Canllaw Myfyrwyr

Posted 3 years ago

Campws y De

Mae Campws y De yn cyfuno Llys Senghennydd, Neuadd Senghennydd, Neuadd Gordon a’r tai yn y pentref myfyrwyr (rhwng Llys Senghennydd a Woodville Rd.). Mae hi wedi ei lleoli yng Nghampws Cathays ac mae hi ond yn daith 5 munud o ysgolion Peirianneg, Cyfrifiadureg, Mathemateg ac Undeb y Myfyrwyr. Mae hi’n daith 10 munud i ysgolion Seicoleg, Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a’r Prif Adeilad.

Mae’r dderbynfa i'w ffeindio yn Llys Senghennydd ac y mae hi ar agor o 8yb-6yh o ddydd Llun I ddydd Gwener. 

Mae Neuadd Gordon yn neuadd breswyl fach gydag arlwyo rhannol. Mae ganddi dri llawr a 27 ystafell ar y llawr gwaelod, cyntaf ac ail (rhai gydag ensuite). Yn fwy, mae 11 ystafell ar y trydydd llawr sy’n rhannu tair ystafell ymolchi. Mae gan bob llawr fflat gyda dwy gegin (un gegin fawr ac un llai o faint), oni bai am y llawr uchaf sydd ag un gegin.  Dyma neuadd breswyl sy’n wych os hoffech gwrdd â llawer o bobl newydd gan fod un fflat yn gallu cartrefi hyd at 27 myfyriwr! Mae’r gegin fawr yn lle cymdeithasol iawn ble gall myfyrwyr cwrdd i siarad, bwyta, chwarae gemau neu wylio ffilm gyda’i gilydd. Oherwydd mae nifer fawr o bobl mewn un ystafell mae’n hawdd iawn cwrdd â phobl o loriau eraill ac i gael ffrindiau’n byw mewn fflatiau gwahanol.

Mae cymuned braf iawn fel arfer yn ffurfio yn Neuadd Gordon ac os ydych yn barod i siarad ag eraill, mae’n hawdd iawn feindio ffrindiau! Bydd eich cynorthwywyr Bywyd Preswyl yn cyflwyno eu hunain i chi ac maent ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’r dderbynfa ond yn daith 5 munud I ffwrdd, gallech ofyn cwestiynau, adrodd problemau neu gasglu eich post o’r derbynfa (oni bai eich bod chi wedi archebu rhywbeth trwy Amazon, ble bydd angen trefnu trawsgludiad i'ch adeilad).

Cyfleusterau Golchi Dillad

Mae’r cyfleusterau golchi dillad ar agor 24/7 ac maent yn defnyddio system Circuit laundry. Bydd angen i chi brynu cerdyn (cost o £1.50 y gallech brynu o’r dderbynfa gan ddefnyddio arian parod yn unig) neu ddefnyddio’r ap (Circuit). Nid yw’r cyfleusterau’n gweithio trwy ddefnyddio arian parod felly bydd angen i chi lwytho arian i'ch cyfrif er mwyn eu defnyddio. Gan fod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n gyson mae’n syniad da gwirio argaeledd peiriannau trwy ap Cardiff Students. Os ydych yn profi trafferth (e.e. peiriannau sydd ddim yn gweithio neu os oes dwr yn dod o’r peiriant), galwch Circuit. Bydd angen rhif ffôn a chôd y cyfleusterau sydd i'w ffeindio ar wal yr adeilad. Bydd Circuit yn gallu cynnig dychwelyd yr arian rydych wedi gwario. Mae un sesiwn golchi’n costi £3 ac mae un sesiwn sychu’n costio £1.50.  

  • Llys a Neuadd Senghennydd: Mae ystafell golchi am Lys a Neuadd Senghennydd wedi ei lleoli yn y breswylfa ac felly mae hi ond yn cymryd 2-3 munud i'w cyrraedd. Mae drws yr ystafell yn agor trwy ddefnyddio cerdyn eich ystafell. 
  • Neuadd Gordon: Mae ystafell ymolchi Neuadd Gordon wedi’i lleoli drws nesaf i'r adeilad ac mae ganddi ddau beiriant golchi a dau beiriant sychu. Gallech roi larwm ar eich ffon er mwyn i chi gofio casglu eich golchi unwaith i'r peiriant orffen. Yr unig bethau sydd angen i chi gofio ydy glanedydd, eich cerdyn golchi i dalu (neu lawr lwythwch yr ap ar eich ffon) a’ch dillad!   
  • Pentref Myfyrwyr: Mae’r ystafelloedd golchi i'w ffeindio yn Llys Senghennydd (wedi ei disgrifio uchod) ac yn Neuadd Hodge. Os ydych am wneud eich golchi yn neuadd Hodge byddech yn derbyn allwedd pan rydych yn cyrraedd. 

