Llety
Sut i...olchi dillad
Mae mynd o fyw gyda'ch rhieni neu rywun sy'n golchi eich dillad i fyw ar ben eich hun yn gam mawr.
Mae gan bron bob un safle ar y campws ei gyfleusterau golchi dillad ei hun. Wrth i chi gasglu allweddi eich ystafell, cewch wybod pa gyfleuster golchi dillad y gallwch ei ddefnyddio. Os nad ydych wedi golchi eich dillad eich hun o'r blaen, peidiwch â phoeni! Ar ôl darllen y neges hon, dylech allu golchi eich dillad heb unrhyw help gan unrhyw un.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod yw'r canlynol:
- Lawrlwythwch yr ap Circuit.
- Sefydlwch eich cyfrif cyn mynd i'r ystafell golchi dillad.
- Llenwch eich cyfrif â chredyd (bydd angen rhoi o leiaf £5).
- Mae un golch yn costio £2.9 ac i sychu unwaith mae'n costio £1.5.
- Prynwch ryw fath o bowdwr golchi, hylif neu dabledi 3 mewn 1.
- Mae cael basged golchi dillad yn ei gwneud hi'n haws cario eich dillad o gwmpas.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae'r ystafell golchi dillad cyn golchi eich dillad am y tro cyntaf.
- Sicrhewch fod gennych gysylltiad cryf o ran wifi/data gan fod angen hyn er mwyn i'r ap weithio.
- Os oes gennych unrhyw broblem dechnegol, cysylltwch â Circuit yn uniongyrchol yn circuit.ac.uk.
- Os ydych yn byw ychydig yn bellach i ffwrdd o ystafell golchi dillad eich llety, gallwch ddefnyddio ap Myfyrwyr Caerdydd i weld statws y Peiriant Golchi Dillad.
Mae'r peiriannau golchi a sychu yn weddol fawr, felly rydym yn argymell eich bod yn ei rannu â ffrind os ydych yn golchi'n aml iawn. Ar ôl gwneud popeth a restrir uchod, rydych yn barod i fynd.
Er mwyn defnyddio'r peiriannau golchi:
- Rhowch y powdwr/hylif/tabledi ar waelod casgen y peiriant golchi.
- Rhowch eich dillad yn y peiriant golchi. Llenwch y peiriant tua 80% i gael y canlyniad gorau. Yn ddelfrydol, peidiwch â chymysgu eitemau gwyn gyda rhai lliw.
- Caewch y drws.
- Agorwch yr ap ar eich ffôn symudol a naill ai sganiwch y côd bar ar y peiriant neu teipiwch rif y peiriant eich hun.
- Yna gofynnir i chi ddewis ffabrig. Ar y peiriant ei hun, bydd botymau y gallwch eu gwasgu i wneud dewis. Os nad ydych yn siŵr beth i ddewis, mae posteri yn yr ystafelloedd golchi dillad a allai helpu i wneud penderfyniad.
- Ar ôl dewis, bydd amser yn codi ar y peiriant a dylech wneud nodyn o hyn.
- Codwch eich dillad unwaith y byddent wedi gorffen er mwyn osgoi amharu ar fyfyrwyr eraill sy'n aros.
Er mwyn defnyddio'r peiriannau sychu:
- Rhowch eich dillad yn y peiriant sychu.
- Bydd mewnflwch bach y gallwch ei weld pan fyddwch yn agor drws y peiriant sychu, sy'n dweud “Make sure this is cleaned before using the dryer”. Sicrhewch ei fod wedi'i wagio cyn dechrau sychu eich dillad.
- Caewch y drws.
- Agorwch yr ap ar eich ffôn symudol a naill ai sganiwch y côd bar ar y peiriant neu teipiwch rif y peiriant eich hun.
- Yna gofynnir i chi ddewis ffabrig. Ar y peiriant ei hun, bydd botymau y gallwch eu gwasgu i wneud dewis. Os nad ydych yn siŵr beth i ddewis, mae posteri yn yr ystafelloedd golchi dillad a allai eich helpu i wneud penderfyniad.
- Ar ôl dewis, bydd amser yn codi ar y peiriant a dylech wneud nodyn o hyn.
- Codwch eich dillad unwaith y byddent wedi gorffen er mwyn osgoi amharu ar fyfyrwyr eraill sy'n aros.
Topics
- Darllen Nesaf
-
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
Canllaw Llys Cartwright
Beth yw’r pethau gorau am fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd?
Llwybrau rhedeg Caerdydd
- Poblogaidd
-
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Canllaw Llys Cartwright
Sut i...lanhau eich fflat
Ryseitiau dau gynhwysyn
Sut i...olchi dillad
Pethau i'w cofio mewn neuaddau
Cefnogaeth y tu allan i’r Brifysgol
Sut i ddefnyddio...Next Bike
Sut i...Siopa Bwyd