By
Lauren RLC
Posted 3 years ago
Tue 15 Sep, 2020 12:09 PM
Ble y gallaf gasglu fy ngherdyn myfyriwr?
Gellir casglu'r Cerdyn Myfyriwr o Ganolfan Bywyd y Myfyriwyr. Mae hwn wedi'i leoli ar Blas y Parc, Caerdydd, CF10 3BB. Cymerwch yr holl ddogfennau gofynnol megis eich cynnig diamod, tystiolaeth eich bod wedi ymrestru ac ati. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl gan y bydd angen eich cerdyn myfyriwr i gael mynediad at y rhan fwyaf, os nad pob un, o adeiladau'r brifysgol. Edrychwch ar fwy o wybodaeth yma.
Sut ydw i'n cofrestru gyda Meddyg Teulu?
Gallwch chi gofrestru nawr ar gyfer meddyg teulu ar-lein neu ymchwilio i'r meddygfeydd sy'n lleol i chi a gweld a fydd yn eich galluogi chi orau. Darganfod sut i gofrestru ar-lein yma.
Sut i agor Cyfrif Banc Myfyriwr?
Nid yw cyfrifon banc myfyrwyr yn orfodol, ond maen nhw'n cynnig manteision. Mae'n well ymchwilio i'r gwahanol gyfrifon banc myfyrwyr sydd ar gael i weld pa un sy'n iawn i chi - mae rhai'n gallu cael eu sefydlu ar-lein a bydd rhai'n gofyn i chi fynd i gangen yn gorfforol. Mae gofynion gwahanol ar gyfer myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Am wybodaeth fanylach am sefydlu cyfrif banc myfyrwyr, ewch yma.
Sut ydw i'n cysylltu dyfeisiau â rhwydwaith Wi-Fi'r Brifysgol?
Ar gyfer dyfeisiau fel ffonau symudol a gliniaduron, bydd angen i chi ar fwrdd eich dyfeisiau yn gyntaf. Ar ôl i chi wneud hyn, bydd eich dyfeisiau'n gallu cysylltu ag Eduroam. Gallwch wybodaeth fanwl am sut i wneud hyn yma.
I gysylltu dyfais nad yw'n liniadur, tabled neu ffôn clyfar i'r WiFi o breswylfeydd y Brifysgol, bydd angen i chi ddefnyddio rhwydwaith CU-PSK. Bydd hyn yn caniatáu ichi gysylltu dyfeisiau di-wifr (e.e. consolau gemau, siaradwyr craff ac ati), lle nad yw'n bosibl cysylltu gan ddefnyddio cyfuniad enw defnyddiwr/cyfrinair i'r rhwydwaith di-wifr o breswylfeydd y Brifysgol. Am gyfarwyddiadau manwl, ewch yma.
Lle gallaf gwrdd â phobl newydd?
Mae'r Tîm Bywyd Preswyl yn cynnal digwyddiadau ar y safle ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yn yr un llety fel y gallant ddod a chwrdd ag eraill. Rydym yn gweini coffi, te, bisgedi ac ati, i gyd yn rhad ac am ddim. Os nad ydych yn brysur a hoffech gwrdd â phobl newydd, dewch i fan cymdeithasol eich llety! Mae ymuno â chymdeithasau yn ffordd newydd arall o gwrdd â phobl, yn enwedig pobl sydd â diddordebau tebyg. Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr ac ewch ati i chwilio am gymdeithasau y byddech yn hoffi ymuno â nhw.
Sut y gallaf deithio o gwmpas y Campws?
Os nid cerdded yw eich dewis o ran teithio o gwmpas, nid yw hynny' broblem. Mae OVO Bikes yn wych i fyfyrwyr gan fod digonedd o ddociau beiciau o gwmpas. Pan rydych yn cofrestru â nhw, rydych yn cael 30 munud cyntaf o bob dydd yn rhad ac am ddim! Opsiwn arall byddai defnyddio bysiau lleol. Rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho ap Cardiff Bus i gael llwybrau ac amserlenni bysiau. Os rydych yn byw mewn Neuadd y Brifysgol, mae gennych fynediad at fws sy'n codi pobl yno ac sy'n gollwng pobl mewn sawl lleoliad gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr, Adeiladau’r Frenhines, Ysgol Newyddiaduraeth, ac ati.
Beth i'w wneud yn ystod pythefnos cyntaf y brifysgol?
Yn ystod yr wythnosau cyntaf o symud i Gaerdydd, bydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnal llawer o ddigwyddiadau. Mae Cyfnod Glas Caerdydd yn dechrau ac mae llawer mwy yn ei ddilyn. I gael rhagor o wybodaeth am ba ddigwyddiadau a gynhelir, ble a phryd, ewch i https://www.cardiffstudents.com/. Mae'r wythnosau cyntaf hefyd yn berffaith i ymuno â chymdeithasau. Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr i chwilio am gymdeithasau sydd o ddiddordeb i chi.
Rwyf wedi colli fy allwedd/cerdyn i fy ystafell. Beth ddylwn ei wneud?
Ymdrinnir â cholli allwedd a cherdyn yn wahanol. Ewch at dderbynfa eich llety a rhowch wybod iddynt. Os collir allwedd, y gost am allwedd newydd yw £20 gan gynnwys £10 am gloi eich hun allan. Ar gyfer cerdyn ystafell a gollwyd, y gost yw £10 gan gynnwys £10 am gloi eich hun allan. Os bydd hyn yn digwydd allan o oriau agor y Dderbynfa, ffoniwch Diogelwch ar +442920874444.
Mae pobl yn bod yn swnllyd yn hwyr yn y nos, beth ddylwn i ei wneud?
Os bydd rhywun yn bod yn swnllyd rhwng 11 PM a 7 AM ffoniwch y swyddogion diogelwch bob amser. +442920874444 yw eu rhif. Byddant yn mynd ac yn gofyn i bobl barchu eu cymdogion.