Llety
Sut i...rannu cegin
Un o'r heriau cyntaf i fynd i'r afael â hi mewn neuaddau preswyl bydd rhannu cegin (a'i chadw'n lân) wrth fyw gyda phob eraill yr un oedran â chi. Os yw eich neuaddau preswyl yn rhai hunanarlwyo, yna dylai pob peron yn eich fflat gael cwpwrdd personol o leiaf. Os ydych mewn neuaddau preswyl sy'n cynnig gwasanaeth arlwyo, gall ardal y gegin fod yn fwy cyfyngedig. Mewn unrhyw achos, isod ceir rhai awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau ac ystyriaethau a fydd yn ddefnyddiol ar y dechrau
Cyd-drafod eich lle
Gall rhannu lle fod yn anodd. Eisteddwch i lawr gyda'ch cyd-letywyr yn gynnar ar ôl i bawb symud i mewn, a thrafodwch sut y byddwch yn dyrannu'r lleoedd. Nid yw hyn yn golygu cypyrddau yn unig, ond silffoedd yn yr oergell/rhewgell neu gownteri. A oes unrhyw gyd-letywr am baratoi prydau ymlaen llaw ac angen mwy o le i gadw gweddillion bwyd? A oes un o'r cyd-letywr anaml yn coginio? Gall sefyllfa rhai fflatiau fod yn symlach nag eraill, ond mae’n dal yn bwysig sicrhau bod pawb ar yr un dudalen.
Ystyriwch gael cwpwrdd cyffredin (neu a rennir)
Nid yw hyn yn orfodol, ond gall cael cwpwrdd ag hanfodion a rennir wneud i fflat deimlo'n fwy cartrefol. Gall fod yn unrhyw beth o eitemau cyffredin: sbeisiau, olew olewydd, pasta, byrbrydau neu ffrwythau hyd yn oed. Os byddwch yn rhannu'r pethau hyn gallwch hefyd eu prynu mewn swmp a rhannu'r costau, sy'n llawer yn rhatach yn y pen draw na phrynu a storio pum potel ar wahân o olew a finegr. Trafodwch sut a pha eitemau y dylid cael gwared arnynt, a sicrhewch eich bod yn cadw cofnod o bwy brynodd peth y tro diwethaf.
Trafodwch alergeddau
Mae ychydig o bethau’n fwy dychrynllyd na chael stoc o fenyn pysgnau cyn sylweddoli bod gan un o'ch cyd-letywyr alergedd gwael iddo. Os oes gennych alergedd bwyd, sicrhewch fod eich cyd-letywyr yn ymwybodol ohono, a thrafodwch beth sydd angen ei wneud nesaf er mwyn sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel ac yn iach.
Trefnwch rota glanhau
Er bod pob ardal gyffredin yn cael ei glanhau gan staff y Brifysgol unwaith yr wythnos, ni allwch ddibynnu ar hyn fel yr unig amser y caiff eich cegin ei glanhau, ac ni ddylech wneud hynny. Yn y cyfamser, mae angen cymryd biniau allan, mopio lloriau, ac ymchwilio i'r arogl rhyfedd yna o gefn yr oergell. Bydd cael rota glanhau lle mae person dynodedig yn gyfrifol bob wythnos/bob dydd am gadw popeth yn lân yn helpu i osgoi unrhyw wrthdaro posibl yn hwyrach. Byddai rhannu costau cynhyrchion glanhau hefyd yn syniad da.
Gyda Covid-19, mae'n bwysicach nag erioed ystyried eich cyd-letywyr a chadw'r mannau cymunedol yn lân. Am fwy o awgrymiadau, edrychwch ar ganllawiau Prifysgol Caerdydd ar gyfer hylendid mewn preswylfeydd.
Topics
- Darllen Nesaf
-
Departure Information for Halls of Residence
Perlau Cudd Caerdydd
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
- Poblogaidd
-
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Cwestiynau Cyffredin: Byw cymunedol
Bwyta'n Dda i Deimlo'n Dda: Awgrymiadau i Leddfu Straen Arholiadau
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref