Bwytai a argymhellir

Posted 3 years ago

Yng Nghaerdydd

1. Viva Brazil

Mae’r bwyty Brasilaidd hwn, yng nghanol y ddinas, yn gweini cig i chi nes eich bod yn dweud wrthynt am roi’r gorau iddi. Maen nhw’n cynnig cyflenwad diddiwedd o 14 o gigoedd barbeciw traddodiadol o Frasil sy’n dod i’ch bwrdd yn sych o’r siarcol, a bar salad agored gyda digon o opsiynau. Os ydych yn mynd i gael cinio ar benwythnosau, mae’n costio £16.95 fesul unigolyn/ Ar gyfer bwytawyr Halal, gallwch ffonio’r bwyty 5 diwrnod cyn ymweld fel eu bod yn gallu ôl cigoedd Halal. Mae’n werth mynd yno.

2. Deli Fuego

Mae Deli Fuego ar Heol y Plwca ac mae’n cynnig cyfuniad o fwydydd o’r Canoldir. Mae gan y bwyty hwn fwydlen enfawr gyda llawer o opsiynau – mae’n gwneud popeth yn gywir. Maen nhw’n gwneud pob math o fargeinion amser cinio, gan gynnig gostyngiad o 10% i fyfyrwyr. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dangos eich cerdyn adnabod myfyrwyr. Mae eu holl fwyd ag ardystiad Halal, hefyd.

3. Hollywood Pizza

Er mai bwyty bwyd cyflym yw hwn, mae’n cynnig bwyd da am bris da. Gallwch gael pizza maint canolig, pryd ar yr ochr a diod am £6.50. Ydy, mae hynny’n gywir! Maen nhw’n cynnig llawer o opsiynau a bargeinion amser cinio. Eu byrgyrs fyddai ffefryn personol. Yn llythrennol mae pob byrgyr yn blasu’n dda ac yn cael ei wneud yn ffres. Mae’r bwyty hwn ar Heol Crwys, ger Neuadd Roy Jenkins, ac mae’r fwydlen gyfan yn cynnwys cynhwysion Halal.

4. Miller & Carter

Os ydych awydd stecen dda, yna dylech fynd i’r lle hwn. Mae’n fwy drud na bwytai eraill ar y rhestr, ond rydych chi’n cael yr hyn rydych yn ei dalu amdano. Mae’r bwyty yng nghanol y ddinas, hefyd. O ystyried mai bwyti steciau ydyw sy’n cynnig llwyth o gigoedd, maen nhw’n cynnig opsiynau i lysfwytawyr hefyd.

5. The Hellenic Eatery

Bwyd o wlad Groeg; sut allwch chi fynd yn anghywir? Mae’n fwyty cartrefol iawn, modern gyda bwyd o safon uchel a gwasanaeth gwych. Ar Heol Crwys, mae’n agos at y rhan fwyaf o breswylfeydd a thai myfyrwyr. Ar hynny, mae eu prisiau’n rhesymol i fyfyrwyr. Os nad oes gennych amser i fwyta yno, gallwch gael brechdan wedi’i lapio blasus am tua £5 i fwyta wrth fynd.

6. Pooja 

Mae’r bwyty hwn yn gweini bwyd Indiaidd llysieuol. Mae eu prisiau’n ddelfrydol i fyfyrwyr. Ar ôl bwyta yno sawl gwaith, byddwn i’n ei argymell. Gallwch gael 3 samosa am £1! Cewch hyd i’r bwyta ar Heol Albany. Maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o bwdinau Indiaidd, sy’n wych.

7. Coco Gelato

Lle mae’r rhai sy’n hoffi pwdinau? Mae’r bwyty hwn yn cynnig popeth. Cewch brofiad o bwdinau Eidaleg. Hufen iâ, wafflau ac ysgytlaethau i enwi rhai yn unig. Mae’r prisiau hefyd yn eithaf da, ac mae eu bwyd yn flasus iawn!

8. Al Sham Sweets

Unrhyw un yn hoffi pwdinau Arabaidd? Hyd y gwn i, nhw yw'r unig fwyty sy'n gwneud pwdinau Arabaidd traddodiadol. Mae ganddo awyrgylch braf iawn ac amrywiaeth eang o losin. Os ydych yn gyfarwydd â’r math o losin maen nhw’n eu cynnig, byddwch yn teimlo’n gartrefol iawn. Yn debyg i’r rhan fwyaf o fwytai gwych, mae Al Sham Sweets hefyd ar Heol y Plwca.

9. Sushi Life 

I bawb sy’n dwlu ar swshi, dyma fwyty i chi. Os oes gennych rywfaint o amser hamdden ac awydd swshi o safon uchel, dyma’r lle y byddwn i’n ei argymell. Mae’r bwyty ger Heol Albany, felly o fewn pellter cerdded i ran fwyaf y preswylfeydd.

10. Breatos

Mae’r bwyty hwn, yn Undeb y Myfyrwyr, yn agos at bawb, bron. Mae’n werth rhoi cynnig ar Breatos wrth drafod bwyd Mecsicanaidd. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o broteinau, ychwanegion a sawsiau i wneud eich burrito perffaith, yn union fel rydych chi eisiau. Hoffi bwyta’n iach? Dewiswch eu powlenni burrito. Fwytawyr Halal, mae’r bwyty hwn yn cynnig opsiynau cyw iâr a chig eidion Halal!

11. Calabrisella

Pwy sydd ddim yn hoffi pizza? Beth am pizza Eidaleg traddodiadol yng nghanol Caerdydd? Yna Calabrisella yw’r dewis cywir! Dyma siopa pizza Eidaleg sy’n cynnig mwy na pizza yn unig.

Mae detholiad eang o brydau bwyd Eidaleg: o basta i opsiynau brecwast, diodydd meddal, gwirodydd ac ystod helaeth o winoedd. Dyma fwyty sy’n addas i lysfwytawyr ac maen nhw hefyd yn cynnig opsiynau figan. Cewch hefyd yr opsiwn i greu eich pizza eich hun!  Rhowch gynnig ar y pizza gyda thomato, caws mozzarella byfflo a thomatos wedi’u sychu yn yr haul. Dyma fy hoff un!  

12. Anatoni’s Pizzeria

Anatoni’s Pizzeria yw un o’r bwytai pizza gorau yng Nghaerdydd (fy marn i). Cewch hyd iddo ar Heol Albany, felly mae o fewn pellter rhesymol i ran fwyaf o breswylfeydd y brifysgol. Mae'n addas i'r mwyafrif o gyllidebau gan nad yw’n rhy ddrud o gwbl o'i gymharu ag ansawdd y bwyd.

Maen nhw hefyd yn cynnig prydau bwyd i fynd! At hynny, maen nhw’n gwneud tiramisù blasus!

13. Shaam Nights

A oes awydd rhywbeth gwahanol i'r arferol arnoch ac eisiau rhywbeth sydd ychydig yn wahanol i fwytai arferol y ddinas? Yna ychwanegwch Shaam Nights i’ch rhestr o fwytai! Dyma fwyty bwyd o Syria a Lebanon, felly mae’r fwydlen i gyd yn Halal. Cewch ddewis eang iawn: o frechdanau shwarma wedi’u lapio i biryani, cig wedi’i grilio, mosaka, dail gwynwydd a llawer mwy. At hynny, mae’r awyrgylch wedi’i adduro’n draddodiadol yn ychwanegu profiad bwyta unigryw a chain.