By
Lauren RLC
Posted 4 years ago
Thu 17 Sep, 2020 12:09 PM
Ystyriwch ba ardaloedd sydd angen i chi eu glanhau, a sicrhewch fod gennych y cynhyrchion cywir. Er bod rhai cynhyrchion yn addas ar gyfer pob arwyneb a gallwch eu defnyddio ar amrywiaeth eang o arwynebau, mae gan gynhyrchion glanhau gymwysiadau penodol y rhan fwyaf o'r amser ac ni fyddant yn gweithio'n effeithiol ar arwynebau eraill. Er enghraifft, os hoffech lanhau eich ystafell ymolchi, efallai y bydd angen i chi brynu cynhyrchion glanhau gwahanol ar gyfer y toiled a'r cawod. Gall fod angen defnyddio menig glanhau trwchus ar gyfer rhai sylweddau wrth lanhau, felly sicrhewch fod gennych y menig hynny hefyd.
Rhestr o bethau y gallai fod eu hangen arnoch:
- Rhywbeth ar gyfer lloriau'r gegin a'r cyntedd (nid yw brwsio'n ddigon, credwch chi fi).
- Toddiant toiled.
- Toddiant arwynebau ystafelloedd ymolchi cyffredinol.
- Potel o ddiheintydd (gweithio ar sawl arwyneb, a gellir ei wanhau os oes angen).
- Diheintydd/glanhäwr arwyneb (gall hefyd fod yn llieiniau diheintydd).
- Menig.
- Sbyngau/cadachau rydych yn eu defnyddio i lanhau yn unig.
- Tynnwch bob eitem oddi ar yr arwynebau rydych am eu glanhau. Os hoffech sychu eich desg, symudwch bopeth oddi arni fel ei bod hi'n wag a gallwch sicrhau nad ydych yn colli unrhyw smot. Peidiwch byth â glanhau'r wynebau sy'n weladwy yn unig.
- Sicrhewch eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau cynhyrchion. Bydd angen i chi olchi rhai gyda dŵr ar ôl eu defnyddio, a gallwch ddefnyddio eraill ar yr arwynebau heb orfod gwneud dim byd arall. Sicrhewch eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau bob amser. Byddant hefyd yn dweud wrthych faint o'r cynnyrch sydd angen i chi ei ddefnyddio – nid yw gormod na dim digon yn ddelfrydol.
- Gadewch i'r arwynebau sychu cyn rhoi eich pethau yn ôl.
Awgrymiadau Pro:
Glanhewch yr ystafell anoddaf/mwyaf annifyr gyntaf. Gall hyn fod yn eich ystafell ymolchi, eich cegin neu hyd yn oed eich ystafell wely. Drwy wneud hyn gyntaf, nid yn unig y byddwch yn sicrhau eich bod yn glanhau'r ystafell sydd angen y mwyaf o waith pan fyddwch fwyaf egnïol, ond mae hefyd yn rhoi ymdeimlad o foddhad sy'n eich helpu i symud ymlaen at y dasg nesaf.
Dystiwch CYN sugno'r llwch. Y rhesymeg y tu ôl i hyn yw wrth i chi ddystio, caiff llawer o ronynnau eu rhyddhau i'r aer, a fydd yn glanio ar y llawr yn y pen draw. Os byddwch yn sychu llwch ar ôl hyn, yna bydd gwell siawns gennych i gael mwy o'r gronynnau hynny.
Gwrandewch ar gerddoriaeth. Rydym yn gwybod nad yw glanhau ar frig y rhestr o'ch hoff ddiddordebau, ond gallwch ei fwynhau yn fwy drwy wrando ar gerddoriaeth dda yn y cefndir. Hefyd, mae'n ffordd dda o dynnu eich sylw.