By
Lauren RLC
Posted 23 hours ago
Mon 02 Mar, 2026 12:03 AM
Bydd yr Intern Partneriaethau a Marchnata Bywyd Preswyl yn cynnal ac yn ehangu rhwydwaith partneriaeth allanol y Tîm Bywyd Preswyl i wneud yn siŵr y bydd gan fyfyrwyr sy'n dod i mewn i flwyddyn academaidd 26/27 fynediad at nwyddau am ddim, cynigion a chyfleoedd i edrych ar fusnesau lleol ein cymuned amrywiol a lleol yng Nghaerdydd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gysylltu a thrafod â chwmnïau allanol ar ran y Tîm Bywyd Preswyl i sicrhau cefnogaeth a gwybodaeth am ein gwasanaeth ac i gynllunio digwyddiadau ar gyfer yr Wythnos Gyntaf ac Wythnos y Glas sy'n tynnu sylw at werthwyr lleol, yn cynrychioli profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac yn arddangos y gymuned Bywyd Preswyl sydd dan arweiniad myfyrwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio gyda'r Tîm Bywyd Preswyl i ddatblygu cynnwys hanfodol ar y cyfryngau digidol, gan chwarae rhan allweddol wrth weithredu a hysbysebu rhaglen ddigwyddiadau'r Tîm Bywyd Preswyl.
Mae dyletswyddau/tasgau penodol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Nodi a dod o hyd i gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth sy'n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd y Tîm Bywyd Preswyl.
- Ymchwilio i bartneriaid, nodi chwaraewyr allweddol a chreu diddordeb.
- Cysylltu a thrafod â phartneriaid, a phenderfynu’n derfynol ar delerau gyda nhw, gyda chymorth ac arweiniad staff y Tîm Bywyd Preswyl.
- Sicrhau bod gwerthoedd a phrofiad partneriaid yn cyd-fynd â gwerthoedd y Tîm Bywyd Preswyl.
- Cynnal a datblygu perthynas barhaus â phartneriaid presennol a newydd.
- Gwerthuso a chydlynu'r gefnogaeth gan y partneriaid hyn ar gyfer digwyddiadau Bywyd Preswyl.
- Datblygu a chreu cynnwys fideo/cyfryngau, a hynny’n unol ag amcanion y Tîm Bywyd Preswyl.
- Sicrhau bod yr holl ddyletswyddau’n cael eu cyflawni’n unol â’r arweiniad gan y Tîm Bywyd Preswyl a'r holl bolisïau a gweithdrefnau.
Dyletswyddau Cyffredinol:
- Cysylltu â gwasanaethau a phartneriaid eraill i sicrhau negeseuon cyson.
- Ymgyfarwyddo â holl ddigwyddiadau a gweithgareddau’r Tîm Bywyd Preswyl.
- Gweithio gyda’r Cynorthwywyr Bywyd Preswyl a gwirfoddolwyr i sicrhau’r canlyniadau dymunol.
Dyma gyfle gwych i fyfyriwr sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn un o’r meysydd canlynol:
- Busnes
- Rheoli
- Marchnata
- Newyddiaduraeth
- Ffilm/Teledu
- Cefnogi Myfyrwyr
- Y prif weithgareddau/tasgau arferol
- Cyfrifoldebau
- Deilliannau disgwyliedig
Sgiliau sydd eu hangen
Sgiliau Hanfodol:
- Profiad o gyflawni rôl allgymorth yn flaenorol
- Sgiliau cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar) a sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Meddwl strategol
- Y gallu i rwydweithio
- Sgiliau amldasgio gwych
- Sylw i fanylion
- Sgiliau trafod cryf
- Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol
- Diddordeb cryf mewn creu cynnwys ac ysgrifennu.
- Sgiliau cyfrifiadurol a llythrennedd rhagorol (pob meddalwedd Microsoft)
- Sensitifrwydd a rhywfaint o wybodaeth am y materion lles y mae myfyrwyr yn eu hwynebu
- Addasadwy, rhagweithiol a’r gallu i weithio’n gadarnhaol mewn tîm
Sgiliau dymunol:
- Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith eich hun yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnyn nhw.
- Y gallu i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau gan sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau ac arferion safonol
- Hyder wrth ddefnyddio rhaglenni i olygu fideos
- Gwybodaeth am reoli’r cyfryngau cymdeithasol
- Gwybodaeth am Safonau’r Gymraeg Prifysgol Caerdydd
- Yn medru siarad Gymraeg
Yr hyn y byddwch chi’n ei ennill
- Gwella eich CV
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa cyflym, deinamig a phroffesiynol
- Cyfle i feithrin partneriaethau proffesiynol yn y gymuned
- Cyfle i fynegi a mireinio ei greadigrwydd
- Cyfle i gefnogi cyd-fyfyrwyr a chael effaith barhaol
- Mynediad i'r holl hyfforddiant sydd ar gael yn ystod yr interniaeth
- Cyfle i wneud cais i fod yn Gynorthwyydd Bywyd Preswyl
- Geirda proffesiynol
- Preswylfa Bywyd Preswyl ac Interniaeth Marchnata 2025
Gwybodaeth Hanfodol
Gweithle – Swyddfa Bywyd Preswyl
Cyfeiriad llawn y lleoliad gwaith – Canolfan Gymdeithasol Tal-y-bont, Bevan Place, Caerdydd, CF14 3UX
Oriau yr wythnos – 12-15, ond yn hyblyg
Hyd/cyfanswm yr oriau – 70 awr, hyblyg rhwng Mehefin ac Awst 2026
Cyfradd fesul awr – £13.45
Meini prawf cymhwyso
● Nid ydych chi’n gymwys i wneud cais am interniaeth ar y campws os ydych chi wedi ymgymryd ag un o’r blaen.
● Dim ond un interniaeth ar y campws y gallwch chi ymgymryd â hi bob blwyddyn, hyd yn oed os yw’r interniaethau mewn gwahanol feysydd.
● Mae interniaethau gwasanaethau proffesiynol ar y campws yn agored i bob myfyriwr presennol.
● Gallwch wneud cais am hyd at 5 o interniaethau o fewn y cynllun
Y Cam Nesa
Byddwn ni’n cysylltu â chi ar ôl y dyddiad cau: 22.03.26
Cynhelir cyfweliadau yng nghanol mis Ebrill 2026
Disgwylir mai’r dyddiad dechrau fydd 15.06.26
Dyddiad cau: 22.03.26 – Os bydd digon o geisiadau wedi dod i law, rydyn ni’n cadw’r hawl i gau’r cyfle’n gynnar
Ceisiwch yma: Interniaeth Partneriaethau a Marchnata Bywyd Preswyl