By
Lauren RLC
Posted 1 day ago
Thu 07 Aug, 2025 12:08 AM
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'n llety.
Mae'r flwyddyn academaidd newydd yn agosáu'n gyflym! Mae amseroedd cyrraedd yn ymestyn dros bum diwrnod, Dydd Mercher 17eg Medi i Dydd Sul 21ain Medi. Mae hyn i helpu i reoli cyrhaeddiad pawb, traffig hawdd a sicrhau bod eich broses symud-i-fynd cymaint â phosib yn ddi-stress.
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig ystafell a chwblhau eich cyflwyniad ar-lein ar gyfer preswylfeydd, fyddwch yn gallu ymchwilio i gysylltiad cyrraedd. Bydd y system archebu ar agor rhwng 2il a 14eg Medi.
Byddwch yn gallu archebu slot cyrhaeddiad hwyr i gyrraedd rhwng dydd Llun 22ain a dydd Gwener 26ain Medi. Bydd ceisiadau i gyrraedd ar ôl 26ain Medi yn cael eu hystyried ar sail unigol felly gwnewch yn siŵr i e-bostio residences@cardiff.ac.uk i ofyn am hyn.
Pryd?
Dylech gyrraedd o fewn eich slot a archebwyd ymlaen llaw. Bydd slotiau ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol: Dydd Mercher 17fed - Dydd Sadwrn 20fed: 10yb i 5yp a Dydd Sul 21ain: 10yb - 1yp.
Ble?
Canolfan Gymdeithasol Tal-y-bont yng Ngogledd Tal-y-bont. Defnyddiwch god post CF14 3AT ar gyfer cyfeiriad teclyn llywio lloeren.
Ble gallwn i barcio?
Ar eich cyrraedd Gogledd Tal-y-bont, byddwch yn cael eich cyfeirio at le parcio dros dro tra y byddwch yn casglu eich allwedd o Ganolfan Gymdeithasol Tal-y-bont; mae hyn wedi ei gyfyngu i un car fesul myfyriwr. Wedyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at gyfleusterau parcio dros dro eraill ar y safle i ddadlwytho.
Byddwch yn derbyn trwydded i ddangos ar eich gwydr blaen trwy e-bost ond bydd mwy ar gael ar y diwrnod. Yn anffodus, gallwn ond ganiatáu 45 munud i ddadlwytho eich cerbyd oherwydd cyfyngiadau parcio a'r nifer o bobl sy'n cyrraedd. Ar ôl dadlwytho, mae maes parcio talu ac arddangos agosaf ar Heol y Gogledd - tua 20 munud o gerdded.
Pryd?
Dylech gyrraedd o fewn eich slot a archebwyd ymlaen llaw. Bydd slotiau ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol: Dydd Mercher 17fed - Dydd Sadwrn 20fed: 10yb i 5yp a Dydd Sul 21ain: 10yb - 1yp.
Ble?
Derbynfa Llys Tal-y-bont yn Ne Tal-y-bont. Defnyddiwch god post CF14 3UA ar gyfer cyfeiriad teclyn llywio lloeren.
Ble gallwn i barcio?
Ar eich cyrraedd Llys Tal-y-bont, byddwch yn cael eich cyfeirio at le parcio dros dro tra y byddwch yn casglu eich allwedd o Ganolfan Gymdeithasol Tal-y-bont; mae hyn wedi ei gyfyngu i un car fesul myfyriwr. Wedyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at gyfleusterau parcio dros dro eraill ar y safle i ddadlwytho.
Byddwch yn derbyn trwydded i ddangos ar eich gwydr blaen trwy e-bost ond bydd mwy ar gael ar y diwrnod. Yn anffodus, gallwn ond ganiatáu 45 munud i ddadlwytho eich cerbyd oherwydd cyfyngiadau parcio a'r nifer o bobl sy'n cyrraedd. Ar ôl dadlwytho, mae maes parcio talu ac arddangos agosaf ar Heol y Gogledd - tua 15 munud o gerdded.
Pryd?
Dylech gyrraedd o fewn eich slot a archebwyd ymlaen llaw. Bydd slotiau ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol: Dydd Mercher 17fed - Dydd Sadwrn 20fed: 10yb i 5yp a Dydd Sul 21ain: 10yb - 1yp.
Ble?
Y Lolfa Gymdeithasol yn Neuadd y Brifysgol. Defnyddiwch god post CF23 5YB ar gyfer cyfeiriad teclyn llywio lloeren.
Ble gallwn i barcio?
Ar eich cyrraedd Neuadd y Brifysgol, casglwch eich allwedd o'r Lolfa Gymdeithasol. Wedyn, byddwch yn cael cyfeirio at fannau parcio dros dro eraill y safle i ddadlwytho; mae hyn wedi ei gyfyngu i un car fesul myfyriwr.
Byddwch yn derbyn trwydded i ddangos ar eich gwydr blaen trwy e-bost ond bydd mwy ar gael ar y diwrnod. Yn anffodus, gallwn ond ganiatáu 45 munud i ddadlwytho eich cerbyd oherwydd cyfyngiadau parcio a'r nifer o bobl sy'n cyrraedd. Ar ôl dadlwytho, mae mannau parcio ar y stryd ar gael yn yr ardal breswyl leol. Gwiriwch arwyddion parcio am gyfyngiadau.
Pryd?
Dylech gyrraedd o fewn eich slot a archebwyd ymlaen llaw. Bydd slotiau ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol: Dydd Mercher 17fed - Dydd Sadwrn 20fed: 10yb i 5yp a Dydd Sul 21ain: 10yb - 1yp.
Ble?
