Llety
Tri ffordd o wella ein bywyd
1. DEIET
Nid yn unig y mae cael deiet iachus a chytbwys yn ein cadw’n iach, mae’n gwella sut yr ydym yn teimlo ac yn gwella gweithrediad yr ymennydd. Mae nifer o wahanol fathau o ddeiet. Serch hynny, mae rhai ffeithiau ynghylch sut i fwyta’n iach, sy’n cael eu derbyn gan y rhan fwyaf o bobl:
- Bwyta llawer o ffrwythau a llysiau, mae’r rhain yn ffynonellau da o ffibr.
- Bwyta brasterau iachus megis olew olewydd, cnau, hadau a physgod olewog.
- Dewis bwydydd ffres yn lle bwydydd wedi’u prosesu.
- Defnyddio perlysiau a sbeis, sy’n cynnwys cynhwysion gwrth-llidio.
- Osgoi cynnyrch gyda llawer o siwgr, brasterau trans, carbohydradau ac olew llysiau coeth, sy’n debygol o achosi mwy o lidio.
- Yfed llawer o ddŵr. Mae astudiaethau wedi dangos bod yfed tê hefyd yn gallu gwella eich iechyd.
- Peidio gorfwyta.

Syniadau
Am frecwast, bwytwch bowlen o uwd, gyda mêl o ansawdd uchel, tamaid o bowdr coco organig crai, flaxseed a sinamon, neu smwthi gydag aeronen neu ffrwythau eraill. Gallech hefyd ychwanegu sbeis i’ch smwddi, megis sinsir a thyrmerig, dau sbeis hynod o iachus.
- Sicrhewch eich bod yn cynnwys dogn hael o lysiau gyda’ch prydau o fwyd. Mae dewis eang o lysiau’n bwysig er mwyn buddio o’r wahanol fuddion maent yn cynnig.
- Gallech fwyta cnau, siocled tywyll neu iogwrt Groegaidd am fyrbryd. Mae gan y rhain nifer o fuddion iechyd.
- Gallech ychwanegu llawer o berlysiau a sbeisiau i’ch bwyd er mwyn gwella’r blas ac ychwanegu cynhwysion iachus.
- Gallech fwyta bara graen-holliach neu sourdough yn lle bara gwyn.
- Yn ystod y gaeaf, pan nad oes digon o heulwen i gynhyrchu fitamin D, gallech gymryd fitaminau D atodol.
2. YMARFER CORFF
Mae nifer o bobl y deall fod gan ymarfer corff effaith positif ar ein hiechyd ffisegol, ond y mae hefyd yn fuddiol i’n hiechyd meddyliol. Nid oes angen mynd i’r gampfa er mwyn gwneud ymarfer corff. Mae nifer o ffurf wahanol o wneud ymarfer corff ac mae’n well os ydy’r ffurf yma’n rhan o’ch bywyd dyddiol. Ymysg rhai o’r pethau y gall wneud wahaniaeth ydy: dewis cerdded pryd bynnag y gallem, defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft, dawnsio, chwarae gydag anifeiliaid, seiclo a gwneud ymarferion corfforol gartref. Sicrhewch i wneud y tri phrif fath o ymarfer corff er mwyn gweld y manteision optimaidd (1. Aerobig, fel rhedeg; 2. Gwrthiant, fel gwrthwasgiadau; 3. Ymestyn).

Syniadau
- Defnyddiwch y parciau er mwyn mynd am dro neu i redeg.
- Y ffordd rataf o wneud ymarferion gwrthiant ydy gwneud ymarferion yn defnyddio pwysau’r corff sy’n defnyddio wahanol gyhyrau ond sydd ddim yn gofyn am adnoddau penodol
- Defnyddio adnoddau ar-lein er mwyn esbonio’r hyn y dylech ei wneud.
3. DYSGU IAITH
Mae dysgu iaith yn weithred sy’n gwella gweithrediant yr ymennydd. Mae dysgu iaith newydd yn eich gorfodi i ymarfer eich sgiliau meddwl gan fod gofyn i chi gofio geiriau newydd, deall gramadeg cymhleth, dysgu rheola newydd a chychwyn meddwl trwy iaith wahanol. Mae hyn yn gwella’ch cof, sgiliau datrys problemau ac amlorchwyl. Trwy ddysgu iaith, gallech wella’ch dealltwriaeth o’ch iaith gyntaf trwy fedru cymharu’r ddwy. Mae ymchwil yn dangos y gall dysgu iaith newydd ohirio anhwylderau yn ymwneud â’r ymennydd, megis Alzheimer’s. Yn ogystal, mae’n edrych yn wych ar eich CV, mae’n hwyluso’r broses o deithio ac yn caniatáu i chi ddeall mwy am ddiwylliannau eraill. Nid yn unig y byddech yn medru cysylltu gyda phobl eraill a chreu ffrindiau am oes, gallech wylio’r newyddion, fideos a darllen llyfrau sydd ddim ar gael yn eich mamiaith.

Syniadau
- Manteisiwch o’r cyrsiau Ieithoedd i Bawb mae’r brifysgol yn cynnig am ddim. Gallech ddewis gwneud sesiynau wythnosol neu gwrs dwys. Mae dewis eang o ieithoedd a lefelau ar gael.
- Gallech gychwyn defnyddio ap cyfnewid ieithoedd (megis Tandem) sy’n caniatau i chi ymarfer eich iaith a chymdeithasu ar yr un pryd.
- Darllen Nesaf
-
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Pump Ffordd i Ymlacio
Lliwiau a Lles
Tri ffordd o wella ein bywyd
Canllaw Campws y De
Gogledd Talybont Preswylfeydd
Canllaw i breswylwyr newydd De Talybont a Llys Talybont
Canllaw Campws y Gogledd i breswylwyr newydd
Canllaw Llys Cartwright
Beth yw’r pethau gorau am fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd?
- Poblogaidd
-
Ble y dylid prynu eitemau hanfodol
Aros yn ddiogel mewn preswylfeydd gyda COVID
Sut i Wneud Ffrindiau yn y Brifysgol
Canllaw Llys Cartwright
Sut i...lanhau eich fflat
Ryseitiau dau gynhwysyn
Sut i...olchi dillad
Pethau i'w cofio mewn neuaddau
Cefnogaeth y tu allan i’r Brifysgol
Sut i ddefnyddio...Next Bike