By
Lauren RLC
Posted 3 years ago
Wed 16 Sep, 2020 12:09 PM
Mewn rhai o breswylfeydd y Brifysgol, darperir bwyd ar adegau penodol o’r dydd, naill ai fel rhan o gontract y breswylfa neu os ydynt yn fodlon talu amdano. I ddewis derbyn y bwyd a ddarperir yn y preswylfeydd hynny, dylech fod wedi dewis yr opsiwn 'rhan wedi'i arlwyo' wrth ddewis eich ystafell ar-lein. Gwneir hyn cyn i chi gyrraedd Caerdydd. Bydd myfyrwyr sydd wedi'u arlwyo'n rhannol yn derbyn cinio. Mae’r opsiwn arlwyo hwn yn wych i fyfyrwyr prysur nad oes amser ganddynt i goginio, neu’r rhai hynny sy’n methu coginio. Fel y nodwyd eisoes, nid yw pob preswylfa’n cynnig y gwasanaeth hwn. Mae hyn oherwydd bod rhai preswylfeydd yn llai nag eraill heb y cyfleusterau, megis cegin ar y campws i goginio’r bwyd. Os oes gennych chi ymwelwyr dros hynny eisiau mwynhau'r bwffe, bydd yn rhaid i'r myfyriwr sy'n byw yno ymweld â derbynfa'r llety yn ystod yr oriau gwaith a thalu am y pryd bwyd, yna fe fyddan nhw'n cael slip i'w law i'r Cogydd.
Isod mae'r opsiynau arlwyo ar gyfer y preswylfeydd:
Wedi’i arlwyo’n rhannol:
- Llys Senghennydd
- Neuadd Senghennydd
- Neuadd Gordon
- Neuadd Aberdare
Gweinir bwyd mewn bwffe agored rhwng amseroedd penodol.
Neuadd Aberdâr
- Dydd Llun i ddydd Gwener: Gweinir swper rhwng 17:45 – 18:30. Ni weinir unrhyw brydau bwyd yn ystod gwyliau ac ar wyliau banc.
Llys Senghennydd, Neuadd Senghennydd a Neuadd Gordon
Darperir y bwyd, ar gyfer y preswylfeydd a grybwyllwyd eisoes, ym Mwyty Trevithick a gellir dod o hyd iddo yn Adeiladau’r Frenhines (Adeiladau Peirianneg). Mae’n cymryd tua 5 munud i gerdded yno o’r preswylfeydd hynny.
- Dydd Llun i ddydd Gwener: Gweinir swper rhwng 15:00 - 21:00. Ni weinir unrhyw brydau bwyd yn ystod gwyliau ac ar wyliau banc.
Cyrhaeddwch yn brydlon er mwyn sicrhau nad ydych yn methu eich prydau bwyd. Os na hoffech fwyta yno am ba bynnag reswm, gallwch ofyn am focs i gludo’r bwyd oddi yno. Gofynnir i chi ddangos eich cerdyn adnabod myfyrwyr yn ogystal â cherdyn eich preswylfa i gael eich pryd o fwyd.Am fwy o wybodaeth am arlwyo preswylfeydd, ewch i'r fewnrwyd i ddysgu mwy.