreuwch gyda'r hen rai
Y cam cyntaf
i wneud ffrindiau yw...peidio. Beth am gysylltu â hen ffrindiau yn lle. Mae hyn
yn llai brawychus na mynd at bobl newydd, gan eich bod yn nabod eich gilydd yn
barod. Os yw pethau'n mynd yn dda, gall hyn fod yr hwb hyder sydd ei angen
arnoch i fynd allan a gwneud ffrindiau newydd.
Does dim
rhaid iddo fod yn hen ffrindiau, gallwch fanteisio ar hen rwydweithiau hefyd.
Os ydych yn adnabod rhywun o gartref sydd yn yr un prifysgol, cysylltwch â nhw.
Efallai y byddwch yn dod ymlaen yn dda gyda'u ffrindiau nhw, ac efallai y bydd
gennych rywun mewn cyffredin.
2. Ymunwch â
chymdeithasau neu glybiau chwaraeon
I lawer,
cymdeithasau yw'r ffordd o ddod o hyd i ffrindiau gorau. Maent yn gymdeithasol
o ran natur ac yn seiliedig ar ddiddordeb cyffredin, felly byddwch gam ar y
blaen yn barod wrth geisio dod i nabod pobl newydd. Mae ystod o
gymdeithasau o glybiau llyfrau i ddawns-affricanaidd, mae rhywbeth i bawb.
Os ydych yn
mwynhau chwaraeon, gallwch ymuno â chymdeithas chwaraeon. Mae'r lefelau'n
amrywio o ddechreuwyr pur i broffesiynol, felly does dim rhaid i chi fod yn
wych i gymryd rhan. Yn aml, mae'n ymwneud â mwy na chwaraeon ac mae nosweithiau
allan a gornest y prifysgolion yn uchafbwyntiau i lawer.
Mae llawer o
gymdeithasau'n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y dydd, a does dim
rhaid i chi yfed. Er y gall timau chwaraeon yfed yn drwm mewn digwyddiadau
cymdeithasol, mae'n hollol iawn i chi gymryd rhan yn y chwaraeon ond nid yr
yfed.
Cymdeithasau
cwrs yw'r ffordd berffaith i ddod i adnabod y bobl sydd ar eich cwrs y tu allan
i'r brifysgol. Mae timau chwaraeon sy'n benodol i gyrsiau hefyd, a byddwch yn
dod i adnabod pobl o bob grŵp blwyddyn. Gall hyn fod yn ffordd wych o
rwydweithio a chwrdd â phobl newydd na fyddwch yn eu gweld mewn darlithoedd bob
tro.
Mae cymdeithasau
diwylliannol yn berffaith i fyfyrwyr rhyngwladol sydd am gwrdd â phobl o
gartref, neu unrhyw un sy'n awyddus i ddathlu poblogaeth myfyrwyr amrywiol
Caerdydd.
Dim hobi neu
gamp eto, ond yn awyddus i gael un? Beth am roi cynnig ar rywbeth newydd? Mae cymdeithasau
eisiau i chi ddod a rhoi cynnig arni, waeth os ydych yn arbenigwr neu'n gwneud
am y tro cyntaf. Efallai y byddwch yn dod o hyd i'ch hoff beth.
Os ydych
wedi edrych ar y cymdeithasau ond heb ddod o hyd i'r un i chi, beth am sefydlu
un newydd?

3. Ymunwch â grwpiau glasfyfyrwyr
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gysylltu â phobl. Mae llu o grwpiau i glasfyfyrwyr, myfyrwyr sy'n dychwelyd, myfyrwyr ôl-raddedig neu beth bynnag yw'ch sefyllfa. Mae'r rhain yn actif iawn cyn i'r brifysgol ddechrau, felly peidiwch â bod ofn cymryd rhan.
4. Gwnewch ffrindiau gyda phobl ar eich cwrs
Cyn bo hir byddwch yn sylwi ar yr un bobl yn eich darlithoedd a seminarau (er y bydd y rhan fwyaf ar-lein eleni), a dyma un o'r ffyrdd gorau i gwrdd â phobl. Mae pawb yn yr un cwch a byddant yn gwerthfawrogi cael ffrind i drafod gwaith cymaint â chi. Byddwch yn treulio llawer o amser gyda'r bobl hyn dros y dair blynedd nesaf felly peidiwch â synnu os ydych yn dod yn agos iawn at eich ffrindiau cwrs.
Mae grwpiau astudio yn ffordd wych o gau'r bwlch rhwng cwrdd â rhywun mewn darlith a threulio amser gyda nhw y tu allan i'r brifysgol. Gall hyn fod yn llawer llai ffurfiol na darlith, ac mae'n aml yn fwy o hwyl. Nid yn unig y byddwch chi'n dal i fyny ar nodiadau, byddwch yn dechrau creu cyfeillgarwch.
Gair i gall: Ceisiwch beidio â cholli unrhyw ddyddiau o brifysgol yn ystod y pythefnos cyntaf. Hyd yn oed os yw hi'n anodd iawn i godi o'r gwely yn y bore neu os nad ydych eisiau cerdded yn y glaw, cofiwch mai dyma ble rydych yn gwneud ffrindiau, a dydych chi ddim am golli allan ar ddod o hyd i grŵp yn llawn hwyl.