Post

a post box

Os nad ydych yn y Pentref Myfyrwyr bydd eich post yn cael ei anfon i'r dderbynfa. Byddech yn derbyn blwch post pan rydych yn cyrraedd, mae un blwch post am bob fflat. Mae’r dderbynfa ond yn derbyn post o’r Post Brenhinol felly bydd angen i chi drefnu manylion trawsgludant os ydych yn defnyddio cwmnïau eraill. E.e. mae cloer Amazon ger Undeb y Myfyrwyr ac yng nghanol y dref, ymysg mannau eraill. Pan rydych yn casglu post o’r dderbynfa bydd angen i chi ddangos eich cerdyn myfyriwr a’ch cerdyn llety er mwyn cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad. Gallech ofyn i'r dderbynfa am nodyn gyda’ch cyfeiriad cyflawn wedi nodi arni. Er mwyn anfon post, bydd angen i chi gymryd eich llythyr i un o’r blychau post coch o amgylch yn y ddinas (os oes stamp gennych), neu gallech gymryd eich post i'r swyddfa bost ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr. 

Ble i siopa 

a woman standing in front of a store filled with lots of fruit
  • Llys a Neuadd Senghennydd: Tesco Express ar Heol Salisbury ydy’r siop agosaf. Mae yna Co-Op ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr. Mae’r ddwy siop ar agor yn hwyr y nos ond maent yn eithaf bach. Mae Lidl ar Heol Maendy sy’n cymryd llai na 10 munud i gyrraedd ac mae nifer o siopau fwy yng nghanol y ddinas (Tesco yng nghanolfan Capitol, Sainbury’s, Poundland). Mae'r rhain yn cymryd tua 10 munud i gyrraedd hefyd.  
  • Neuadd Gordon: Mae Tesco Express ar Heol Salisbury’n ddelfrydol ar gyfer taith siopa gyflym (ond tua 5 munud i ffwrdd). Er mwyn cael mwy o ddewis mae Tesco Metro a Sainsbury’s ar Heol y Frenhines sydd tua 10 munud i ffwrdd. Mae Lidl ar Heol Maendy yn fwy fforddiadwy ond mae hi’n bellach i ffwrdd ac mae’n cymryd tua 15 ei chyrraedd. Mae nifer fawr o siopau eraill ar Heol y Frenhines: Wilko am gynnyrch i'r cartref, Boots am nwyddau iechyd ac hylendid a Primark ar gyfer dillad. Mae City Road ond yn daith o 5 munud ac mae’n cynnig nifer o siopau a bwytai rhyngwladol.  
  • Pentref Myfyrwyr: Mae’r Tesco Express ar Heol Salisbury, Lidl ar Heol Maendy a’r Co-Op yn yr Undeb yn agos iawn I'r pentref myfyrwyr (tua 5 munud I ffwrdd) ac mae Heol Salisbury hefyd yn cynnig ystod eang o siopau a bwytai.  
map

Trafnidiaeth

a train pulling into a station

Gallech ddefnyddio OVO Bike am 30 munud y diwrnod am ddim os ydych yn defnyddio eich e-bost prifysgol wrth gofnodi; sicrhewch eich bod yn cloi’r beic yn gywir ar ôl i chi orffen ei defnyddio. Mae gorsaf OVO Bike o flaen Neuadd Senghennydd.  

Os ydych yn dymuno defnyddio beic personol, mae sied beiciau yn Llys Senghennydd sydd ar gael i breswylwyr Campws y De. Gallech ei ddefnyddio am ddim, ond mae nifer cyfyngedig o allweddi ar gael ac maent yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i'r felin. Gallech gasglu eich allwedd o’r dderbynfa. Yn fwy, mae gan Neuadd Gordon sied beiciau y gallech ddefnyddio am ddim. Mae’r allwedd ar gyfer y sied beiciau yn Neuadd Gordon yr un allwedd rydych yn defnyddio ar gyfer y prif ddrws neu gegin ac rydych yn derbyn yr allwedd yma pan rydych yn cyrraedd.  

Mae Megabus a National Express yn stopio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r gorsafoedd bysiau tu allan I 50 Plas y Parc. Sicrhewch taw Cardiff University nid Kingsway (Megabus, tu allan I Neuadd y Ddinas) neu Sophia Gardens (National Express) ydy enw eich gorsaf. Os ydych yn dewis yr orsaf anghywir efallai ni fydd gennych ganiatâd camu ymlaen i'r bws. 

Hefyd, mae yna orsaf trên (Cathays) drws nesaf i'r Undeb.  

