Fy Ngofod Cymdeithasol

Posted 1 year ago

Campws y Gogledd

Ble yw e?

Mae derbyniad Neuadd y Aberdâr ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r neuadd fwyta ar agor i drigolion arlwyo pryd bynnag y bydd prydau bwyd yn cael eu gweini, ac yn ystod yr amseroedd hyn gellir lleoli'r Tîm Bywyd Preswyl naill ai yn y gofod y tu allan i'r ystafell fwyta neu ystafell Isabel Bruce. Mae hyn yn gyfystyr â 'gofod cymdeithasol' Campws y Gogledd, lle gallwch ymuno â'n RLAs ar gyfer diodydd poeth, gemau bwrdd, sgwrs gyfeillgar neu amrywiaeth o weithgareddau eraill yn dibynnu ar ddigwyddiadau'r noson!

Mae'r prif ddrws yn Aberdâr ar agor yn ystod oriau'r dderbynfa tan 6yh, ond os yw RLAs yn cynnal digwyddiad bydd y drws ar agor gyda'r nos hefyd.

Mewn tywydd heulog, cadwch lygad amdanom tu allan o dan y babell fawr yn Aberconwy!

Isod mae canllaw gweledol o sut i ddod o hyd i ni:

Pryd ydyn ni yno?

Yn ystod wythnos arferol, mae'r Tîm Bywyd Preswyl yn rhedeg Lolfa Goffi Dydd Mawrth - Dydd Iau, 6:30-9pm, lle gallwch ddod i sgwrsio â'ch RLAs Campws y Gogledd a chydio mewn diod boeth, cymdeithasu a chwarae rhai gemau bwrdd gyda'ch ffrindiau (neu hyd yn oed wneud rhai newydd!) .

Yn ogystal â'r digwyddiadau wythnosol mae gennym ddigwyddiadau arbennig sydd wedi'u cynllunio gan Gynorthwywyr Bywyd Preswyl – gwnewch yn siŵr o gadw llygad ar ein tudalennau Eventbrite ac Instagram i gael diweddariadau! Os ydych chi am gwrdd â'r RLAs ar eich safle edrychwch ar ein tudalen 'cwrdd â'r tîm'.

Dyma rai o'n digwyddiadau diweddar:

'Ŵy-Strafagansa Pasg!'

'Celfwch Eich Dillad'

'Dathliad Dydd Gŵyl Dewi'

Dim ots beth fydd y tywydd, byddwn bob amser yn cwrdd â chi gyda gwên. Gobeithio y gwelwn ni chi yn un o'n digwyddiadau cyn hir!