Mynd am Dro i Lawr Stryd y Castell

Posted 1 year ago

Cofroddion, byrbrydau a diwrnod allan gwych.

Nid bod yn gartref i Gastell eiconig Caerdydd (mae’r cliw yn yr enw!) yw'r cyfan sydd gan y stryd bert hon i'w gynnig. Dyma un o'r prif strydoedd yng Nghanol Dinas Caerdydd, byddwn yn dangos y lleoedd gorau i chi ar Stryd y Castell i fynd i siopa, i gael bwyd a chael hwyl!

Ble i Siopa

Agwedd unigryw ar Stryd y Castell yw'r amrywiaeth o siopau anrhegion Cymreig — gallwch ddewis o blith Great Welsh Gifts, Historical Wales a Castle Welsh Crafts! Er y gallwch gael digonedd o bethau da ar thema Gymreig gan Great Welsh Gifts a Historical Wales, mae Castle Welsh Crafts yn cynnig anrhegion ychwanegol sef llwyau caru a wnaed â llaw. Llwyau wedi'i cherfio o bren yw llwyau caru ac yn draddodiadol byddan nhw’n eu rhoi fel anrheg yng Nghymru, arwydd perffaith o gariad hyd yn oed heddiw! Mae Crefftau Cymreig y Castell yn gwerthu llwyau caru sy'n addas i bawb neu i bob achlysur, sy'n golygu bod rhywbeth i bwy bynnag sydd gennych mewn golwg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y siopau anrhegion Cymreig eraill hefyd — mae eitemau â thema Gymreig yn gwneud cofroddion gwych i aelodau'r teulu!

Mae Stryd y Castell hefyd yn gartref i arcêd hardd, Arcêd y Castell, sydd â digonedd o fusnesau bach i bori ynddyn nhw. Fy ffefryn personol yw Tropigaz, siop blanhigion sy'n llawn cymeriad a phlanhigion suddlon rhyfeddol, blodau a hanfodion gofal planhigion. Yn bendant, dylech chi ymweld â hi os oes gennych fysedd gwyrdd!

Os oes mwy o angen siop gyfleustra arnoch chi, mae yna Nisa Local a Spar hefyd yn y stryd hon, sy'n golygu ei fod yn ateb eich holl anghenion siopa.

Lleoedd Bwyta

Er nad oes cymaint o fwytai yno, mae yna ychydig o fannau gwych i fwyta ynddyn nhw ar Stryd y Castell os ydych chi'n digwydd bod yn pasio drwy’r stryd. Mae'r rhan fwyaf o'r bwytai yn berffaith os ydych chi'n chwilio am damaid ysgafn - mae Caffe Nero ar gyfer pobl sy'n hoff o goffi, y popty Portiwgeaidd Nata and Co. ar gyfer teisennau a chacennau blasus a Palet ar gornel y stryd ar gyfer amrywiaeth o ddanteithion amser cinio, o frechdanau wedi'u tostio i wafflau. Byddai Stryd y Castell yn lleoliad delfrydol i dreulio amser cinio neu i gael byrbryd gyda ffrindiau — mae digonedd o leoliadau gwych i ddewis o'u plith!

Os ydych chi ag awydd am bryd mwy o fwyd, rhowch gynnig ar Elevens Bar and Grill. Yn berffaith ar gyfer pobl sy'n hoff o chwaraeon, maen nhw'n gwerthu detholiad blasus o bitsa, adenydd, byrgyrs a sglodion budr a fydd yn tynnu dŵr i’ch dannedd wrth i chi wylio chwaraeon byw. Mae'r holl gêmau rygbi pwysig yn cael eu dangos ar y sgrîn yn Elevens, felly byddai'n fan perffaith i wylio'r gêm!

Pethau i'w Gwneud

Mae'r prif beth i'w wneud ar Stryd y Castell yn weddol amlwg... ewch i Gastell Caerdydd! Mae'n hawdd dod o hyd iddo ac i’w weld o unrhyw le ar y stryd, mae'r castell yn cynnig tocynnau rhatach i fyfyrwyr ac mae'n lleoliad perffaith ar gyfer taith undydd. Er bod tocynnau yn £12.50, ychydig yn ddrud i rai, mae'n llawn hanes pwysig ac arteffactau diddorol i chi eu harchwilio. Gallwch hefyd gael mynediad i'r Sgwâr Cyhoeddus, lawnt allanol hardd y castell, am ddim! Dyma'r lle perffaith i dorheulo a darllen llyfr da neu i gymdeithasu, yn enwedig mewn tywydd cynhesach!

Cynhelir digwyddiadau yn aml ar diroedd Castell Caerdydd, sydd hefyd yn llawer o hwyl — mae sinema awyr agored, partïon a gorymdeithiau a hyd yn oed cyngherddau i artistiaid poblogaidd fel Michael Bublé a Lewis Capaldi. Os ydych chi'n chwilio am hwyl ar Stryd y Castell, y castell yw'r prif le y dylech fynd i fforio!

Nawr eich bod chi'n gyfarwydd â beth i'w ddisgwyl ar Stryd y Castell, byddwch chi'n gwybod yn union ble i gael cofroddion, byrbrydau a diwrnod allan gwych. Mwynhewch!