Sut i... olchi dillad

Posted 5 years ago

Gyfleuster golchi

Mae mynd o fyw gyda'ch rhieni neu rywun sy'n golchi eich dillad i fyw ar ben eich hun yn gam mawr.

Mae gan bron bob un safle ar y campws ei gyfleusterau golchi dillad ei hun. Wrth i chi gasglu allweddi eich ystafell, cewch wybod pa gyfleuster golchi dillad y gallwch ei ddefnyddio. Os nad ydych wedi golchi eich dillad eich hun o'r blaen, peidiwch â phoeni! Byddwn ni'n mynd â chi drwyddo gam wrth gam.

Washpoint sy’n darparu ac yn rheoli eich cyfleusterau golchi dillad.

Cyfarwyddiadau

  1. Dewiswch beiriant (peiriant golchi dillad neu beiriant sychu dillad).
  2. Llenwch y peiriant hyd at 3/4 llawn a chau'r drws.
  3. Dewiswch y rhaglen rydych chi am ei defnyddio ar sgrîn LCD y peiriant.
  4. Pwyswch 'start' ar y peiriant.
  5. Gwnewch eich taliad yng nghiosg y golchdy gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd, neu Apple/Google Pay.
  6. Ewch i www.washpoint.uk a theipiwch 'Caerdydd' yn y bar chwilio i ddod o hyd i'ch golchdy, edrych ar wybodaeth am ddefnydd a gwirio argaeledd. Bydd posteri â chyfarwyddiadau ym mhob golchdy.

Costau a Glanedydd

  • Golchi (Dos awtomatig) – £3.30Bydd dwy ran o dair o'r peiriannau ym mhob golchdy yn dosbarthu glanedydd hylif a hylif meddalu ffabrig yn awtomatig, felly does dim angen i chi ychwanegu eich un chi hefyd. Dyma’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol ac ystyriol i’r amgylchedd i ddefnyddwyr. Llenwch y peiriant, talwch wrth y ciosg ac i ffwrdd â chi!
  • Golchi (Heb ddos awtomatig) – £3.00Os byddai'n well gennych chi ddefnyddio eich glanedydd a'ch hylif meddalu ffabrig eich hun, defnyddiwch un o'r peiriannau sydd wedi'u labelu 'heb ddos awtomatig', ac ychwanegwch eich glanedydd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr. Mae peiriannau heb ddos awtomatig ar gael ym mhob golchdy.
  • Sychu – £1.50Mae defnyddio peiriant sychu dillad yn gost unigol fesul defnydd. Peidiwch â gorlwytho'r peiriannau a tynnwch eich dillad unwaith y bydd y peiriant wedi gorffen er mwyn caniatáu i bobl eraill eu defnyddio.

Gwybodaeth bwysig:

  1. Gofalwch fod y pocedi i gyd yn wag cyn rhoi dillad yn y peiriannau golchi/sychu.
  2. Peidiwch â gorlwytho'r peiriannau. Peidiwch â llenwi’r peiriannau’n fwy na 75% yn llawn.
  3. Dim ond peiriannau sychu’r golchdai y dylech chi eu defnyddio er mwyn sychu dillad. Hwyrach y bydd dillad yn eich ystafell wely yn arwain at damprwydd a llwydni.
  4. Tynnwch y dillad cyn gynted ag y bydd y peiriant wedi gorffen, er mwyn i ddefnyddwyr eraill allu ei ddefnyddio.
  5. Cadwch y golchdy’n lân ac yn daclus bob amser, a rhowch sbwriel yn y biniau sydd yno.
  6. Os nad oes angen eitemau o ddillad arnoch chi bellach, gallwch chi eu rhoddi i Fanciau Casglu sydd ar y rhan fwyaf o safleoedd preswyl neu gerllaw. Mae angen i unrhyw eitemau sy’n cael eu rhoddi fod yn lân ac yn sych.
  7. Mae'r golchdai a'r sychwyr yn eithaf mawr, felly rydym yn argymell eich bod yn rhannu efo ffrind os ydych chi'n golchi'n aml iawn.

Lleoliadau’r golchdai

Dyma isod leoliadau’r golchdai ym mhob preswylfa a golchdy:

Preswylfa Lleoliad
Neuadd Aberconwy, Neuadd Colum, Tai’r Myfyrwyr (Heol/Plas Colum) Y tu ôl i 128 Heol Colum
Neuadd Aberdâr Golchdy Neuadd Aberdâr, Adain y Llyfrgell
Llys Cartwright Golchdy Llys Cartwright, wrth ymyl Tŷ 5
Neuadd Gordon a 11 East Grove Golchdy Neuadd Gordon, adeilad cyfagos
Neuadd Hodge, Tai’r Myfyrwyr (Y Pentref), Neuadd Roy Jenkins Golchdy Neuadd Hodge, wrth ymyl yr adeilad
Llys Senghennydd, Neuadd Senghennydd, Tai’r Myfyrwyr (Y Pentref) Golchdy Llys Senghennydd, y tu ôl i’r dderbynfa
Llys Tal-y-bont Golchdy Llys Tal-y-bont, wrth ymyl y dderbynfa
Gogledd Tal-y-bont a Phorth Tal-y-bont Golchdy Gogledd Tal-y-bont, wrth ymyl Tŷ E
De Tal-y-bont Golchdy De Tal-y-bont, ger Tai 7, 16, 17 a 18
Neuadd y Brifysgol Golchdy Birchwood, Adain Birchwood a Golchdy’r Tŵr, Y Tŵr – coridor y llawr gwaelod

Os ydych chi’n cael problem gyda pheiriant, taliad, neu unrhyw beth arall yn eich golchdy, cysylltwch â Washpoint yn y lle cyntaf dros y ffôn ar 08000 546 546 neu drwy eu gwefan.

Os na chaiff eich problem ei ddatrys, neu os hoffech chi uwchgyfeirio eich cwyn, cysylltwch â thîm preswylfeydd y dderbynfa gan roi rhif y digwyddiad a roddwyd ac unrhyw rifau peiriant perthnasol er mwyn i Washpoint ymchwilio i’r mater.

Giphy Image