Llety
Syniadau ar gyfer addurno eich ystafell
Mae gan yr amgylchedd sydd o’n cwmpas rôl bwysig yn ein bywyd bob dydd. Mae’n effeithio ar ein hwyliau ac yn llywio ein ffordd o edrych ar y byd o’n campws hefyd, ac, yn yr hirdymor, yn dylanwadu ar ein personoliaeth.
Mae pensaernïaeth a threfniad cyffredinol lle yn rhoi syniad o bersonoliaeth yr unigol sy’n byw yn y lle hwnnw. Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir, sef bod personoliaeth pobl yn llywio ac yn dylanwadu ar le. Mae’r dewis o addurniadau a lliwiau penodol o ganlyniad i ddymuniadau unigolyn. Er enghraifft, gall lle lliwgar awgrymu bod rhywun allblyg yn byw yno(Gosling, Ko, Mannarelli, a Morris, 2002).
O safbwynt ehangach, mae’r bensaernïaeth a dyluniad yr ystafell yn fynegiant o amser yr unigolyn hwnnw – mae’n cynrychioli math penodol o gymdeithas, ei gwerthoedd, anghenion, chwaeth ac amodau economaidd.
Un o’r pethau gorau am fynd i’r brifysgol yw eich bod yn cael y lle personol hwnnw rydych chi wedi bod ei eisiau o’r diwedd. Ni fydd yn rhaid i chi rannu gyda brodyr neu chwiorydd, ni fydd eich rhieni’n dweud wrthych i lanhau eich ystafell neu’n cwyno am sut rydych yn trefnu eich pethau. Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, y gallwch fyw heb reolau ac mewn rhywle anniben!
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn edrych ymlaen at gael eu lle eu hunain a’i addurno yn y ffordd orau i weddu i’w chwant nhw. Fodd bynnag, y gyllideb yw un o’r pethau a all gyfyngu ar rai pobl a’u digalonni, ond nid oes cyfyngiadau ar greadigrwydd (dyma ddyfyniad i’ch ysbrydoli chi: “Yr oedolyn creadigol yw’r plentyn a oroesodd”, gan Ursula Leguin). Gall gwneud pethau eich hun (DIY) fod yn ateb!
Felly, gadewch i ni ddechrau drwy edrych ar y gwahanol opsiynau sydd i gael! Efallai y cewch ysbrydoliaeth ar gyfer eich ystafell y flwyddyn nesaf.
Goleuadau bach

Mae goleuadau bach yn eich galluogi chi i newid profiad gofodol ystafell drwy newid ei ffynhonnell olau. Gall amgylchedd roi profiadau synhwyraidd gwahanol ar sail y ffordd y caiff ei oleuo. Er enghraifft, bydd ystafell yn edrych yn wahanol os yw’n cael ei goleuo gan olau naturiol o’i chymharu ag un sy’n cael ei goleuo gan ddefnyddio goleuadau artiffisial.
Gellir cael goleuadau bach o wahanol siapau a dimensiynau, a chewch hefyd rai sy’n cynnig goleuni mwy cynnes neu oer. Edrychwch ar y dolenni hyn (dolen 1 a 2 ) i gael rhagor o syniadau.
Rhywfaint o wyrddni i gysylltu â natur

Mae planhigion yn ffordd wych o ddod â rhywfaint o’r byd y tu allan i’ch ystafell chi. Gallant ychwanegu rhywfaint o liw i’ch ystafell a’i goleuo hi os byddwch yn defnyddio’r lliwiau cywir.
Mae dewis y math cywir o blanhigyn yn hanfodol. Gall y dewis fod yn seiliedig ar faint o amser rydych eisiau ymroi iddo, y golau dydd sydd ar gael, lliw ac ati … Gallwch (dolen 3 a 4 ) ddod o hyd i rai o’r opsiynau gorau sydd ar gael o ran planhigion dan do yma.
Trefnwch eich droriau

Ydych chi erioed wedi gorfod rhuthro am eich bod yn hwyr i ddarlith neu i gwrdd â ffrind, a dydych chi ddim yn gallu dod o hyd i’ch hoff grys? Rwy’n uniaethu â’ch tristwch.
Felly, beth am drefnu eich pethau a rhoi lle penodol i bob un ohonynt? Rwy’n gwybod ei fod yn boen ar y dechrau, gwneud yr holl lanhau hwnnw, gwahanu ac ailosod, ond bydd y canlyniad yn werth chweil yn yr hirdymor gan y byddwch chi'n arbed llawer o amser a lle. Edrychwch ar y ddolen hon (dolen 5) i gael ysbrydoliaeth ac i ddechrau arni!
Lamp bersonol

