Cwrdd â’r tîm: Campws y Gogledd

Posted 10 months ago

Mae eich RLAs Campws y Gogledd yn byw ar y safle gyda chi

Mae eich cynorthwywyr yng Nghampws y Gogledd yn byw yn yr un neuaddau preswyl â chi a byddent yn cynnal nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Dewch i adnabod eich cynorthwywyr isod! 

a person holding a sign

Enw: Gayatri

Lle geni: India

Cwrs: Economeg a Chyllid

Grŵp Prosiect: Teithiau a Gweithgareddau

Hobïau: Dysgu cerddoriaeth newydd ar biano, gitâr ac ukelele.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Uchelgeisiol, allblyg, fforiwr!

Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Dw i yma i helpu creu cymuned gyfeillgar a chefnogol yn ein preswylfa. Yn ystod y flwyddyn, byddaf yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr i'ch helpu i gwrdd â phobl newydd, ymlacio, a gwneud y gorau o’ch amser yma. Cadwch lygad ar ein tudalen Instagram a Eventbrite am y manylion i gyd! Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu, dw i'n hapus i helpu bob amser. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi yn ein digwyddiadau!

a person holding a sign

Enw: Ninjin

Lle geni: Ulaanbaatar, Mongolia

Cwrs: Dadansoddeg Gymdeithasol

Grŵp Prosiect: ...

Hobïau: Darllen, ysgrifennu a gwneud coffi/te gwahanol.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Egnïol, amyneddgar a phresennol.

Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y GogleddHei bawb! Dw i'n gyffrous iawn i gwrdd â chi i gyd eleni a helpu gyda'ch trosglwyddo i Brifysgol Caerdydd. Cadwch lygad am y digwyddiadau hwyl y byddwn ni yn eu cyflwyno a gobeithio gweld chi cyn bo hir!

calendar

Enw: Zainab

Lle geni: Caerlŷr

Cwrs: Cysylltiadau Rhyngwladol

Grŵp Prosiect: Crefftau

Hobïau: Teithio, darllen a bod yn actif.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair: Cyfeillgar, positif a defnyddiol.

Neges i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghampws y Gogledd: Dw i'n gyffrous iawn i gwrdd â phawb a ymuno â chi yn y daith hon gyda'n gilydd. Edrychwn ymlaen at wneud eich aros yma'n ymchwiliad a llawn atgofion bendigedig!