Cyfrifon Instagram gorau i’w dilyn

Posted 4 years ago

Wrth astudio yng Nghaerdydd

Yn ymwneud â’r Brifysgol

@residencelifecu: Dyma’r cyfrif pwysicaf y bydd angen i chi ei ddilyn yn ôl pob tebyg; mae eich Tîm Bywyd Preswyl yma i wneud eich cyfnod yng Nghaerdydd mor gofiadwy, hapus, pleserus a diogel â phosibl! Dilynwch nhw i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau diweddaraf, ymarferion i’r corff, ryseitiau blasus, cwisiau llawn hwyl a llawer mwy! Cysylltwch â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau am fywyd mewn neuaddau, lles myfyrwyr, gwasanaethau cefnogi neu unrhyw beth mewn gwirionedd!

@cardiffuni: Dyma gyfrif swyddogol Prifysgol Caerdydd ar Instagram; gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddilyn i gael y newyddion diweddara am reoliadau ledled y Brifysgol. Os ydych yn tynnu unrhyw luniau yn y Brifysgol, llwythwch nhw i Instagram, tagio’r cyfrif hwn a #prifysgolCdydd fel eu bod yn gallu rhannu eich neges ar eu tudalen!

@cardiffunilib: Dyma gyfrif swyddogol y llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Anfonwch neges atyn nhw am unrhyw beth sy’n ymwneud â gwasanaethau’r llyfrgell: o wneud cais am lyfrau a’u benthyg, i gadw ystafelloedd astudio, i gyfnodolion electroneg, i ymholiadau am ddyfynnu. 

@cardiffstudents: Cyfrif arall y mae’n rhaid ei ddilyn ar Instagram; dyma dudalen swyddogol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Dilynwch y cyfrif i gael y newyddion diweddaraf o Undeb y Myfyrwyr am ohebiaeth â’r Brifysgol a’r Is-ganghellor, llais myfyrwyr, etholiadau, diweddariadau gan y swyddogion sabothol a llawer mwy! 

@volunteercusu: Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am wirfoddoli ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ddilyn eu tudalen swyddogol ar Instagram. Cewch wybod am y cyfleoedd mwyaf newydd i wirfoddoli, sut i nodi eich oriau gwirfoddoli, ble a phryd y cynhelir ffeiriau gwirfoddoli, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau Jailbreak hynod boblogaidd!

@lovecardiffsu: Caru Caerdydd yw enw’r siop sy’n gwerthu nwyddau Prifysgol Caerdydd. Mae wedi’i lleoli ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr. Dyma eu tudalen swyddogol ar Instagram. Edrychwch arni os ydych yn bwriadu prynu rhai o ddillad, ategolion neu roddion Prifysgol Caerdydd i chi’ch hun neu i rywun arall!

@cardiffunisport: Dilynwch Chwaraeon Prifysgol Caerdydd i gael yr holl newyddion sy’n ymwneud â chwaraeon. Maen nhw’n aml yn postio straeon o lwyddiannau unigolion a thimau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu dilyn y gael yr holl wybodaeth. Maen nhw hefyd wedi bod yn llwyth fideos ymarfer corff byr a manwl i chi eu cwblhau gartref. 

@cardiffathleticunion: Yn wir, dylech fod yn dilyn tudalen Instagram yr Undeb Athletau os ydych yn rhan o glwb chwaraeon neu os yw eich ffrindiau yn. Trwy eu tudalen gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl gystadlaethau a gemau BUCS, Gornest Prifysgolion Cymru, Gornest Prifysgolion Medics ac ati. 

Y gorau o Gaerdydd ac o Gymru

@visitcardiff: Croeso Caerdydd yw’r “sefydliad twristiaeth swyddogol ar gyfer Caerdydd”! Os ydych yn eu dilyn, cewch gyflenwad di-ben-draw o luniau hardd o Gaerdydd, ei phobl, ei hanifeiliaid a llawer mwy. Maen nhw hefyd yn rhoi negeseuon am y gwyliau sydd ar y gweill yn y ddinas yn ogystal â rhai o’r mannau llai poblogaidd y gallwch chi a’ch ffrindiau a’ch teulu fynd iddynt. Tagiwch nhw yn eich negeseuon gyda #DarganfodCaerdydd i’w rhannu ar eu ffrwd. 

