Llwybrau rhedeg Caerdydd

Posted 3 years ago

Dyma rai o’r llwybrau rhedeg mwyaf cyffredin

Mae Caerdydd yn ffodus bod ganddi barciau a llwybrau rhedeg gwych. Mae gan y parciau goed degawdau a chanrifoedd oed â thiroedd gwyrdd helaeth.

Dyma rai o’r llwybrau rhedeg mwyaf cyffredin.

graphical user interface, application

Llwybrau rhedeg gorau Caerdydd:

Dyma rai o’r llwybrau rhedeg gorau a argymhellwyd gan redwyr o Gaerdydd a’r cyffiniau:

1. CAEAU LLANDAF – 2.5k

Er bod Caeau Llandaf yn fach iawn, mae’n cynnig llwybr rhedeg cyflym gwych. Mae llawer o redwyr yn defnyddio’r parc ar gyfer hyfforddiant ysbeidiol oherwydd bod modd mesur un filltir yn hawdd gyda’r meinciau. Gellir defnyddio’r parc hwn ar gyfer rhediadau cyflym a chael golygfeydd braf o bobl yn chwarae criced yn yr haf.

a tree in a park

Uchder: Mae’r llwybr i gyd yn wastad, felly mae’n berffaith ar gyfer rhedwyr newydd sydd eisiau rhediad hawdd.

Oddi ar yr heol: Palmant yw’r llwybr i gyd, felly mae’n dda ar gyfer diwrnodau glawiog lle mae’r llawr yn wlyb.

Cit angenrheidiol: Nid oes angen cit penodol; mae esgidiau rhedeg sylfaenol sy’n amsugno sioc yn iawn.

Y golygfeydd: Mae’r parc hwn yn enwog am ei lwybrau â choed uchel bob ochr iddynt. Er ei fod yn fach iawn, mae’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda.

Lle i ddau?: Ar y cyfan, mae'r llwybr yn ddigon llydan i ddau redwr, ond gwyliwch allan ar ddydd Sadwrn a dydd Sul wrth i'r parc fynd yn brysur iawn gyda llawer o gemau rygbi, pêl-droed a chriced.

Chwys ffactor: Ddim yn uchel iawn. Mae’r llwybr hwn yn hawdd iawn oherwydd y tir gwastad, ac mae’n fwy addas i redwr newydd yn hytrach na rhedwr hynod ffit sy’n rhedeg pellteroedd hir.

Ar ôl rhedeg: Mae Café Castan yn boblogaidd iawn gyda phobl leol, ac rydych yn gweld llawer o redwyr yn mwynhau diod gynnes ar ôl rhedeg drwy gydol y dydd.

Yn gyffredinol: 6.5/10

2. PARC Y RHATH – 5K

Mae sawl rhedwr wedi argymell Parc y Rhath oherwydd mai dyma’r lle perffaith i gwblhau 5k. Dyma un o’r hoff lefydd i fynd i redeg yng Nghaerdydd oherwydd ei fod yn un o'r lleoedd mwyaf hygyrch i redeg ac mae wedi'i balmantu'n dda.

map

Uchder: Mae’r llwybr yn eithaf gwastad ac yn berffaith i redwr newydd. Mae bryn bach i’w ddringo ar ochr ddwyreiniol y parc, er bod y llwybr yn wyntog ac yn codi ac yn cwympo'n gyflym.

Oddi ar yr heol: Palmant yw’r llwybr i gyd, felly mae’n lle da i redeg ar ddiwrnodau glawiog lle mae’r llawr yn wlyb.

Cit angenrheidiol: Mae’r llwybr yn eithaf agored felly gwisgwch yn gynnes os yw hi’n wyntog. Mae esgidiau rhedeg sylfaenol sy’n amsugno sioc yn iawn.

Y golygfeydd: Nid yw’r llwybr yn mynd yn rhy brysur er ei fod yn boblogaidd gyda rhedwyr. Mae’r golygfeydd yn wych ac mae’r llwybr o gwmpas y llyn, sydd fel arfer yn llawn hwyaid, yn arbennig o bleserus wrth i’r haul godi neu fachlud.

Lle i ddau?: Ar y cyfan, mae’r llwybr yn ddigon llydan i ddau redwr – gallwch redeg gyda ffrind.

Chwys ffactor: Nid yw’r llwybr yn heriol iawn ac felly mae’n fwy addas i redwr newydd yn hytrach na rhedwr hynod ffit.

Ar ôl rhedeg: Mae sawl caffi ar hyd y llwybr i unrhyw un sy’n cael trafferthion, yn ogystal â llu o fariau, tafarnau a bwytai gerllaw i’r sawl sy’n gobeithio am hoe haeddiannol iawn ar y diwedd.

