By
Lauren RLC
Posted 3 years ago
Tue 15 Sep, 2020 12:09 PM
Sut mae'r tywydd yng Nghaerdydd?
Yng Nghaerdydd, mae'r hafau'n gyfforddus ac yn gymylog yn rhannol, ac mae'r gaeafau'n hir, yn oer iawn, yn wlyb, yn wyntog ac yn gymylog yn bennaf. Yn ystod y flwyddyn, mae'r tymheredd fel arfer yn amrywio o 38°F i 69°F a phrin y mae’n is na 29°F neu’n uwch na 78°F.
Beth yw’r costau byw yng Nghaerdydd?
Yn ôl Mynegai Bywyd Myfyrwyr Natwest 2019, Caerdydd yw'r ddinas brifysgol fwyaf cost-effeithiol yn y DU. Er mai Caerdydd yw un o'r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU, yr isafswm o ran costau byw a argymhellir gan UKVI ar gyfer astudio y tu allan i Lundain yw £1,023 y mis. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer fisa Haen 4 bydd yn rhaid i chi ddangos bo gennych ddigon o arian ar gyfer ffioedd dysgu yn y flwyddyn gyntaf a chostau byw o tua £9,207.
Pa gymorth sydd gan fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf?
Rydym yn deall bod ymgartrefu yn eich bywyd newydd yng Nghaerdydd yn gam mawr, ac felly rydym yn gwneud ein gorau i gymryd gofal er mwyn eich helpu i ymgartrefu mor hawdd â phosibl. At y diben hwn, rydym yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau ymgyfarwyddo a chroesawu ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf. Mae digwyddiadau croesawu'n cynnwys sgyrsiau croeso, cyfarfodydd, cyngor ymarferol a sesiynau gwybodaeth, cwisiau, cymdeithasau a gwyliau chwaraeon, teithiau o gwmpas campws y brifysgol a'r ddinas ac ati.
Pa mor fawr yw dosbarthiadau?
Mae dosbarthiadau'r brifysgol o feintiau gwahanol ac mae'n dibynnu ar y cwrs rydych yn ei fynychu. Mewn rhai ysgolion mae darlithfeydd mawr lle ceir lle ar gyfer 220 o fyfyrwyr. Mae'r dosbarthiadau eraill o feintiau canolig a bach sydd â lle ar gyfer tua 30 i 80 o fyfyrwyr.
A allaf weithio'n rhan-amser?
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol a bod gennych fisa Myfyriwr Haen 4 (Cyffredinol), gallwch fel arfer weithio'n rhan-amser yn ystod eich astudiaethau. Bydd y geiriad ar eich fisa, naill ai ar y sticer Caniatáu Mynediad yn eich pasbort neu yn adran "Sylwadau" eich Trwydded Biometrig yn nodi eich amodau gwaith. Mae'n rhaid i chi wirio'n ofalus cyn ymrwymo i unrhyw waith â thâl.
Gallwch fod yn gymwys i weithio yn y DU os bydd eich fisa'n nodi y gallwch chi wneud hynny. Cadwch lygad am un o'r datganiadau canlynol sydd fel arfer yn nodi eich bod yn gymwys i weithio:
- Mae'n rhaid awdurdodi gwaith (ac unrhyw newidiadau)
- Gallu gweithio fel yr awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol
- Gweithio o dan Reolau Haen 4
- Gwaith Cyfyngedig. Rhan-amser yn ystod y tymor. Gwyliau llawn amser
- Gwaith cyfyngedig yn ystod y tymor
- Gwaith wedi'i gyfyngu i uchafswm o 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor
- Gwaith wedi'i gyfyngu i uchafswm o 10 awr yr wythnos yn ystod y tymor
Ni allwch weithio os yw un o'r datganiadau canlynol ar eich fisa:
- Dim gwaith
- Gwaherddir gweithio
Yn ddibynnol ar eiriad eich Fisa, ni chewch weithio mwy na 10 neu 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor. Dylech allu dod o hyd i ddyddiadau swyddogol y tymor ar Fewnrwyd Prifysgol Caerdydd.
Os byddwch yn gweithio y tu hwnt i'r oriau a ganiateir, efallai y byddwch yn wynebu amrywiaeth o ganlyniadau. Gallai'r rhai mwyaf difrifol gynnwys diswyddo o'r Brifysgol ac alltudio o'r DU. Hefyd, gallai'r Brifysgol gael dirwy sylweddol.
Fel myfyriwr rhyngwladol, dylech ddisgwyl gael eich trin yn deg yn eich sefydliad, a chael yr hawl i ymuno ag Undeb Llafur a gallwch gael gafael ar gymorth o'r gwasanaethau isod os byddwch yn wynebu unrhyw heriau cyflogaeth yn eich gweithle.
A all myfyrwyr rhyngwladol weithio ar y campws?
