By
Lauren RLC
Posted 3 years ago
Mon 06 Sep, 2021 12:09 PM
Os ydych chi newydd gwrdd yn y fflat (neu'n chwilio am ffyrdd o ddod i adnabod eich gilydd a sut i gyd-fyw), rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod! Mae hyn yn gweithio’n dda os byddwch chi i gyd yn eistedd yn y gegin gyda'ch gilydd ac yn ei wneud ar yr un pryd!
Ysgrifennwch yr atebion i'r cwestiynau canlynol ar ddarn o bapur:
- Ydych chi'n hoffi mynd i’r gwely’n hwyr neu godi’n gynnar? (Efallai y bydd angen ichi egluro beth mae'r termau hyn yn ei olygu i fyfyrwyr rhyngwladol nad ydyn nhw wedi dod ar eu traws!)
- Ydych chi'n cysgu'n ysgafn neu'n cysgu’n drwm?
- Ydych chi'n cael cawod yn y bore neu gyda'r nos?
- Pa mor aml ydych chi'n hoffi cael ffrindiau draw i’r fflat?
- Ydych chi'n hoffi astudio gartref neu yn y llyfrgell (neu unrhyw le astudio y tu allan i'ch fflat)?
Nawr, rhannwch eich atebion gyda'ch gilydd. Oes gennych chi atebion tebyg neu rai gwahanol? Gall atebion tebyg olygu y byddai'n ddefnyddiol llunio amserlen ar gyfer pethau megis defnyddio'r ystafelloedd ymolchi a'r gegin fel nad ydych chi i gyd yn ceisio eu defnyddio ar yr un pryd! Os yw eich atebion yn wahanol iawn, gall hyn olygu y byddai'n ddefnyddiol cael rheolau penodol yn eu lle, megis oriau tawel fel na fydd pobl yn cael eu deffro neu roi system ar waith pan fyddwch chi’n gofyn i'ch gilydd a yw hi’n iawn cael ffrindiau draw ar adegau penodol o'r dydd/nos.
Dylai’r wybodaeth hyn am eich gilydd eich helpu i gael trefn hapus ac iach yn eich fflat! Cofiwch siarad â’ch gilydd os nad ydych chi’n fodlon ar y sefyllfa. Trefnwch gyfarfod yn eich cegin fel y gall pob un ohonoch chi drafod sut i ddatrys problemau penodol. Os ydych wedi ceisio datrys pethau gyda'ch gilydd ac nad ydyn nhw'n gweithio o hyd, cewch anfon ebost aton ni i residencelife@caerdydd.ac.uk am gymorth!
Mwynhewch eich fflat newydd!