By
Lauren RLC
Posted 2 years ago
Tue 06 Sep, 2022 12:09 PM
Ni waeth ble rydych yn byw yng Nghaerdydd, byddwch yn mynd i Heol y Frenhines yn aml yn ystod eich bywyd yn y brifysgol. Hon yw un o'r strydoedd prysuraf a mwyaf poblogaidd yng nghanol y ddinas, bydd y post hwn yn amlygu rhai o'r mannau gorau i siopau ynddyn nhw, i gael tamaid i'w fwyta neu ychydig o hwyl gyda ffrindiau.
Ble i Siopa
Os oes angen unrhyw fath o siop arnoch chi ar Heol y Frenhines, Canolfan Siopa Dewi Sant yw’r lle i edrych. Y ganolfan siopa fwyaf yn y ddinas, mae gan Ganolfan Dewi Sant 70 o siopau gwahanol sy'n darparu unrhyw beth a allai fod ei angen arnoch chi, o ddillad a gemwaith i ddeunydd ysgrifennu ac addurniadau i’ch cartref. Os oes angen unrhyw beth arnoch ar Heol y Frenhines, mae'n debyg mai Canolfan Dewi Sant yw'r lle gorau i fynd!
Yn ogystal â Chanolfan Dewi Sant, mae canolfan siopa lai, Arcêd y Frenhines, yn Heol y Frenhines hefyd. Yn gartref i 40 arall o siopau, mae’n cynnig mwy o fusnesau annibynnol a bach na’r ganolfan fwy. P’un a ydych am weld y crefftau a’r gwaith celf lleol a gynigir gan Cardiff Creative neu am bori drwy ddillad Over Seas Apparel, sef brand o Gaerdydd, yn ddiamau, mae’n werth edrych ar Arcêd y Frenhines os hoffech gefnogi doniau rhai o’r busnesau llai sydd yng nghanol y ddinas.
Os nad ydych am grwydro ymhellach na’r stryd fawr, mae digon o siopau ar Heol y Frenhines i chi bori ynddyn nhw o hyd. Byddwch yn cerdded heibio brandiau mawr fel Lush a Wilko, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw’ch llygaid ar agor am eich hoff siopau!
Lleoedd Bwyta
Gan fod y stryd canol ddinas hon mor brysur, mae hefyd yn anochel bod digon o leoedd ar Heol y Frenhines lle y gallwch eistedd i lawr a chael ychydig o fwyd os ydych yn mynd yn llwglyd wrth grwydro. Os oes gennych awydd am bryd mwy o faint, mae llawer o fwytai yn y cwrt bwyd yng Nghanolfan Dewi Sant ac ynddyn nhw mae amrywiaeth o fwydydd ar gael. Ymhlith y bwytai y mae dewisiadau poblogaidd fel Nando's a Zizzi's. Yn bendant dyma’r dewis gorau!
Os yw bwyd cyflym yn tynnu dŵr i’ch dannedd, mae gan Heol y Frenhines ddigon i’w gynnig o hyd! Mae Jolibee sydd newydd agor ar frig y stryd, yn gweini adenydd cyw iâr clasurol, byrgyrs a darnau cyw iâr yn ogystal ag opsiynau llai confensiynol fel bowlenni reis a sbageti. Mae’r bwyd yn costio ychydig yn uwch na'r bwyty bwyd cyflym cyffredin, fodd bynnag - os ydych chi'n chwilio am rywbeth rhad a hawdd, ceir McDonald's hefyd ar waelod y stryd yn gweini ei fwydlen glasurol.
I gael tamaid llai i'w fwyta, mae caffis ar ddwy ochr y stryd hefyd lle gallwch chi stopio i gael coffi, brechdan neu gacen flasus. Er bod digon i ddewis ohonynt, fy ffefryn personol yw McSims Pastizzeria, sydd hefyd â siop yn Undeb y Myfyrwyr. Nid yn unig y mae'n rhad, ond mae'r coffi a'r teisennau sydd ar gael yn flasus ac yn berffaith ar gyfer rhoi hwb i chi yn ystod eich diwrnod!
Er na chewch eistedd yn y lleoliad hwn i fwyta, ffefryn arall sydd gennyf ar Heol y Frenhines yw'r Cornish Bakehouse. Maen nhw'n gwneud cacennau a theisennau blasus am bris rhesymol iawn, felly dylech chi fynd yno os ydych chi'n hoffi bwyd becws hefyd!
Pethau i'w Gwneud
Er nad oes cymaint o weithgareddau cyffrous yn Heol y Frenhines ag sydd mewn ardaloedd eraill yng nghanol y ddinas, gallwch ddod o hyd i bethau hwyliog i'w gwneud yma ar eich pen eich hun neu gyda’ch ffrindiau o hyd. Yng nghanol y stryd mae carwsél mawr sy'n hardd i edrych arno, yn enwedig gyda'r nos pan fydd ei holl oleuadau ymlaen. Mae'r gweithredwyr yn derbyn taliadau arian parod a cherdyn os ydych am gael tro, felly mae’n weithgaredd gwych i'w wneud gyda ffrindiau os ydych chi'n cael diwrnod allan yng nghanol y ddinas!
Atyniad pwysig arall i Heol y Frenhines yw’r perfformwyr stryd sy’n dod i’r ardal yn rheolaidd, yn enwedig ar benwythnosau ac ar adegau prysur yng nghanol y dydd. Mae yna amrywiaeth o berfformwyr gwahanol, o gerddorion i berfformwyr fel cerddwyr rhaffau tyn! Os ydych chi'n cerdded trwy'r stryd ar adeg brysur, dylech gadw’ch clustiau ar agor am gerddoriaeth i ddarganfod ble mae’r cerddorion!
Er nad yw yn union ar y brif stryd, mae sinema Premier ar gyrion Heol y Frenhines. Mae hwn yn gwerthu tocynnau hynod rad (dim ond £3 i fyfyrwyr!) i’r ffilmiau mwyaf poblogaidd yn y sinemâu ar hyn o bryd, gan roi’r lleoliad perffaith i chi ar gyfer noson ffilm gyda ffrindiau neu gyda’r rhai sy’n byw gyda chi.
Ar ôl dysgu’r lleoedd gorau i siopa, bwyta a chael hwyl, byddwch nawr yn gallu gwneud y gorau o’ch diwrnod yn y ddinas os byddwch yn crwydro i lawr Heol y Frenhines. Mwynhewch Gaerdydd!