Sgôr gyffredinol: 9/10

3. PARC BUTE – 7k

Mae Parc Bute, yng nghanol prifddinas Cymru, yn rhywle gwych i redwyr hyfforddi. Mae’r llwybrau yn y parc yn eithaf gwastad heb fryniau mawr, ond byddwch yn ofalus pan ei bod hi wedi bwrw glaw oherwydd bod rhai rhannau’n gallu mynd yn eithaf mwdlyd a gwlyb.

map

Uchder: Hawdd iawn – yr unig ddarnau uchel yw’r grisiau ger pont Rhodfa’r Gorllewin a graddiant bach ger Gerddi Sophia a phont Blackweir.

Oddi ar yr heol?: Ychydig. Mae'r rhan fwyaf o'r cwrs wedi'i balmantu'n dda, ond mae yna rai rhannau sy'n mynd yn fwdlyd iawn pan maen nhw’n wlyb.

Cit angenrheidiol: Os byddai’n well gennych redeg ar diroedd mwy heriol nag a gynigir gan y lwybr, yna bydd angen esgidiau redeg oddi ar yr heol arnoch. Bydd esgidiau rhedeg sylfaenol sy’n amsugno sioc yn iawn fel arall.

Y golygfeydd: Da iawn – mae’r llwybr yn mynd heibio adeiladau cerrig Portland trawiadol y brifysgol, tyredau gogoneddus Castell Caerdydd a chaeau gwyrdd Parc Bute a Chaeau Pontcanna, gydag Afon Taf yn eu gwahanu.

Lle i ddau?: Oes, er efallai y bydd angen i chi fynd mewn un rhes mewn mannau oherwydd gall fynd yn brysur gyda beicwyr, cerddwyr a rhedwyr eraill.

Chwys ffactor: Uchel. Mae’n llwybr gwastad, braf, ond mae rhedeg 7k yn bellter da yn enwedig os ydych yn mynd ar gyflymder.

Ar ôl rhedeg: Mae gormod o ddewis gennych! Mae’r llwybr yn mynd heibio caffi Summerhouse poblogaidd Parc Bute tua diwedd y rhediad, ac mae fan symudol yn cynnig diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar ddechrau’r llwybr.

Sgôr cyffredinol: 8/10

4. TREGANNA – BAE CAERDYDD – 7.5k

Dyma'r llwybr hiraf yn gymharol. Gan ddechrau ym maestref brysur Treganna, mae’r llwybr yn eich tywys i ganol dinas Caerdydd ac i lawr i Fae Caerdydd.

map

Uchder: Mae'r llwybr yn gymharol wastad ar wahân i un neu ddau raddiant bach.

Oddi ar yr heol?: Mae'r llwybr i gyd ar balmentydd a llwybrau solet, felly mae esgidiau rhedeg sylfaenol sy'n amsugno sioc yn iawn.

Cit angenrheidiol: Bydd cit arferol yn iawn, er bod rhywfaint o’r llwybr yn agored iawn felly gwisgwch yn gynnes os yw hi’n wyntog.

Y golygfeydd: Mae dechrau’r daith yn mynd â chi drwy ganol dinas Caerdydd, felly nid yw’r golygfeydd yn wych. Ond ar ôl rhedeg milltir, byddwch yn cyrraedd Llwybr Taf ac mae’r golygfeydd yn gwella’n aruthrol.

Lle i ddau?: Nac oes. Bydd yn rhaid i chi geisio osgoi cerddwyr, bygis, biniau ac ymbaréls ystyfnig ar ddechrau’r llwybr hwn. Ceisiwch osgoi rhedeg y llwybr hwn yn ystod yr oriau brig yn ystod yr wythnos neu ar ddydd Sadwrn gan fod y canol prysur yn gwneud y llwybr braidd yn broblemus i’w redeg. Trwy osgoi rhedeg o Dreganna i ganol y ddinas, mae’r llwybr yn ddigon llydan i redeg gyda ffrind.

Chwys ffactor: Gall y llwybr hwn fod mor hawdd neu anodd ag y dymunwch iddo fod. Un o'r pethau gorau am y llwybr hwn yw ei fod yn berffaith ar gyfer pob gallu. Mae sawl pwynt ar hyd y ffordd lle gallwch fyrhau neu ymestyn y pellter i gyd-fynd â’ch gallu.

Ymlacio ar ôl rhedeg: Ar y diwedd gallwch fynd draw i Heol y Bont-faen i ddewis ffordd o ail-hydradu. Mae digon o siopau i gael diod, neu os oes angen annog eich coesau a’ch meddwl yn fwy llym, yna gall tafarnau di-ri Treganna eich helpu chi.

Sgôr gyffredinol: 7/10

Mae llwybrau rhedeg a gwybodaeth fanwl eraill ar-lein. Mae ‘Map my Run’ yn wefan wych i storio eich data rhedeg ac edrych ar lwybrau rhedeg pobl eraill. Isod ceir y ddolen a gynigir ar gyfer rhai o lwybrau rhedeg Caerdydd.

https://www.mapmyrun.com/gb/cardiff-wls/

text