Cymerwch 5 i roi 5

Posted 19 hours ago

Mynnwch rôl llais iechyd meddwl a lles myfyrwyr

Fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, soniwch wrthon ni am eich profiadau a'ch cyngor gwerthfawr am iechyd meddwl mewn prosiect fideo pwerus fydd yn para am 10 munud.

Cymerwch 5: Siaradwch am eich profiadau bywyd go iawn o ran iechyd meddwl a lles yn y brifysgol

Rhowch 5: Trosglwyddwch eich gwybodaeth a enillwyd yn galed i'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr

Yn ddiolch am eich ymrwymiad, bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael:

  • tocyn am ddim i'r Clwb Swper 3 chwrs, sydd ond ar gael drwy wahoddiad, ar 14 Ionawr, 18:00-20:00
  • taleb siop fwyd gwerth £15

Dim ond 10 munud bydd y ffilmio yn ei gymryd, a hwyrach y bydd eich profiadau’n newid bywyd myfyriwr.

Yn barod i adael eich etifeddiaeth ac ymuno â'r Clwb Swper? Cofrestrwch isod. 

(Bydd aelod o dîm cynhyrchu Bywyd y Campws yn cysylltu â chi.)