Yn cyrraedd ym mis Ionawr
By
Lauren RLC
Posted 1 day ago
Mon 15 Dec, 2025 12:12 AM
Symud i mewn i'r neuaddau mis Ionawr hwn?
Rydyn ni'n gwybod y bydd llawer ohonoch chi'n cyrraedd ein llety yn ystod y mis hwn felly dyma ychydig o'r hyn i'w ddisgwyl:
Proses Cyrraedd
- Dylech fod wedi derbyn e-bost gan dîm y Preswylfeydd sy'n manylu pryd mae eich contract yn dechrau a phryd gallwch gyrraedd derbynfa eich Preswylfeydd i gasglu eich allweddion. Os cyrhaeddwch rhwng 8yb - 6yp, byddwch yn casglu eich allweddion o'r Derbynfa. Y tu allan i'r oriau hyn, bydd yn rhaid i chi ffonio Diogelwch ar +442920 874444 a byddant yn gallu rhoi mynediad i chi i'ch ystafell.
- Gallwch archebu pecyn gwely cyn eich cyrraedd gan y Residences am £30. Bydd hyn ar gael o'r Derbynfa neu'n aros i chi yn eich ystafell pan gyrhaeddwch.
- Bydd y Preswylfeydd yn rhoi eich allwedd a'ch cerdyn residences i chi. Bydd manylion hefyd yn cael eu hanfon atoch am pryd gallwch fynd i gael eich cerdyn myfyriwr o Ganolfan Bywyd Myfyrwyr - mae hyn angen cael ei wneud o fewn 3 wythnos o ddyddiad dechrau eich cwrs. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gasglu eich cerdyn ar y Rhyngrwyd Mewnol.
- Os oes gennych gwestiynau am sefydlu eich hun fel lle i siopa nwyddau bwyd neu sut i gysylltu â'r Wi-Fi - bydd ein RLAs yn bresennol yn eich gofodau cymdeithasol o 6-9yp ddydd Llun i ddydd Iau ac yn ystod y dydd Sadwrn felly ewch draw i sgwrsio â nhw!
Bywyd Preswyl
- Unwaith y byddwch wedi cyrraedd, o fewn wythnos i dau, bydd rhai o'n RLAs yn dod o gwmpas i'ch ymweld chi yn eich fflat ac yn dod â lanyard Bywyd Preswyl i chi.
- Mae'r RLAs yn fyfyrwyr presennol sy hefyd yn byw mewn llety felly byddan nhw'n gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am fywyd prifysgol!
- Gallant hefyd ddweud wrthych am ein rhaglen o ddigwyddiadau i helpu i chi gwrdd â myfyrwyr eraill yn y brifysgol. Gallwch weld pa ddigwyddiadau sydd gennym i ddod ar dudalen ein digwyddiadau.
Dyfodiad Academaidd
- Edrychwch am weithgareddau dyfodiad sydd wedi eu trefnu gan eich ysgol i'ch helpu i setlu i fywyd Prifysgol. Cewch wybodaeth am hyn trwy e-bost.
- Os ydych chi'n israddedig blwyddyn gyntaf, bydd cynllun Mentor Myfyrwyr yn cysylltu â chi cyn eich cyrraedd sydd yn trefnu mentor i chi. Maen nhw'n fyfyrwyr o'r un ysgol â chi sydd eisoes wedi profi eu blwyddyn gyntaf ac felly gallant ddarparu llawer o gyngor a thipiau defnyddiol.