Sut i... rannu cegin

Posted 3 years ago

Rhannu cegin (a'i chadw'n lân)

Un o'r heriau cyntaf i fynd i'r afael â hi mewn neuaddau preswyl bydd rhannu cegin (a'i chadw'n lân) wrth fyw gyda phob eraill yr un oedran â chi. Os yw eich neuaddau preswyl yn rhai hunanarlwyo, yna dylai pob peron yn eich fflat gael cwpwrdd personol o leiaf. Os ydych mewn neuaddau preswyl sy'n cynnig gwasanaeth rhan-arlwyo, gall ardal y gegin fod yn fwy cyfyngedig. Mewn unrhyw achos, isod ceir rhai awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau ac ystyriaethau a fydd yn ddefnyddiol ar y dechrau:

Cyd-drafod eich lle

Gall rhannu lle fod yn anodd. Eisteddwch i lawr gyda'ch cyd-letywyr yn gynnar ar ôl i bawb symud i mewn, a thrafodwch sut y byddwch yn dyrannu'r lleoedd. Nid yw hyn yn golygu cypyrddau yn unig, ond silffoedd yn yr oergell/rhewgell neu gownteri. A oes unrhyw gyd-letywr am baratoi prydau ymlaen llaw ac angen mwy o le i gadw gweddillion bwyd? A oes un o'r cyd-letywr anaml yn coginio? Gall sefyllfa rhai fflatiau fod yn symlach nag eraill, ond mae’n dal yn bwysig sicrhau bod pawb ar yr un dudalen.

a vase of flowers sitting on a counter

Ystyriwch gael cwpwrdd cyffredin (neu a rennir)

Yn amlwg, nid yw hyn yn orfodol, ond gall cael cwpwrdd ag hanfodion a rennir wneud i fflat deimlo'n fwy cartrefol. Gall fod yn unrhyw beth o eitemau cyffredin: sbeisiau, olew olewydd, pasta, byrbrydau neu ffrwythau hyd yn oed. Os byddwch yn rhannu'r pethau hyn gallwch hefyd eu prynu mewn swmp a rhannu'r costau, sy'n llawer yn rhatach yn y pen draw na phrynu a storio pum potel ar wahân o olew a finegr. Trafodwch sut a pha eitemau y dylid cael gwared arnynt, a sicrhewch eich bod yn cadw cofnod o bwy brynodd peth y tro diwethaf. 

kitchen utensils

Trafodwch alergeddau

Mae ychydig o bethau’n fwy dychrynllyd na chael stoc o fenyn pysgnau cyn sylweddoli bod gan un o'ch cyd-letywyr alergedd gwael iddo. Os oes gennych alergedd bwyd, sicrhewch fod eich cyd-letywyr yn ymwybodol ohono, a thrafodwch beth sydd angen ei wneud nesaf er mwyn sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel ac yn iach.

a plate of food that is on a cutting board with a cake

Trefnwch rota glanhau

Er bod pob ardal gyffredin yn cael ei glanhau gan staff y Brifysgol unwaith yr wythnos, ni allwch ddibynnu ar hyn fel yr unig amser y caiff eich cegin ei glanhau, ac ni ddylech wneud hynny. Yn y cyfamser, mae angen cymryd biniau allan, mopio lloriau, ac ymchwilio i'r arogl rhyfedd yna o gefn yr oergell. Bydd cael rota glanhau lle mae person dynodedig yn gyfrifol bob wythnos/bob dydd am gadw popeth yn lân yn helpu i osgoi unrhyw wrthdaro posibl yn hwyrach. Byddai rhannu costau cynhyrchion glanhau hefyd yn syniad da. 

cleaning