Posted 4 years ago
Thu 17 Sep, 2020 12:09 PM
Dyma'r cyfle i chi! Gall symud i ddinas neu ardal newydd fod yn anodd wrth geisio dod o hyd i fwyd penodol. Dylech ymgyfarwyddo â stryd yng Nghaerdydd sy’n cynnwys siopau sy’n gwerthu pob math o fwyd Halal yn bennaf. Ceir map o’r stryd isod. Mae Ffordd Dinas (City Road), ym Mhlasnewydd, yn agos at y rhan fwyaf o breswylfeydd myfyrwyr.
Yn bersonol, rwy’n argymell Canolfan Fwyd Ryngwladol (International Food Centre) a City Bakery ymysg y siopau. A minnau’n fyfyriwr rhyngwladol, rwyf bob amser yn teimlo’n gartrefol wrth siopa yn y ddwy archfarchnad hyn. Mae’r archfarchnadoedd bob amser yn cynnig yr hyn sydd ei angen arnaf – o gigoedd ffres i eitemau na allwch ddod o hyd iddynt yn Tesco neu Sainsbury’s.
At hynny, cewch hyd i nifer o fwytai gwych sy’n cynnig bwyd Halal yn unig. Awgrym ar gyfer dod o hyd i fwytai Halal, nid ar Ffordd Dinas yn unig, fyddai chwilio am siopa cyw iâr gyda stamp bwyd Halal ym mlaen y siop.
Yn olaf, cafodd KFC ar Heol y Frenhines (Queen Street) ardystiad Halal yn ddiweddar, felly mae hynny’n wych!