Ydyn, maen nhw'n gallu. Cyflwynir sawl cyfle drwy gydol y flwyddyn gan siop swyddi. Mae'n lwyfan sy'n anfon swyddi rhan-amser i fyfyrwyr yn aml drwy ebost. Fodd bynnag, maen rhaid i chi gofrestru â nhw gyntaf cyn y gellir anfon unrhyw gyfleoedd ymlaen atoch.
https://www.cardiffstudents.com/jobs-skills/jobshop/
Sut ydw i'n agor cyfrif banc?
Yn gyntaf, mae'n rhaid i chi ymrestru ar-lein drwy SIMS: Yn ail, bydd angen i chi gasglu eich Cerdyn adnabod Myfyriwr cyn y gallwch gynhyrchu llythyr banc. Gallwch gynhyrchu llythyr banc gan SIMS (gallwch ddod o hyd i'r fideo ar sut i gynhyrchu llythyr banc yma https://www.youtube.com/watch?v=STV8BruARnw). Yna, mae'n rhaid i chi drefnu apwyntiad â banc o'ch dewis i lenwi cais am gyfrif banc.
I gael rhagor o wybodaeth am wahanol fanciau ewch i'n Hwb Bancio yn Undeb y Myfyrwyr yn ystod wythnos ymrestru lle bydd sawl banc y DU yn bresennol yn yr Hwb, gan alluogi myfyrwyr i agor cyfrifon yn y banc o'u dewis ar y safle neu eich galluogi i drefnu apwyntiadau i agor gyfrifon yn eu cangen lleol.
Beth yw'r gweithgareddau allgyrsiol y gall myfyrwyr rhyngwladol gymryd rhan ynddynt?
Gall myfyrwyr rhyngwladol gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol y mae Prifysgol Caerdydd yn eu darparu. Mae'n agored iddynt ymuno ag unrhyw gymdeithas gyffredinol neu chwaraeon. Hefyd, gallant wirfoddoli, ond ar gyfer cyfleoedd â thâl mae'n rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gadw at y rheolau a'r rheoliadau a darllen canllawiau fisa Haen 4 (cyffredinol) cyn parhau.
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/fil
Gwneud cais
Sut ydw i'n ymateb i fy nghynigion yn UCAS?
Rhaid i chi ystyried eich cynigion a rhoi gwybod i UCAS am eich dewis drwy'r system Olrhain. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ateb eich cais i'w weld yn Olrhain.
Mae gennych dri dewis:
- Derbyn yn gadarnDyma'r dewis cyntaf/sydd orau gennych. Dim ond un cynnig y gallwch ei dderbyn yn gadarn.
- Derbyn fel dewis wrth gefn (dewisol)Os cynnig amodol yw'r cynnig yr ydych wedi'i dderbyn yn gadarn, cewch dderbyn cynnig arall (amodol neu ddiamod) fel dewis wrth gefn rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau'r cynnig yr ydych wedi'i dderbyn yn gadarn. Dim ond un cynnig y gallwch ei dderbyn fel dewis wrth gefn.
- GwrthodRhaid i chi wrthod pob cynnig arall. Os nad ydych am dderbyn unrhyw gynnig, gallwch wrthod pob un ohonynt. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch wedyn yn gymwys i ddefnyddio gwasanaeth UCAS Extra neu glirio.
Cewch wybodaeth fanwl am sut a phryd i ymateb i gynigion ar wefan UCAS.
Beth yw'r gofynion iaith Saesneg y mae angen i mi eu bodloni?
Rhaid i holl ymgeiswyr tramor nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt fod â lefel safonol o Saesneg a fydd yn eu galluogi i fanteisio’n llawn ar eu cwrs astudio.
Mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau yn gofyn am sgôr IELTS o 6.5 neu 7.0.
Mae ein tudalennau rhyngwladol yn rhestru'r cymwysterau iaith Saesneg sydd eu hangen ar gyfer cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig safonol. Mae'r tudalennau hyn hefyd yn darparu rhagor o wybodaeth am Raglenni Iaith Saesneg.
Cysylltwch â'r Swyddog Ryngwladol os oes gennych unrhyw gwestiwn am ofynion iaith Saesneg neu os oes gennych gwestiynau am ddod i Gaerdydd o dramor:
Y Swyddfa Ryngwladol
- studentconnect@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 22518888
Mae gen i anabledd - sut bydd hyn yn effeithio ar fy nghais?
Ni effeithir ar eich cais mewn unrhyw ffordd os oes gennych anabledd. Yn hytrach, byddwch yn cael cymorth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd a byddwn yn ystyried eich anabledd drwy gydol eich gradd. Er enghraifft, ar gyfer myfyrwyr sydd â dyslecsia gellir darparu amser ychwanegol mewn arholiadau ar ôl iddynt gael eu derbyn gan y panel arholiadau.
CAS a fisâu
Beth yw'r gofynion fisa ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol?
Mae angen fisa myfyriwr haen 4 (Cyffredinol) ar bob myfyriwr rhyngwladol. Mae'r gofynion fisa ar gael yma.
I gael gwybodaeth am wneud cais o du allan i'r DU, gweler adran caniatáu Mynediad Haen 4.