5. Gwnewch ffrindiau gyda phobl yn eich neuaddau preswyl
Byddwch yn gyfeillgar iawn gyda'r bobl yr ydych yn byw gyda nhw. Efallai bod hyn yn amlwg, ond oherwydd cyfyngiadau COVID byddwch yn treulio llawer mwy o amser nag arfer yn eich fflat, felly beth am geisio dod yn ffrindiau da? Ffordd dda o dorri'r iâ yw gwneud paneidiau i bobl, neu os ydych yn dda am goginio/pobi, beth am ddefnyddio'r sgiliau hynny i gael pawb allan o'u hystafelloedd yn cymdeithasu.
Sicrhewch fod pawb yn gwybod eich bod wedi symud i mewn. Mae myfyrwyr yn cyrraedd y brifysgol ar adegau gwahanol eleni, felly os ydych chi neu rywun arall yn symud i mewn yn hwyr, gadewch eich drws ar agor (cofiwch ddod â rhwystr drws) neu gnociwch ar rywun nad ydych wedi cwrdd â nhw eto. Mae addurno'ch drws hefyd yn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi symud i mewn.
Er bod y swper microdon gyda Netflix ar eich gliniadur yn braf, ceisiwch wneud pethau fel coginio fel fflat, neu bwyta ar yr un pryd â nhw. Mae'n ffordd wych o arbed arian a chael hwyl. Os nad ydych yn siŵr pryd mae pobl yn bwyta, ceisiwch wrando i weld pryd fydd pobl yn mynd i'r gegin a thalu sylw o beth sy'n digwydd mewn ardaloedd cyffredin. Gallwch hefyd ddod â gemau gyda chi (cardiau, Jenga, Dobble ac ati) a bydd hyn yn gwneud gweithgareddau fel yfed cyn mynd allan yn fwy o hwyl!
6. Digwyddiadau RLA
Newyddion da i'r rhai ohonoch sy'n byw ym Mhreswylfeydd Prifysgol Caerdydd, mae tîm cyfan o fyfyrwyr penodol sy'n cynnal digwyddiadau ar eich cyfer. Byddwn yn gwneud popeth o nosweithiau coginio i nosweithiau ffilmiau, ac mae'n gyfle perffaith i gwrdd â myfyrwyr eraill, yn enwedig gan nad oes modd i chi fynd allan yn ystod y cyfnod clo.
7. Gwirfoddoli
Mae llu o gyfleoedd i wirfoddoli yn y brifysgol. Edrychwch ar y dudalennau gwirfoddoli ar wefan y brifysgol i weld beth sy'n digwydd. Mae'n ffordd wych o wneud rhywbeth gwerthfawr (sy'n teimlo'n dda iawn!) a chwrdd â phobl sydd â'r un diddordebau ar yr un pryd.

Syniadau ar
wneud ffrindiau
Os ydych
wedi cyrraedd fan hyn, efallai eich bod chi'n meddwl; mae gen i griw bychan o
ffrindiau, dwi'n eithaf swil. Nid ydw i'n ddigon hyderus i fynd allan a chwrdd
â phobl newydd. Wel, peidiwch â phoeni, ro'n i yn yr un cwch pan ddes i'r
brifysgol (amser maith yn ôl), ac wir i chi, does dim ots am hyn.
Dyma 8 o fy
syniadau gorau i o ran cael ffrindiau newydd:
1. Bod yn
gyfeillgar a hapus
Pwy fyddai'n
well gennych chi siarad â nhw, rhywun hapus, neu rywun sy'n pwdu? Dyna
feddyliais i. Os gallwch chi fod yn bositif ac yn berson hapus, byddwch yn denu
egni da, a bydd pobl eisiau bod o'ch cwmpas. Cofiwch fod yn sympathetig heb
gwyno. Byddwch yn ddylanwad positif iawn ar y bobl o'ch cwmpas, a byddant yn
mwynhau eich cwmni.
2. Gwenu
Defnyddiwch
wên i'ch helpu i wneud ffrindiau; mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod hyn yn
eich gwneud chi'n fwy hoffus! Pan fyddwch chi'n gwenu ar bobl, byddwch yn eu
hannog i wenu'n ôl a chyn bo hir byddwch yn sgwrsio gyda nhw. Ni fydd pawb yn
gwenu'n ôl ond mae hynny'n iawn, y rhai fydd yn gwenu yw'r rhai cyfeillgar, a'r
rhai cyfeillgar oeddech chi eisiau siarad gyda nhw beth bynnag!
3.
Defnyddiwch enwau pobl
Un o'r
ffyrdd gorau i adeiladu cysylltiad gyda rhywun, ond dim ond os gallwch chi ei
gofio! Peidiwch â phoeni os na allwch gofio, gallwch chwerthin am ddweud yr enw
anghywir nes ymlaen. Gair
i gall: Ceisiwch gofio'r enw a'i ddefnyddio mewn brawddeg
o leiaf unwaith (tair gwaith yn ddelfrydol) y tro cyntaf i chi gwrdd â nhw.