@ilovesthediff: Mae’r cyfrif hwn yn cyflwyno lluniau o bob man yng Nghaerdydd. Maen nhw’n postio llawer am hanes, diwylliant a threftadaeth y ddinas. Mae llawer o’u negeseuon yn seiliedig ar bethau dibwys, lle maen nhw’n gofyn cwestiynau i’w dilynwyr i brofi faint maen nhw’n ei wybod am Gaerdydd neu’r ‘Diff (sef CarDIFF yn fyr). 

@thebestofcardiff: Yn cyflwyno lluniau o bob man o brifddinas Cymru. 

@itsoncardiff: Mae’r cyfrif hwn yn postio lluniau a newyddion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yng Nghaerdydd.

@wearecardiff: Dyma gyfrif sy’n rhannu lluniau hardd o’n ddinas hardd. 

@butepark: Yn ôl sôn, mae Parc Bute hefyd yn ardd goed, a dyma ei dudalen swyddogol ar Instagram. Gardd fotaneg yw gardd goed sydd â choed yn unig. Mae’r dudalen hon yn aml yn postio lluniau o’r adar rydych yn eu gweld drwy gydol y flwyddyn a phob tymor yn y parc.

@cardiff_blues: Dyma dudalen Instagram swyddogol prif dîm rygbi Caerdydd, sef Gleision Caerdydd. I’r rhai hynny ohonoch nad ydych yn ymwybodol, mae peidio â bod yn gefnogwr rygbi yn cael ei ystyried yn bechod yng Nghymru, felly pe bawn i’n chi, byddwn i'n dod yn gyfarwydd ag enw'r tîm rygbi yn fy ninas, o leiaf.   

@cardiffcityfc: I’r holl gefnogwr pêl-droed, dyma gyfrif Instagram swyddogol adar gleision go iawn Caerdydd, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Cofiwch eu dilyn a’u cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn dychwelyd i’r Uwch-gynghrair. 

@visitwales: Yn wir, mae Cymru’n hardd. Mae cymaint o leoedd syfrdanol a hynod hardd i ymweld â nhw. Mae'n gymaint o drueni nad yw llawer ohonom ni, fyfyrwyr, yn gwybod am y lleoedd hyn ac yn treulio'r rhan fwyaf o'n hamser yng Nghaerdydd yn unig. Peidiwch â bod yn un o’r myfyrwyr hynny. Manteisiwch i’r eithaf ar eich amser yng Nghymru (hynny yw os nad ydych yn dod o Gymru), mentro allan ac archwilio. Gobeithio y bydd y dudalen hon ar Instagram yn eich annog chi ac yn rhoi syniadau o ran ble i fynd.

@walesonline: Er bod WalesOnline yn un o'r prif asiantaethau newyddion lleol yng Nghymru, nid yw'n postio newyddion ar y dudalen Instagram. Yn hytrach, mae’r dudalen yn fwy o gasgliad o luniau o bob cwr o'r wlad. Serch hynny, mae rhai o'r lluniau'n fendigedig. Maen nhw’n postio rhai eitemau newyddion o’r stori, ond dim byd mawr. 

Ffotograffiaeth

Mae’r ffotograffwyr hyn wedi’u lleoli yng Nghymru yn bennaf ac yn tynnu lluniau syfrdanol o’r eiliadau hudolus maen nhw’n eu gweld a’r lleoedd cyfareddol maen nhw’n ymweld â nhw. Bydd eu lluniau yn eich tywys ar brofiad gwyllt a disglair a fydd yn gwneud i chi deimlo fel eich bod yn y foment gyda nhw, a fydd, gobeithio, yn eich annog i ymweld â'r safleoedd syfrdanol hynny a bod yn dyst i'r harddwch a'r mawrfrydedd eich hun. 

@harplington: Er bod Georgina Harper yn tynnu llawer o luniau yng Nghymru, mae ganddi luniau o fannau eraill yn y DU ac yn Ewrop. Serch hynny, maen nhw’n rhyfeddol.  

@alynwallace: I’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn astroffotograffeg, syllu ar y sêr a’r gofod allanol, mae'n rhaid dilyn y cyfrif hwn.

@finn: Mae Finn Beales yn ffotograffydd arobryn o Gymru. Mae’n byw yn y Mynyddoedd Duon, sef grŵp o fryniau sy’n lledaenu dros dde-ddwyrain Cymru i rannau o Loegr. Er bod ei dudalen Instagram yn cynnwys lluniau o’i deithiau i bob cwr o’r byd, mae’n postio lluniau swrrealaidd o’i gartref yma yng Nghymru nawr ac yn y man. 