Os ydych yn gwneud cais o'r DU (gan fod eisoes gennych ganiatâd mewnfudo sy'n caniatáu hyn, gweler adran caniatâd i aros Haen 4.
Llety
Beth yw'r opsiynau llety ar y campws y gall myfyrwyr rhyngwladol fanteisio arnynt?
Gwarentir llety yn y Brifysgol i'r myfyrwyr israddedig a ddewisodd Prifysgol Caerdydd fel eu dewis cadarn neu eu dewis wrth gefn ar gyfer eu blwyddyn gyntaf. Mae gennym amrywiaeth o lety sy'n addas ar gyfer diddordebau unigol, yr hyn sydd orau gennych a’ch cyllideb. I gael rhagor o fanylion am opsiynau sydd ar gael a'i nodweddion penodol gweler: https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/accommodation/residences
Hoffwn adael Preswylfeydd y Brifysgol
Os ydych wedi derbyn cynnig llety'r Brifysgol rydych wedi dechrau contract sy'n rhwymo'n gyfreithiol. Bydd Prifysgol Caerdydd yn eich galluogi i newid eich meddwl cyn i chi gasglu eich allwedd, ond ar ôl hynny byddant fel arfer dim ond yn eich caniatáu i adael y contract os
- rydych yn gadael Prifysgol Caerdydd
- rydych yn gohirio astudiaethau
- rydych yn gallu profi amgylchiadau eithriadol sy'n golygu bod angen i chi adael preswylfeydd y brifysgol
Os nad yw dim un o'r canlynol yn berthnasol i chi, gallwch gysylltu â Phreswylfeydd a gofyn i gael eich rhyddhau o'ch contract, ond maen annhebygol y byddant yn cytuno i hyn. Os byddant yn gwrthod, byddwch bron yn sicr yn gorfod talu'r ffioedd llety am weddill y flwyddyn oni bai eich bod yn dod o hyd i fyfyriwr Prifysgol Caerdydd i gymryd eich lle yn eich ystafell.
Os nad ydych yn hapus yn eich ystafell/fflat ond yn hapus i ystyried symud i ystafell wahanol ym mhreswylfeydd y brifysgol, gallwch wneud cais i drosglwyddo ystafell. Mae'r broses drosglwyddo fel arfer yn agor o ddiwedd mis Medi/dechrau mis Hydref bob blwyddyn.
Ble gallaf ddod o hyd i Dystysgrif Eithrio o Dalu Treth y Cyngor?
Nid oes angen tystysgrif treth gyngor ar fyfyrwyr sy'n byw mewn un o Breswylfeydd y Brifysgol, ond anfonwyd y dystysgrif hon atoch ta beth rhag ofn y byddwch yn symud i fyw mewn llety preifat. Rydych wedi'ch eithrio rhag talu treth y cyngor os rydych yn fyfyriwr llawn amser, a gellir argraffu'r dystysgrif eithrio o dalu treth y cyngor drwy SIMS (https://www.cardiff.ac.uk/cy/new-students/before-you-arrive/accommodation-and-moving-here/council-tax).
Ffioedd a Chyllid
A oes cymorth neu gefnogaeth ariannol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn ystod fy amser yn aros yno?
Os yw eich ymholiad mewn perthynas â'r Rhaglen Cymorth Ariannol (caiff hefyd ei alw'n y Gronfa Caledi neu'r Gronfa Ariannol wrth Gefn) neu unrhyw broblem mewn perthynas â chyllid myfyrwyr, eich ffynhonnell orau o gefnogaeth bydd y Gwasanaeth Cyngor ac Arian, Cefnogi Myfyrwyr, yn y Brifysgol. Bydd Undeb y Myfyrwyr bob amser yn hapus i siarad â chi, ond yn y pen draw bydd angen cyflwyno cais am gefnogaeth ariannol i'r gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr. Felly, gall fod yn werth cyfeirio eich ymholiad atyn nhw. Nodir manylion isod er eich gwybodaeth.
A oes ysgoloriaethau ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol?
Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod potensial myfyrwyr rhyngwladol ac yn cynnig amrywiaeth eang iawn o ysgoloriaethau iddynt o lefel israddedig i lefel PhD. I gael rhagor o manylion ewch i: https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/international/funding-and-fees/international-scholarships
Mae Ysgoloriaethau Rhyngwladol 2022 yr Is-ganghellor yn cynnig gwobrau cyllid i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio cyrsiau a addysgir ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae gwobrau o £2,000 ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc a chânt eu cynnig ar ffurf gostyngiad ffioedd dysgu (https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/international/funding-and-fees/international-scholarships/vc-international-scholarship) .
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig hepgoriad ffioedd dysgu ar gyfer ceiswyr lloches israddedig (nad yw eu hachosion wedi’u penderfynu eto) sy’n gwneud cais am fynediad i’r Brifysgol.
Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr a all gysylltu â'r timau perthnasol yn y Brifysgol. Gallwch anfon e-bost atynt yn studentconnect@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio +44 (0)29 2251 8888.