By
Lauren RLC
Posted 3 years ago
Thu 17 Sep, 2020 12:09 PM
Yn dod i ddinas newydd efallai nad ydych chi'n gwybod o ble i gael yr holl hanfodion o... felly rydyn ni wedi rhoi rhestr at ei gilydd gyda phopeth fydd ei angen arnoch.
Cynhyrchion glanhau: gallwch ddod o hyd i lieiniau glanhau, sbyngau, menig a chynhyrchion gwahanol yn rhad yn Poundland neu Lidl, a gallwch ddod o hyd iddynt yn ehangach yn yr archfarchnadoedd mawr megis Tesco, Sainsbury's a Marks & Spencers.
Pethau ymolchi/gofal croen/colur: yn ddibynnol ar beth sydd ei angen arnoch, gallwch ddod o hyd i’r rhain mewn archfarchnadoedd arferol. Fodd bynnag, gellir dod o hyd i amrywiaeth well a hefyd, fel arfer, pris llai yn Boots neu Superdrug yng Nghanol y Ddinas a Heol Albany.
Eitemau ar gyfer yr ystafell wely/cegin: Mae'r daith yn ystod Wythnos y Glas i Ikea ym Mae Caerdydd bron yn hollbwysig, ac ar y cyfan dylech allu dod o hyd i bopeth y gall fod ei angen arnoch yno - o blanhigion cartref i gyllyll a ffyrc a lampau. Os ydych yn mynd i Ikea, sicrhewch eich bod yn cymryd un neu ddau fag glas mawr eiconig. Bydd y cyntaf yn amhrisiadwy am olchi dillad ac am symud allan yn ddiweddarach, ac maent yn gadarn iawn.
Cynfasau/dillad gwlâu/clustogau: gallwch gael y rhain o Ikea hefyd, neu'n agosach at y neuaddau preswyl ym Matalan a Primark yng Nghanol y Ddinas. Hefyd, gallwch brynu pecyn dillad gwely llawn sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch o Breswylfeydd y Brifysgol, a bydd yn barod i chi yn eich ystafell pan fyddwch yn cyrraedd.
Llyfrau nodiadau/offer ysgrifennu: er y gallwch ddod o hyd i'r rhain yn yr archfarchnad, syniad a brofwyd yn fwy yw edrych mewn siopau yn y ddinas, megis WHSmith, The Works, Paperchase a Typo. Hefyd, mae Blackwells yn Undeb y Myfyrwyr lle gallwch ddod o hyd i rai gwerslyfrau.