By
Lauren RLC
Posted 3 years ago
Wed 16 Sep, 2020 12:09 PM
Yn ein prifysgol, mae gennym lwyth o fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar y system "Benthyciadau Myfyrwyr", sef pam y bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio cyllideb. Hyd yn oed os yw eich rhieni'n talu eich ffioedd dysgu, dylai pawb yr oedran hwn deimlo'r angen i beidio â gorwario wrth fyw ar eich pen eich hun.
Gan fy mod wedi gorfod defnyddio proses gyllidebu, rwyf am rannu rhai awgrymiadau rwyf wedi'u defnyddio i gadw'r gwariant mor isel â phosibl (O.N. Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol).
Yn gyntaf, yn ystod yr wythnosau cyntaf bydd angen i chi ddod yn gyfarwydd â ble rydych yn byw. Ble mae'r archfarchnad agosaf i gael eitemau brys? Ble mae'r archfarchnad fwyaf sy'n eich galluogi i arbed drwy wneud siop fawr am wythnos neu ddau? Beth yw'r ffordd orau o deithio i fy narlithoedd? Ble y gallaf gael eitemau penodol? Beth sydd angen i mi ei brynu (ar gyfer eich ystafell, eich astudiaethau ac ati)?
Os gallwch ateb pob un o'r cwestiynau hynny rydych yn barod i ddechrau cyllidebu. Er mwyn penderfynu faint sydd angen i chi wario, dylech fod yn hollol gyfarwydd â phob math o gostau sydd o'ch blaen. Rwy'n gwybod bod hyn yn swnio fel llawer, ond credwch chi fi, byddwch yn gallu dysgu sut mae gwneud hyn wrth i chi fynd yn eich blaen. Er enghraifft, pan fydd gwariant newydd yn codi megis cynllun data ffôn, nodwch hyn naill ai ar eich ffôn neu mewn pad ysgrifennu os byddai hynny'n well i chi. Y ffordd yma, byddai mis o wario heb gynllunio'n fwy na digon. Dylech hefyd fod yn synhwyrol ar gyfer y cyfnod hwn o wario gan nad ydych am orwario.
O ran bwyd: Chwiliwch am siopau megis Lidl neu Aldi. Mae'r siopau hyn yn fawr ac yn cynnwys popeth sydd eu hangen arnoch am y prisiau gorau. Wrth fynd i'r siopau hynny, argymhellir yn gryf eich bod yn siopa am fwyd am tua wythnos neu ddwy gan ei fod yn rhatach prynu swp o bethau ac mae'n lleihau sawl gwaith sydd angen i chi fynd. Os ydych yn byw yn agos at Tesco, Sainsbury's neu Co-op, ewch iddyn nhw os bydd angen rhywbeth arnoch ar frys neu os byddwch yn chwilio i brynu rhywbeth y gallwch ei fwyta'n gyflym, fel byrbryd. I gael rhagor o wybodaeth am sut i siopa bwyd yn effeithiol, darllenwch yr erthygl Sut i... Siopa Bwyd ar ein gwefan.
O ran trafnidiaeth: Rwyf bob amser wedi dewis cerdded i ddarlithoedd, ac i bobman agos ar y cyfan. Fodd bynnag, mae adeiladau rhai myfyrwyr, megis y rhai sy'n astudio Newyddiaduraeth, yn bell i ffwrdd. Rhai opsiynau er mwyn eich helpu i aros o fewn y gyllideb fyddai defnyddio OVO Bikes. Mae gan y cwmni hwn wasanaeth unigryw i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'r 30 munud cyntaf o bob dydd yn rhad ac am ddim. Gallwch ddod o hyd i ddociau ar eu cyfer ar draws Caerdydd i gyd. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae cael mynediad at y gwasanaeth hwn, darllenwch yr erthygl Sut i... OVO Bike ar ein gwefan. Mae defnyddio bysiau'n ffordd wych arall o deithio a fydd yn helpu i gadw o fewn cyllideb. Os ydych yn byw yn Neuaddau'r Brifysgol, mae gennych fynediad at wasanaeth bws yn rhad ac am ddim sy'n eich gollwng wrth rai o adeiladau'r brifysgol. Ar gyfer bysiau lleol, rwy'n argymell lawrlwytho ap Bws Caerdydd sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyda llwybrau ac amserlenni.
O ran campfeydd: Gadewch inni fod yn onest, mae pawb yn gwybod nad yw campfeydd yn rhad. Yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl symud i Gaerdydd, bydd gan gampfeydd yng nghanol y ddinas, megis The Gym, ostyngiadau myfyrwyr enfawr ar gynlluniau 9 mis, sef y cyfan sydd ei angen arnoch. Unig anfantais hwn yw bod angen i chi dalu hwn i gyd ar yr un pryd, ond mae'n sicr werth gwneud os byddwch yn defnyddio'r gampfa - nid cael aelodaeth na fyddwch fyth yn ei ddefnyddio. Fel arall, gallwch osgoi'r gampfa'n gyfan gwbl a dechrau rhedeg neu wneud ymarfer corff yn eich ystafell – darllenwch yr erthyglau, Ffordd o Fyw i gael awgrymiadau o ran ymarfer corff!
O ran prynu'r eitemau ychwanegol: Ymhlith yr eitemau ychwanegol hynny mae dillad newydd, rhoddion ac ati. Beth rwy'n hoffi ei wneud ar ôl y mis cyntaf o wario yw y byddaf yn ymwybodol o faint y dylwn i wario. Yna swm yr arian sydd gen i'n weddill ar ddiwedd y mis nesaf, rwy'n ei ddefnyddio i brynu'r "eitemau ychwanegol". Rwy'n argymell llwytho Unidays a Student Beans yn gryf gan fod ganddynt ostyngiadau myfyrwyr drwy'r amser ar gyfer llawer o siopau gyda brandiau byd-enwog. Wrth i amser fynd yn ei flaen, byddwch yn gwario'n well gan y byddwch yn gwybod ble mae cael popeth sydd eu hangen arnoch am y prisiau gorau.
Os ydych chi'n cael trafferth rheoli eich arian, gallwch chi bob amser estyn allan am gefnogaeth. Edrychwch ar dudalen we Cyngor ac Arian i gael rhagor o wybodaeth.