By
Lauren RLC
Posted 2 years ago
Tue 06 Sep, 2022 12:09 PM
Dyma ardal o ganol y ddinas sydd bob amser yn brysur, mae Heol Eglwys Fair yn un o'r strydoedd mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd. Bydd y post hwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r lleoedd gorau i siopa, i fwyta ac i gael hwyl ar y stryd, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch amser yng Nghaerdydd!
Ble i Siopa
Heb os, y lle gorau i chwilio am siopau diddorol, trawiadol ar Heol Eglwys Fair yw yn un o'r sawl arcêd ynddi. Gyda 4 arcêd gwahanol — Castle, Royal, Wyndham a Morgan — mae llu o fusnesau annibynnol ychydig o lathenni o’r brif stryd yn aros am i chi eu darganfod! Os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd yn gyntaf, ein hargymhelliad yw rhoi cynnig ar Arcêd y Castell. Mae’r siop de The Bird and Blend yno pe hoffech bori trwy flasau newydd ffansi o de, mae Fabulous Welshcakes yno os ydych chi eisiau cael byrbrydau melys a Coffee Barker os oes awydd arnoch fod mewn lle clyd gyda diod boeth. Yn bendant dylech chi edrych drwyddyn nhw i gyd, serch hynny - mae yna ddigon o leoedd diddorol i'w darganfod!
Os ydych chi ond yn chwilio am y pethau hanfodol (pryd parod, papur tŷ bach neu fyrbrydau brys), Heol Eglwys Fair hefyd yw’r stryd i chi. Gyda Sainsbury's Local a Tesco Express, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i beth bynnag sydd ei angen arnoch chi yn yr ardal hon o'r ddinas.
Lleoedd Bwyta
Un peth nad yw’n brin yn Heol Eglwys Fair yw bwytai – mae lleoedd diddorol i’w bwyta ar hyd dwy ochr y stryd! Yn ogystal â chadwyni poblogaidd fel Turtle Bay a Pizza Express, mae yna fwytai annibynnol llai hefyd y dylech chi roi cynnig arnyn nhw fel Chai Street Indian a Juniper Place. Mae'r stryd yn cynnig prydau o amrywiaeth eang o ddiwylliannau a bwydydd, sy'n golygu bod rhywbeth at ddant pawb yno.
Mae'r Heol yr Eglwys Fair hefyd yn stryd berffaith os ydych chi'n hoff o fwyd cyflym. Gwelwch chi bron pob bwyty bwyd cyflym y gallwch chi feddwl amdano ar bob ochr i’r strydoedd, o Taco Bell i Subway, felly gallwch chi gael gafael mewn beth bynnag rydych yr hoffech chi ei fwyta.
Ond os na allwch ffeindio’r hyn rydych ei eisiau ar Heol Eglwys Fair, yna mae mynedfa i Chwarter y Bragdy ar ddiwedd y ffordd. Mae hyd yn oed mwy o fwytai a bwyd cyflym yma i chi gael dewis ohonyn nhw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn fforio yno!
Pethau i'w Gwneud
Mae Heol Eglwys Fair yn stryd wych i deithio iddi os ydych chi’n teimlo’n ddiflas yng nghanol y ddinas - mae dewis o bethau gwych i'w gwneud yn y ffyrdd sydd ar bob ochr iddi. Mae'r arcedau'n lle gwych i grwydro ynddyn nhw os nad ydych chi’n teimlo fel gwneud rhywbeth penodol - maen nhw'n brydferth ac fel arfer yn dawelach na'r prif strydoedd, gan eu gwneud yn berffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol wrth chwilota yn y siopau.
Os ydych chi’n teimlo fel cael diwrnod allan llawn hwyl, mae’n bosibl cerdded yn uniongyrchol i lawr Heol Eglwys Fair i orsaf Caerdydd Ganolog. Mae trenau yn teithio o’r orsaf ar draws y DU gyfan, gyda dinasoedd cyfagos fel Bryste a Chaerfaddon yn llai nag awr o daith i ffwrdd. Byddai'r rhain yn gyrchfannau perffaith ar gyfer taith undydd os ydych chi eisiau bod yn rhywle arall - ond peidiwch ag anghofio i wirio amseroedd a phlatfformau’r trenau!
Ar yr un stryd â Gorsaf Ganolog Caerdydd fe welwch Stadiwm Principality, sy'n cynnal digwyddiadau chwaraeon a chyngherddau yn rheolaidd, yn ogystal â Sinema Vue a Superbowl. Mae'r rhain yn gwneud gweithgareddau bondio perffaith i chi a'ch ffrindiau neu’r rhai sy’n byw gyda chi, felly ewch i’w gweld nhw os ydych chi ar Heol Eglwys Fair.
Prif atyniad arall Heol Eglwys Fair yw ei bywyd nos — mae'r stryd yn brysurach byth pan fydd hi’n dywyll! Os ydych yn hoffi cerddoriaeth, dawnsio ac awyrgylch bywiog, mae'n bendant y dylech ddod yma — gallwch gael diod (di-alcohol hefyd!) gyda ffrindiau a mwynhau amser gwych.
Nawr eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ewch i Heol Eglwys Fair drosoch eich hun — porwch drwy'r siopau, mwynhewch y bwyd a rhowch gynnig ar rai o'r gweithgareddau y gallwch eu gwneud. Mwynhewch y fforio!