By
Lauren RLC
Posted 4 years ago
Thu 17 Sep, 2020 12:09 PM
Parc Bute
Disgrifiad: Mae’r parc anferth hwn y tu ôl i breswylfeydd Tal-y-bont y Brifysgol. Mae Afon Taf yn mynd drwy ganol y parc, ac mae’n ddelfrydol i fyfyrwyr ddianc yno unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Mae ganddo gaeau rygbi a phêl-droed yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio. Mae hefyd mannau picnic hardd di-ri.
Lleoliad: Ffordd y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER
Oriau agor: 24/7
Gwefan: https://bute-park.com
Parc Hailey
Disgrifiad: Mae Parc Hailey’n parhau tua’r gogledd o Barc Bute. Mae’n debyg iawn iddo, ond mae hefyd ganddo barc calithenics bach i’r rhai hynny sydd â diddordeb.
Lleoliad: 88 Heol Tŷ Mawr, Gogledd Llandaf, Caerdydd CF14 2FQ
z24/7
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/hailey-park/
Caeau Llandaf
Disgrifiad: Mae Caeau Llandaf, ger Parc Bute, yn cynnwys nifer o gaeau chwaraeon – mae’r rhai ohonynt yn rhad ac am ddim ac yn agored i’w defnyddio, ac mae modd llogi’r gweddill. Mae hefyd nifer o gyrtiau tenis sy’n agored drwy gydol y flwyddyn ac yn rhad ac am ddim i’w defnyddio. Fel y rhan fwyaf o barciau eraill, mae llwybrau rhedeg a beicio a mannau hardd i gael picnic.
Lleoliad: Pontcanna, Caerdydd CF11 9HZ
Oriau agor: 24/7
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/llandaff-fields/
Parc y Rhath
Disgrifiad: I lawer o bobl, uchafbwynt Parc y Rhath yw’r llyn gyda’r hwyaid swnllyd a’i elyrch mawreddog, ond mae hefyd yn werth ymweld â’r ardd fotaneg.
Lleoliad: Lake Rd W, Caerdydd CF23 5PA
Oriau agor: Mae’r parc a’r gerddi difyrion ar agor rhwng 7.30am a 30 munud cyn i’r haul fachlud. Mae’r caeau hamdden ar agor ddydd a nos.
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/roath-park/
Parc y Mynydd Bychan
Disgrifiad: Mae’r goedwig, y llynnoedd a’r gwlypdiroedd ym Mharc y Mynydd Bychan yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt, gan gynnwys y fadfall ddŵr gribog. Mae siglenni hefyd i chi ymlacio arnynt!
Lleoliad: 149 King George V Dr E, Caerdydd CF14 4EN
Oriau agor: 24/7
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/heath-park/
Gerddi Alexandra
Disgrifiad: Mae Gerddi Alexandra, sy’n rhan o barciau Cathays, yng nghanol campws Cathays Prifysgol Caerdydd. Gyda’i gerfluniau a’i ffynhonnau, gan gynnwys Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, mae’r parc hyfryd hwn yn ddihangfa berffaith pan gewch awr i’w sbario rhwng darlithoedd!
Lleoliad: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NB
Oriau agor: 24/7
Gwefan: http://www.cardiffparks.org.uk/cathays/info/alexandragardens.shtml
Gerddi'r Orsedd
Disgrifiad: Mae Gerddi’r Orsedd, sydd hefyd yn rhan o barciau Cathays, ar Blas y Parc, ac felly ger y prif adeilad ac Undeb y Myfyrwyr. Cynhelir digwyddiadau yno trwy gydol y flwyddyn, ond gellir dadlau mai Gŵyl y Gaeaf yw’r un mwyaf arbennig.
Lleoliad: Ffordd Gerddi’r Orsedd, Caerdydd CF10 3NP
Oriau agor: 24/7
Gwefan: http://www.cardiffparks.org.uk/cathays/info/gorsedd.shtml
Gerddi Friary
Disgrifiad: Mae’r trydydd parc sy’n rhan o dri pharc Cathays, Gerddi Friary, yn ardd fach, ffurfiol mewn siâp triongl. Mae ganddo system flodau unigryw sy'n berffaith ar gyfer edmygwyr blodau neu i gael seibiant tawel pan fyddwch yn agos at ganol prysur y dref.
Lleoliad: Gerddi Friary, Ffordd y Gogledd, Caerdydd CF10 3HH
Oriau agor: 24/7
Gwefan: http://www.cardiffparks.org.uk/cathays/info/friarygardens.shtml
Parc Thompson
Disgrifiad: Dyma barc heb ei werthfawrogi'n fawr yn Nhreganna gyda cherflun rhyfeddol o ‘Joyance’ (cerflun ffynnon gan Syr William Goscombe John).
Lleoliad: 31 Syr David's Ave, Caerdydd CF5 1GH
Oriau agor: 7.30am – 30 munud cyn i’r haul fachlud.
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/thompsons-park/
Parc Fictoria
Disgrifiad: Mae Parc Fictoria, parc poblogaidd yn Nhreganna, yn rhywle y gallwch fynd â brodyr a chwiorydd neu gefndryd iau os ydyn nhw’n dod i Gaerdydd, oherwydd bod ganddo faes chwarae dŵr!
Lleoliad: Victoria Park Rd E, Caerdydd CF5 1EH
Oriau agor: 7.30am – 30 munud cyn i’r haul fachlud.
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/victoria-park/
Parc Cefn Onn
Disgrifiad: Parc enfawr wedi'i leoli ar gyrion Caerdydd, mae'n bendant yn werth taith ddydd gyda'i goedwigoedd, pyllau, coed blodeuol, gweithiau celf murlun a llawer mwy.
Lleoliad: Llys-faen, Caerdydd CF14 0EP
Oriau agor: 7.30am – 30 munud cyn i’r haul fachlud.
Gwefan: https://www.outdoorcardiff.com/parks/parc-cefn-onn/