Gall ychwanegu lamp roi awyrgylch unigryw i’ch ystafell ac mae hyd yn oed yn well os mai eich creadigaeth eich hun ydyw. Gallwch ddod o hyd i lampau personol ar y farchnad am bris rhesymol, ond os ydych chi’n teimlo’n greadigol ac eisiau gwneud rhywfaint o DIY, edrych ar yr erthygl hon (“21 DIY Lamps and Chandeliers you can create from everyday objects” Dolen 6) ac ewch ati i gael hwyl yn creu eich siandelïer eich hun.
Prynwch hysbysfwrdd (yn enwedig ar gyfer traethodau a dyddiadau cau)

Iawn, gadewch i ni drafod pethau mwy difrifol nawr. Felly, gadewch i ni ddod o hyd i rai syniadau am sut i drefnu’r holl ddyddiadau cau, ac, yn fwy cyffredinol, eich gwaith prifysgol.
Un o’r opsiynau gorau yw cael hysbysfwrdd ar gyfer dyddiadau cau. Fel arfer, bydd bwrdd yn ystafelloedd preswylfeydd y Brifysgol felly dim ond ysgrifennu rhestr wirio a dechrau gweithio fydd angen i chi eu gwneud, Gallwch brynu hysbysfwrdd os oes un yn eich ystafell. Mae rhai rhad ar gael. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol o ran sut i drefnu eich bwrdd (Dolen 7).
Papur wal

Ffordd wych arall o greu awyrgylch hudolus yn eich ystafell yw defnyddio papurau wal, ond cofiwch na allwch ddifrodi paent eich ystafell neu bydd yn rhaid i chi dalu i ail-baentio'r ystafell. Gwnewch yn siŵr bod y papur wal yn addas i’r paent os ydych am ei ddefnyddio.
Gallwch hefyd wneud eich papur wal y gellir ei dynnu i lawr eich hun (Dyma ganllawiau – dolen 8). Mae angen cryn ymdrech ac amser i wneud hyn ond bydd y canlyniad yn wych.
Tapestrïau

Dewis mwy fforddiadwy na fydd yn difrodi papur wal yw defnyddio tapestri. Gallwch ddod hyd iddynt ym mhob lliw a gyda phatrymau gwahanol. Felly, defnyddiwch eich greddf fel dylunydd i weithio a chael hwyl yn ychwanegu ychydig o liw i'ch ystafell. Dyma ddolen y gallwch ei defnyddio (dolen 9).
Gobenyddion a chlustogau

Mae cael noson dda o gwsg yn hanfodol os ydych eisiau manteisio i’r eithaf ar eich potensial i astudio. Nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ystyried hyn o ddifrif, ac yn yr hirdymor, maen nhw dan ormod o straen ac yn cael problemau canolbwyntio wrth astudio.
Felly, mae’n bwysig bod eich man cysgu yn gyfforddus ac yn atyniadol. Mae gan obenyddion a chlustogau rôl bwysig wrth sicrhau hyn ac, os ydynt y lliw a’r deunydd cywir, gallent ddod yn offer hanfodol wrth addurno eich ystafell. Yma gallwch ddod o hyd i rai lluniau cŵl i gael ysbrydoliaeth (dolen 10).
Ffotograffau

Mae ffotograffau’n cipio eiliad o fywyd am oes. Mae llun yn y bôn yn rhewi amser ac yn ei ddal ar ddarn o bapur. Trwy ffotograffau, gallwch ddod â’r bobl a’r pethau rydych chi’n eu caru i’ch cartref newydd, hyd yn oed os yw’n gartref dros dro. Mae nifer o ffyrdd i drefnu ffotograffau: o fframiau i wal luniau; o’u hongian i’w rhoi ar hysbysfwrdd. Eich dewis chi a’ch dychymyg yw eu trefnu mewn ffordd greadigol. Dyma ddolen gyda syniadau i’ch ysbrydoli (dolen 11).
Mapiau

Ydych chi’n hoffi teithio ac yn dwlu ar y syniad i ymweld â mannau newydd ar draws y byd? Os ydych, mae’n rhaid i chi gael map o’r byd lle gallwch roi pin ar eich hoff lefydd.
Nid oes angen iddo fod yn rhywbeth ffansi o reidrwydd. Gallwch brynu map rhad iawn a’i bersonoli, os yw'r lliw mewn cytgord â threfniant cyffredinol eich ystafell yna mae hyn yn ddelfrydol. Cewch rai syniadau gwych yma (dolen 12).
Posteri, paentiadau a lluniau â llaw