Derbynfa Neuadd Aberdâr ar Heol Corbett. Defnyddiwch god post CF10 3UP ar gyfer cyfeiriad teclyn llywio lloeren.
Ble gallwn i barcio?
- Neuadd Hodge - Mae parcio ar gael y safle ac mae'n gyfyngedig i un car fesul myfyriwr. Byddwch yn derbyn caniatâd i'w ddangos ar eich wyneb-sgrin gwynt trwy e-bost ond bydd mwy ar gael hefyd ar y diwrnod. Yn anffodus, gallwn ganiatáu 45 munud yn unig i ddalwytho eich cerbyd oherwydd cyfyngiadau parcio a faint o bobl sy'n cyrraedd. Ar ôl dadlwytho, gallwch barcio yn y maes parcio talu ac arddangos agosaf ar Heol y Gogledd - tua 10 munud o gerdded.
- Neuadd Aberconway, Neuadd Aberdâr, Neuadd Colum a Thai Myfyrwyr (Heol/Plas Colum) - Yn anffodus, nid oes mannau parcio ar gael yn y Brifysgol. Mae nifer cyfyngedig o fannau parcio ar gael y stryd, ac mae wardeniaid traffig yn patrolio'r stryd yn rheolaidd felly dylech ddadlwytho mor gyflym â phosibl a gwneud yn siŵr bod rhywun yn aros gyda'r cerbyd bob amser wrth ddadlwytho. Sylwer na chaniateir parcio yn Sgwâr y Frenhines Anne. Ar ôl ddadlwytho, gallwch barcio yn y maes parcio Talu ac Arddangos agosaf sydd ar Heol y Gogledd.
Pryd?
Dylech gyrraedd o fewn eich slot a archebwyd ymlaen llaw. Bydd slotiau ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol: Dydd Mercher 17fed - Dydd Sadwrn 20fed: 10yb i 3yp a Dydd Sul 21ain: 10yb - 1yp.
Ble?
Derbynfa Llys Cartwright ar Stryd Daviot. Defnyddiwch god post CF24 4SS ar gyfer cyfeiriad teclyn llywio lloeren.
Ble gallwn i barcio?
Mae parcio ar y safle ar gael ar gyfer dadlwytho yn y ddau, Llys Cartwright a Neuadd Roy Jenkins, mae hyn wedi'u cyfyngu i un car fesul myfyriwr.
Byddwch yn derbyn caniatâd i'w ddangos ar eich wyneb-sgrin gwynt trwy e-bost ond bydd mwy ar gael hefyd ar y diwrnod. Yn anffodus, gallwn ganiatáu 45 munud yn unig i ddalwytho eich cerbyd oherwydd cyfyngiadau parcio a faint o bobl sy'n cyrraedd. Ar ôl dadlwytho, mae mannau parcio ar y stryd ar gael yn yr ardal breswyl leol. Gwiriwch arwyddion parcio am gyfyngiadau.
Pryd?
Dylech gyrraedd o fewn eich slot a archebwyd ymlaen llaw. Bydd slotiau ar gael yn ystod y cyfnodau canlynol: Dydd Mercher 17fed - Dydd Sadwrn 20fed: 10yb i 5yp a Dydd Sul 21ain: 10yb - 1yp.
Ble?
Derbynfa Llys Senghennydd ar Heol Salisbury. Defnyddiwch god post CF24 4DS ar gyfer cyfeiriad teclyn llywio lloeren.
Ble gallwn i barcio?
Ar ôl cyrraedd Llys Senghennydd, byddwch yn cael eich cyfeirio at le parcio dros dro tra y byddwch yn casglu eich allwedd o'r Dderbynfa; mae hyn wedi ei gyfyngu i un car fesul myfyriwr.
- Llys/Neuadd Senghennydd a Neuadd Gordon - Byddwch yn cael eich cyfeirio at gyfleusterau parcio dros dro eraill ar y safle i ddadlwytho. Byddwch yn derbyn caniatâd i'w ddangos ar eich wyneb-sgrin gwynt trwy e-bost ond bydd mwy ar gael hefyd ar y diwrnod. Yn anffodus, gallwn ganiatau 45 munud un unig i ddadlwytho eich cerbyd oherwydd cyfyngiadau parcio a faint o bobl sy'n cyrraedd. Ar ôl dadlwytho, gellir parcio yn y maes parcio aml-lawr cyhoeddus ym Mhlas Dumfries.
- Tai Pentref Myfyrwyr - Yn anffodus, nid oes mannau parcio ar gael yn y Brifysgol. Mae nifer cyfyngedig o fannau parcio ar gael ar y stryd, ac mae wardeniaid traffig yn patrolio'r stryd yn rheolaidd felly dylech ddadlwytho mor gyflym â phosibl a gwneud yn siŵr bod rhywun yn aros gyda'r cerbyd bob amser wrth ddadlwytho. Ar ôl dadlwytho, gellir parcio yn y maes parcio aml-lawr cyhoeddus ym Mhlas Dumfries.
Os dych chi'n cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus:
Os byddwch yn cyrraedd gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, neu ar fws:
Tacsi - Gallwch gael gafael ar dacsi yn rhwydd o'r safle tacsis y tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Os byddwch yn cyrraedd ar fws ac yn methu dod o hyd i dacsi, 02920 333 333 yw rhif o'r cwmnïau tacsis lleol. Bydd y rhain yn costio oddeutu £10, gan ddibynnu ar y pellter a faint o fagiau sydd gennych.
Bws - Mae nifer o lwybrau bysiau yn rhedeg o ganol dinas Caerdydd, sy'n aros gerllaw neuaddau preswyl. I gael rhagor wybodaeth ac amserlenni, ewch i'r dudalen we ganlynol: https://www.cardiffbus.com/