@photoj_lorna: Ffotonewyddiadurwr yw Lorna Cable a raddiodd o Brifysgol De Cymru. Mae hi’n ymgyrchydd sy’n mynd i brotestiadau a ralïau gwahanol a gynhelir yng Nghaerdydd, gan dynnu lluniau ohonynt.  

Bwyd

@cardiff.foodguide: Mae'n debyg mai dyma’r cyfrif canllaw bwyd mwyaf yng Nghymru. Mae'r dudalen hon ar Instagram yn cynnig adolygiadau ffotograffig manwl o fwytai ledled de-ddwyrain Cymru. Mae ganddi adran uchafbwyntiau helaeth lle maen nhw’n trefnu bwytai yn ôl y bwyd a gynigir ynddynt. 

@cardiffhalalfood: Mae’r cyfrif poblogaidd a gweithredol hwn ar Instagram yn cynnig adolygiadau o fwytai Halal yng Nghaerdydd a de Cymru. Maen nhw’n postio lluniau o’r bwytai maen nhw’n mynd iddynt ac yn trafod ansawdd, pris, maint platiau bwyd a mwy. 

@cardiffffoodie: Blogiwr/ffotograffydd arall yng Nghaerdydd. Mae’r dudalen hon yn llai beirniadol o’r bwyd ac yn fwy o dudalen sy’n cynnig ffotograffau o fwyd. Maen nhw’n postio llawer o luniau am bwdinau a bwydydd melys!

@cardifffoodjunkie: Ar gyfer pawb sy'n hoff o fwyd sothach, diwallwch eich chwantau drwy ddilyn y dudalen hon ar Instagram y mae eu negeseuon yn ymwneud yn llwyr â bwydydd sothach, gan gynnwys byrgyrs, pwdinau, losin, cacennau, toesenni, a chymaint mwy. Mae’r sawl sy’n gweinyddu’r dudalen yn cyfaddef ei hun ei fod yn arbenigwr donuts! 

@cardiffandswanseafoodie: Dyma gyfrif blogio ac adolygu bwyd arall yng Nghaerdydd ac yn Abertawe. 

@huntinghalalcardiff: O ran bwyd, yn ôl pob tebyg, mae cryn dipyn o fwytai sy'n gwbl Halal neu'n rhannol Halal yng Nghaerdydd. Oherwydd y gall fod yn anodd darganfod pa fwytai ydyn nhw, ewch draw i’r dudalen hon ar Instagram i weld pa opsiynau sydd ar gael. Maen nhw hefyd yn cynnig adolygiadau ar y bwytai maen nhw’n ymweld â nhw, er bod yr adolygiadau’n tueddu i fod yn fwy byr a syml.  

@diffoodreviews: Cyfrif blogio ac adolygu bwyd arall eto wedi'i leoli yng Nghaerdydd a all eich ysbrydoli i ddewis bwyty i fynd iddo ar eich pen eich hun neu gyda'ch ffrindiau pan nad oes gennych unrhyw syniad o gwbl beth rydych chi am ei fwyta na ble rydych chi am fynd. 

@avantgardevegan: Credwch neu beidio, mae Gaz Oakley, enw mawr ymhlith prif gogyddion figan, yn dod o Gaerdydd yn wreiddiol! Dilynwch ei gyfrif i gael lluniau o brydau bwyd llysieuol, boddhaus a blasus y bydd y rhai nad ydyn nhw’n llysieuol yn ei gweld hi’n anodd eu gwrthod. (Mae i fod i wneud cyhoeddiad am fwyty yn fuan, croesi bysedd y bydd yng Nghaerdydd!) 

@mincepiereviewswales: I’r rhai ohonoch sy’n chwilio am ateb i’r cwestiwn sydd, yn ôl pob tebyg, y cwestiwn mwyaf tyngedfennol dros adeg y Nadolig, ‘ble i ddod o hyd i’r mins pei gorau?’ Rydym yn cyflwyno’r cyfrif Instagram hwn sy’n ateb yr union bwrpas hwnnw i chi heddiw. Maent wedi bod yn cynnal y cyfrif ers dwy flynedd bellach, ac yn ystod y ddwy flynedd hyn mae'r un archfarchnad wedi'i datgan yn fuddugol ym Mhrydain.