Mae posteri, paentiadau a lluniau â llaw yn ychwanegu rhywbeth personol. Gallwch fod yn greadigol a dechrau cymysgu lliwiau a thechnegau. Mae paentio a thynnu lluniau hefyd yn helpu i leihau lefelau straen.
Dyma rai syniadau ar gyfer lluniau hawdd i’w tynnu â llaw (dolen13)
Canhwyllau/tryledwyr cyrs

Mae canhwyllau a thryledwyr cyrs yn ffordd wych o gadw arogl eich ystafell yn braf. Mae tryledwr cyrs yn opsiwn da oherwydd nad yw’n costio llawer ac nid yw’n beryglus fel canhwyllau.
Sylwer: os ydych yn aros yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd, ni chaniateir i chi gadw canhwyllau yn eich ystafell oherwydd eu perygl o achosi tân.
Cynfasau gwely

Gall dillad gwely lliw drawsnewid awyrgylch ystafell yn llwyr, gall wneud iddi edrych yn fwy tywydd neu olau yn dibynnu ar olau ac amser y dydd. Mae’n hanfodol dewis rhywbeth a fydd yn gyfforddus ac yn hawdd ei olchi. Dyma rai canllawiau ar sut i ddewis y deunydd gorau (dolen 14)
Jariau Mason

Os ydych awydd gwneud rhywfaint o DIY, gallwch greu addurniadau gwych i’ch ystafell/fflat gan ddefnyddio jariau Mason. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw paent a llawer o greadigrwydd. Yma cewch hyd i ffyrdd i ailgylchu eich jariau Mason (dolen 15).
Bag ffa

Mae eistedd mewn bag ffa cyfforddus a gwylio rhywbeth da ar ôl diwrnod blinedig o ddarlithoedd yn swnio'n agos at y diffiniad o hapusrwydd.
Felly beth am brynu bag ffa neu wneud un eich hun? Mae’n swnio’n anodd iawn ond unwaith byddwch yn dysgu, mae’n hwyl. Neu gallwch brynu un ar-lein. Dyma ganllawiau ar greu un eich hun (dolen 16).
Canllawiau Cyffredinol
Os ydych yn byw ym mhreswylfeydd y Brifysgol, gwnewch yn siŵr nad ydych yn difrodi’r paent neu’r dodrefn.
Ni chaniateir canhwyllau mewn neuaddau preswyl oherwydd eu perygl o achosi tân.
Os ydych yn bwriadu prynu goleuadau bach, gwnewch yn siŵr ei bod yn cael eu pweru gan fatris.
Rhaid profi’r holl lampau ac offer electronig i sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio.
Darllenwch gontract eich preswylfa’n ofalus neu siarad ag aelod o’r staff cyn gwneud unrhyw newidiadau i’ch ystafell.
Cyfeirnodau
https://www.society19.com/uk/types-of-fairy-lights-that-set-the-mood-always/
https://www.realsimple.com/home-organizing/organizing/organizing-ideas-drawers
https://www.theorderexpert.com/the-right-way-to-organize-a-bulletin-board/
https://atcharlotteshouse.com/diy-removable-wallpaper-for-renters/
http://blog.royalfurnish.com/17-bedroom-decorating-idea-with-tapestries/
https://www.houzz.co.uk/photos/bedroom-ideas-and-designs-phbr0-bp~t_10188
https://hairsoutofplace.com/2018/06/01/15-unique-photo-wall-art-ideas-for-teens/
https://www.3dexart.com/2017/10/world-map-decor-art-interior-design.html
https://www.thespruce.com/choosing-the-perfect-bedding-color-797822
Topics
- Darllen Nesaf
-
Cwrdd â’r tîm: Cydlynwyr Bywyd Preswyl
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Tal-y-bont
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y De
Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Neuadd y Brifysgol
Fy mhrofiad i o Ogledd Tal-y-bont
Fy mhrofiad i o Lys Cartwright
Byw ar Gampws y De
Byw yn Campws y Gogledd
Fy Mhrofiad Neuadd y Brifysgol
Fy Ngofod Cymdeithasol: Cartwright a Roy Jenkins
- Poblogaidd
-
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Byw cymunedol
Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont
Aros yn ddiogel yng Nghaerdydd – ymarferion pwysig
Beth fydd ei angen arnoch yn y Brifysgol? Rhestr wirio The Complete University I fyfyrwyr rhyngwladol a chartref
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Mynd o Le i Le
Syniadau ar gyfer addurno eich ystafell
Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright
Perlau Cudd Caerdydd