Llyfrgelloedd 

Trevithick (Adeiladau’r Frenhines, The Parade): Mae mynediad i'r adeilad i tu hwnt i oriau gweithio (ar ôl 5yh ac ar benwythnosau) yn gyfyngedig I fyfyrwyr (oni bai am y rheini sy’n astudio cyfrifiadureg a gwybodeg, peirianneg neu ffiseg ac astronomeg). Er mwyn cael mynediad tu hwnt I oriau gweithio, dylai myfyrwyr eraill e-bostio’r tîm diogelwch trwy  accesscontrol@cardiff.ac.uk gyda’i enw, rhif myfyriwr a’r adran/ysgol maent yn astudio ynddi. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar yr Intranet.  

  • Llyfrgell Senghennydd (Heol Senghennydd)
  • ASSL 
  • Llyfrgell Gwyddionaeth (Prif Adeilad) 

Nodyn: Os ydych yn archebu llyfr, gallech nodi unrhyw lyfrgell ar gampws i gasglu’r llyfr ohoni. O ganlyn, gallech gasglu llyfrau o’r llyfrgell agosaf.

a book shelf filled with books

Cymdeithasu

Rydym yn cynnal holl ddigwyddiadau Res Life yn yr Ystafell Gyffredin Iau ar lawr gwaelod Adeilad Trevithick Dydd Llun i ddydd Iau 6-9pm ac ar benwythnosau 12-9pm. Mae hwn hefyd yn lle gwych i astudio, cwrdd â ffrindiau neu gael eich cinio os ydych chi'n cael eich arlwyo'n rhannol! Fel arall, mae'r SU o fewn taith gerdded 5 min ac mae ganddi ddigon o lefydd ar gyfer cymdeithasu neu astudio.  Mae ar agor 24/7, ond mae'r llawr gwaelod a mynedfa Ffordd Senghennydd ar gau bob dydd am 11 PM. 

Arlwyo

Mae’r ffreutur agosaf yn Adeilad Trevithick, ar The Parade. Os ydych mewn preswylfa arlwyo rannol gallech gasglu eich pryd o fwyd rhwng 5-8yh o ddydd Llun-Gwener. Os nad ydych yn bwy mewn preswylfa gydag arlwyo rhannol, gallech brynu eich bwyd yn llw. Mae’r ffreutur yn cynnig o leiaf un pryd o fwyd fegan ac ar gyfer llysieuwyr; ond rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i'r brifysgol os oes gennych gyfyngiadau bwyd o unrhyw fath. Cymrwch eich cerdyn llety gyda chi wrth gasglu eich bwyd, neu efallai bydd angen i chi dalu. Gallech gymryd y bwyd o’r ffreutur mewn bocs bioddiraddadwy os nad ydych yn dymuno bwyta yn y neuadd fwyta. Mae’r ffreutur hefyd yn cynnig eich bod yn dod â bocs bwyd y gallech ailddefnyddio yn lle prynu bocs sydd angen taflu ar ôl un defnydd. 5:30-6yh ydy’r cyfnod prysuraf. 

a person standing in front of a store

Ailgylchu 

Llys a Neuadd Senghennydd: byddech yn derbyn bagiau ailgylchu y gellir eu hail-ddefnyddio ar gyfer deunydd sych (gwyrdd) a gwydr (glas) yn eich cegin, yn ogystal â bin gwastraff cyffredinol. Gallech gael gwared â’ch gwastraff ym mannau penodol e.e. tu hwnt i gefn Neuadd Senghennydd, neu ddrws nesaf i'r sied beiciau yn Llys Senghennydd. 

Neuadd Gordon: Mae tri bin gwahanol yn y gegin: bag gwyrdd ar gyfer deunydd ailgylchu, bag du ar gyfer gwastraff cyffredinol a bag glas ar gyfer gwydr. Rydym yn argymell creu amserlen er mwyn sicrhau eich bod yn cofio gwaredu eich gwastraff a glanhau eich cegin.  

Cyfleusterau Eraill Campws y De 

Mae banc dillad tu fas i Dy L yn Llys Senghennydd ble gallech roddi unrhyw nwyddau nad ydych angen. Mae’n bosib bydd pwyntiau casglu yn yr ystafell golchi dillad o bryd i'w gilydd. Cadwch lygad am bosteri gyda mwy o fanylion am ba eitemau sy’n addas eu rhoi neu beidio.  

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig condomau a thamponau am ddim ar yr ail lawr, yn ogystal â’r cynnyrch atgenhedlu y gallech gasglu am ddim o’r grŵp ymwybyddiaeth iechyd rhywiol, Sexual Health Awareness Group (SHAG).  

Mae mân gyfnewid llyfrau wrth y dderbynfa – gallech ddod ag unrhyw lyfrau nad ydych eisiau eu cadw er mwyn eu cyfnewid am lyfrau mae myfyrwyr eraill wedi cynnig, am ddim.