Bydd hyn yn eich helpu i gofio eu henw'n nes ymlaen. Mae'n dangos i bobl eich
bod wedi talu sylw a bydd hyn gwella'ch cysylltiad gyda nhw.
4. Canmol
rhywun
Mae pawb yn
hoffi canmoliaeth. Dwedwch wrth rywun eich bod chi'n hoffi eu gwisg, neu'r gân
a ddewison nhw mewn parti. Bydd yn dangos i bobl bod gennych ddiddordebau
cyffredin, a byddwch yn fwy tebygol o greu cysylltiad.
5. Gwrando
ar eraill
Cofiwch
wrando i'ch ffrindiau newydd pan fyddant yn siarad, byddan nhw'n gwneud yr un
peth i chi. Mae pawb angen rhywun i siarad gyda nhw, ac os gallwch chi ddangos
eich bod chi'n gwrando, byddwch yn creu perthynas gydag ymddiriedaeth.
8. Ceisio
tebygrwydd a dathlu gwahaniaethau
Dim Mean Girls yw hyn, does dim angen i chi
fod yn y plastics, gallwch fod yn
ffrindiau gyda phwy bynnag y mynnech. Mae'r brifysgol yn lle amrywiol iawn.
Drwy fod yn chi eich hunan, byddwch yn teimlo'n dda, yn adeiladu hyder ac yn
fwy tebygol o ddod o hyd i bobl debyg i chi. Drwy dderbyn eraill, byddwch yn
dod yn ffrindiau gyda llawer o bobl wahanol. Syniad da yw dangos diddordeb yn
niddordebau pobl eraill. Efallai y byddwch yn dysgu rhywbeth newydd ac yn
datblygu diddordebau, a byddwch yn gwneud i'r person deimlo'n dda - ffordd wych
o wneud ffrindiau!

Cwestiynau eraill:
Pa mor hir mae'n cymryd i wneud ffrindiau yn y brifysgol?
Mae'n amrywio i bawb. Bydd rhai lwcus yn dod o hyd i'w ffrindiau gorau'n syth bin. Fodd bynnag, ni fydd y rhan fwyaf yn dod o hyd i ffrindiau agos nes yn ddiweddarach yn y flwyddyn, neu hyd yn oed yr ail flwyddyn. Felly mae'n normal os nad ydych chi'n teimlo fel eich bod wedi gwneud ffrindiau agos eto. Byddwch yn bositif a pharhewch i gysylltu, dyw hi fyth yn rhy hwyr i wneud ffrindiau.
Nid yw pethau'n mynd yn dda gyda fy ngrŵp o ffrindiau
Ddim yn dod ymlaen gyda'ch grŵp o ffrindiau presennol? Gall fod yn amser dod o hyd i ffrindiau newydd, sy'n llawer haws nag y mae'n swnio! Gallech symud at grŵp gwahanol o bobl pan fyddwch yn symud tŷ yn yr ail flwyddyn, neu ddechrau gweithgaredd, ymuno â chymdeithas neu glwb chwaraeon. Cofiwch nad yw llawer o bobl yn dod o hyd i'w grŵp parhaol o ffrindiau tan ar ôl y flwyddyn gyntaf, weithiau hyd yn oed yn yr ail neu'r drydedd flwyddyn. Peidiwch â digalonni os nad ydych yn meddwl eich bod yn y grŵp cywir, gallwch wneud ffrindiau newydd bob tro.
Teimlo'n unig yn y brifysgol?
Gall y brifysgol fod yn amseroedd gorau eich bywyd, ond hefyd rhai o'r amserau mwyaf unig. Efallai eich bod chi'n colli gartref, yn poeni am waith neu'r pwysau o orfod gofalu am eich hun. Rydych wedi symud i ffwrdd o'ch teulu a'ch ffrindiau ac mae'ch llwyth gwaith newydd yn anferth, felly os ydych yn teimlo'n unig neu'n bryderus, cofiwch fod hyn yn normal. Beth bynnag yw'ch sefyllfa, mae'r brifysgol yma i'ch cefnogi chi, a gallwch siarad â'r tîm RLA cyfeillgar bob tro.
Gair i gall: Treuliwch lai o amser ar y cyfryngau cymdeithasol. Pawb yn joio mas draw heblaw am chi? Y gwir yw, nid yw'n ddarlun cywir o sut fywydau sydd gan bobl go iawn. Mae'n hawdd credu bod pawb yn mwynhau gyda'u ffrindiau newydd, ond mewn gwirionedd, maen nhw'n styc yn eu hystafell yn gwylio Friends hefyd.

Topics
- Darllen Nesaf
-
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
Canllaw Llys Cartwright
Beth yw’r pethau gorau am fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd?
- Poblogaidd
-
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Canllaw Llys Cartwright
Sut i...lanhau eich fflat
Ryseitiau dau gynhwysyn
Sut i...olchi dillad
Pethau i'w cofio mewn neuaddau
Cefnogaeth y tu allan i’r Brifysgol
Sut i ddefnyddio...Next Bike