Rysáit Crymbl Afal Cyflym a Hawdd

Posted 10 months ago

Ryseitia

P'un a ydych chi'n gefnogwr o crymbl afal neu'n chwilio am ryseitiau pwdin i'w rhannu gyda'ch ffrindiau fflat heb dorri'r banc. Dyma rysáit gyflym a hawdd sy'n gost gyfeillgar a blasus.

Rhestr cynhwysion

  • 500g afal Bramley wedi'i rewi 
  • 450g Cymysgedd crymbl 
  • Powdwr sinamon
  • 1tsp Detholiad fanila
  • 3 llwy fwrdd. Siwgr
  • 1/4 cwpan o ddŵr
  • Cwstard, hufen neu hufen iâ 

Dull

  1. Cynhesu'r popty i 200 gradd Celsius.
  2. Rhowch afalau Bramley, siwgr, sinamon , detholiad fanila a dŵr mewn sosban a choginiwch yn ysgafn am ychydig funudau nes i afalau feddalu. Yna trosglwyddo i ddysgl gwrth-ffwrn.
  3. Arllwyswch y gymysgedd crymbl i'r afalau yna taenellu sinamon ar ei ben.
  4. Pobwch am 35 - 40 munud nes bod brown euraidd a bwblio.
  5. Gweinwch gyda chwstard, hufen neu hufen iâ.
text